Arfer effeithiol Archives - Page 11 of 67 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr Ysgol

Lleolir Ysgol Brynaman mewn ardal wledig wrth droed y Mynydd Du. Mae’r ysgol yn gwasanaethu’r pentref a’r pentrefi cyfagos o Rosaman, Ystradowen a Cefnbrynbrain. Yn ogystal, mae tua 20% o’r plant yn byw yn awdurdod lleol Castell Nedd a Phort Talbot. Daw 15% o blant o gartrefi lle siaradwyd Cymraeg yn rhugl, sy’n rhif sydd wedi gostwng yn araf dros y blynyddoedd. 

Mae gan ddysgwyr amrywiaeth o gefndiroedd cymdeithasol, gyda lleiafrif yn dod o deuluoedd difreintiedig. 25% o blant sydd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, sy’n rhif sydd wedi codi yn sylweddol ers y cyfnodau clo. Mae oddeutu 5% o blant ar y gofrestr ADY.  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Nod y staff, a rhan o weledigaeth yr ysgol yw sicrhau fod pob disgybl yn gwbl ddwyieithog wrth adael Ysgol Brynaman. Dros y tair blynedd diwethaf, ychydig iawn o blant sydd yn dechrau’r dosbarth meithrin gydag unrhyw fedrau Cymraeg. Yn ogystal, o ganlyniad i’r pandemig, roedd lleiafrif o blant wedi colli’r hyder i siarad Cymraeg trwy’r ysgol. Roedd rhaid felly i’r ysgol ail edrych ar ei chwricwlwm, cynllunio ac addysgeg. Y nod oedd sicrhau fod digon o gyfleoedd bwriadus i ddisgyblion glywed iaith gyfoethog trwy fodelu da o’r Gymraeg, a fyddai wedyn yn eu hysgogi i fedru siarad yn y Gymraeg yn rhugl. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae gan arweinwyr ddisgwyliadau uchel a phendant i hybu’r iaith Gymraeg sydd yn treiddio trwy holl staff yr ysgol. Mae staff yn modelu’r iaith yn gywir yn gyson. Maent yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau yn grefftus sy’n helpu disgyblion i ddatblygu eu rhuglder. Maent yn bwydo geirfa yn fwriadus ac mae ganddynt ddisgwyliadau uchel wrth annog disgyblion i ymateb yn gywir mewn sesiynau siarad a gwrando penodol. Pwysleisir tafodiaith unigryw yr ardal yn gyson mewn gweithgareddau a gwasanaethau. Anogir disgyblion i siarad Cymraeg gan y Criw Cymraeg, gyda chaneuon Cymraeg yn cael eu chwarae ar y buarth bob amser chwarae i godi proffil yr iaith yn ystod amseroedd hamdden.  

Mae staff y dosbarthiadau meithrin a derbyn yn darparu cyfleoedd buddiol i ddisgyblion canu rhigymau, ac ymarfer patrymau iaith mewn sesiynau torfol byr a bachog.  Atgyfnerthir y rhain mewn  gweithgareddau grŵp hwylus ac ymarferol yn yr ardal byd dychmygol. Er enghraifft, yn y dosbarth meithrin, maent yn darparu adnoddau synhwyraidd i gyd-fynd â stori’r Tri Mochyn Bach. Wrth i’r disgyblion arbrofi gyda’r brigau a gwellt, gan chwythu a chnocio, mae staff yn chwarae wrth eu hochrau, gan fwydo geirfa yn gyson ac yn eu hannog i ymateb yn briodol. Enghraifft arall yw’r defnydd effeithiol o weithgareddau rhifedd ymarferol yn y dosbarth derbyn wrth i’r disgyblion ychwanegu gwelltyn i’r wynebau moel, gyda staff yn bwydo’r eirfa’n fwriadus iddynt. Ar draws yr ysgol, ceir sesiynau darllen torfol ar ddiwedd y dydd. Er enghraifft, ym Mlwyddyn 2 mae disgyblion yn pleidleisio am y stori maent am glywed, gyda’r athrawes eto yn defnyddio geirfa megis teitl, broliant, awdur a darlunydd i atgyfnerthu geirfa lenyddol i’r disgyblion cyn darllen y stori. Defnyddir arwyr cyfoes a lleol i hybu diddordeb y disgyblion. Er enghraifft, ym Mlwyddyn 6, defnyddir clip fideo yn Gymraeg o gapten rygbi Cymru sy’n cyn disgybl yr ysgol yn gosod her rhifedd i’r disgyblion. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r dulliau a’r gweithgareddau uchod, datblygwyd ethos Cymreig yn yr ysgol gyda’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn falch iawn eu bod yn mynychu ysgol Gymraeg ac yn defnyddio’r iaith gyda balchder. Mae plant y dosbarthiadau meithrin a derbyn yn datblygu medrau gwrando a siarad Cymraeg o oedran cynnar. Wrth i’r disgyblion symud trwy’r ysgol, maent yn dod yn siaradwyr gynyddol hyderus. Maent yn cynnig atebion i staff yn Gymraeg ac yn awyddus i siarad gydag ymwelwyr. Mae’r defnydd o arwyr cyfoes lleol wedi datblygu agwedd o berthyn i’w cymuned, balchder cynyddol i siarad Cymraeg yn y dosbarth, ond hefyd ar y buarth hefyd. Erbyn diwedd eu hamser yn Ysgol Brynaman, mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion hynaf yn falch o fod yn ddisgyblion hollol ddwyieithog. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhannwyd arfer dda yn gyntaf gyda’r holl staff, i sicrhau cysondeb yn natblygiad yr iaith drwy’r ysgol. Rhannwyd hyn hefyd gyda’n rhanddeiliaid, megis mewn cyfarfordydd llywodraethwyr, ac nosweithiau agored i rieni, ble yn ogystal rhoddwyd syniadau i rieni ar sut i hybu ac helpu eu plant i siarad Cymraeg tu allan i’r ysgol.

Rydym wedi rhannu ein arfer dda gydag ysgolion y clwstwr hefyd wrth iddynt ymweld â’r ysgol.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Sefydlwyd Genus Education ym mis Chwefror 2010 fel ysgol arbennig annibynnol ar gyfer disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Gweinyddir yr ysgol gan Genus Care Limited sy’n gweithredu saith cartref plant ledled De Cymru ar hyn o bryd. Mae Genus Education yn darparu addysg ar gyfer plant sy’n byw yng nghartrefi plant y cwmni nad ydynt yn gallu derbyn addysg brif ffrwd. Mae’r ysgol wedi’i chofrestru ar gyfer hyd at ddeg disgybl rhwng saith ac un deg wyth oed. Mae chwe disgybl ar y gofrestr ar hyn o bryd, ac mae gan ryw hanner ohonynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Caiff yr holl ddisgyblion eu lleoli gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r pennaeth addysg wedi bod yn ei swydd er 2019 ac yn goruchwylio addysg ar draws safleoedd yr ysgol. Caiff ei gynorthwyo gan dîm o dri athro a staff gofal sy’n gweithio yn y cartrefi preswyl. Cynhaliwyd yr arolygiad llawn diwethaf gan Estyn ym mis Medi 2023. Roedd yr ymweliad monitro diwethaf ym mis Medi 2022. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Genus Education, sy’n cael ei arwain gan ymrwymiad i addysg gyfannol, yn croesawu athroniaeth Syr Ken Robinson, sy’n cydnabod y doniau cynhenid arbennig ym mhob plentyn. Trwy ddeall arwyddocâd amlygu disgyblion i gasgliad amrywiol o weithgareddau, mae’r ysgol wedi cyflwyno menter ‘Darganfod fy Elfen’. Nod y rhaglen hon yw grymuso disgyblion trwy ddarparu cyfleoedd i archwilio diddordebau newydd, datblygu medrau cymdeithasol hanfodol ac amlygu doniau cudd. Mae Genus Education yn credu bod amlygrwydd cyfyngedig i weithgareddau amrywiol yn gallu bod yn rhwystr rhag darganfod y doniau hyn. Mae menter ‘Darganfod fy elfen’ (‘Finding my element’) yn cynnig platfform misol i ddisgyblion ymgymryd â sbectrwm eang o weithgareddau nad oeddent wedi cael eu harchwilio o’r blaen. Mae hyn nid yn unig yn meithrin twf personol a datblygiad cymdeithasol, ond mae hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer archwilio gyrfaoedd yn y dyfodol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r fenter yn mynd rhagddi trwy weithgareddau archwilio misol sy’n cwmpasu chwaraeon, y celfyddydau, digwyddiadau diwylliannol, teithiau natur, gwasanaeth cymunedol, a gweithdai galwedigaethol. Er enghraifft: gwaith gof, celf graffiti, ffensio, gwaith dj, crochenwaith, syrffio, gweithdai hud a lledrith, marchogaeth a chrefft ymladd.  

Mae’r gweithgareddau hyn yn gynhwysol, yn annog pob un o’r disgyblion o fewn Genus Education i gymryd rhan. Ymestynnir hyn trwy sesiynau myfyrio dan arweiniad i helpu disgyblion i ddisgrifio eu diddordebau esblygol a sgwrs benodol gyda hyfforddwyr yn rhoi manylion am lwybrau gyrfa o fewn y gweithgaredd. Mae’r strategaeth hefyd yn pwysleisio datblygu medrau cymdeithasol trwy weithgareddau grŵp ac yn ymgorffori cynlluniau dysgu personoledig i gyd-fynd â thwf academaidd a phersonol. 

Mae menter ‘Darganfod fy elfen’ Genus Education yn meithrin archwilio, hunanddarganfod a datblygiad cymdeithasol. Nod yr ysgol yw paratoi disgyblion ar gyfer llwyddiant academaidd ond hefyd ar gyfer bywyd yn llawn diben a chyflawniad. Mae adolygu ac addasu’r fenter yn barhaus yn dangos ymroddiad i sicrhau ei llwyddiant parhaus wrth gyflawni ei hamcanion. Trwy’r polisi cynhwysfawr hwn, mae Genus Education yn ffurfio cenhedlaeth o ddisgyblion sydd wedi’u harfogi i gyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas a byw bywydau ag iddynt arwyddocâd. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae disgyblion yn darganfod angerdd sy’n mynd y tu hwnt i bynciau academaidd traddodiadol.  Adlewyrchir y pwyslais ar fedrau cymdeithasol mewn perthnasoedd rhyngbersonol gwell, cyfathrebu effeithiol, cydweithredu, datrys gwrthdaro ac arweinyddiaeth. Mae’r cynlluniau dysgu personoledig yn sicrhau bod diddordebau disgyblion yn cael eu hintegreiddio yn eu taith addysgol, gan greu amgylchedd dysgu cefnogol. Mae’r fenter nid yn unig yn paratoi disgyblion ar gyfer dysgu gydol oes ac archwilio gyrfaoedd, ond hefyd yn cyfrannu’n gadarnhaol at eu twf personol a’u grymuso. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae Genus Education yn cydnabod pwysigrwydd partneriaeth gref rhwng yr ysgol a rhieni neu warcheidwaid. Caiff cyfarfodydd rheolaidd, diweddariadau cynnydd, gweithdai a chyfleoedd ar gyfer ymgysylltu gweithredol eu hwyluso i’w cynnwys yn nhaith addysgol eu plentyn. Mae’r ymagwedd gydweithredol hon yn sicrhau bod manteision ‘Darganfod fy elfen’ yn ymestyn y tu hwnt i waliau’r ysgol, gan greu system cymorth cyfannol ar gyfer y disgyblion. 

Yn ychwanegol, mae’r ysgol yn mynd ati i rannu ei harferion da â’r gymuned addysgol ehangach.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol   

Mae Ysgol Emmanuel yn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg sydd â dau ddosbarth mynediad yn Y Rhyl. Mae’r ysgol wedi’i lleoli mewn ardal o amddifadedd lluosog ac mae dalgylch yr ysgol yn cynnwys dwy o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae 460 o ddisgyblion ar y gofrestr a 63% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer yr awdurdod lleol a Chymru. Ar hyn o bryd, mae 7% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol gydag 11 o wahanol ieithoedd yn cael eu siarad. Ar hyn o bryd, mae 3% o ddisgyblion yn derbyn gofal neu wedi derbyn gofal yn y gorffennol. Mae gan yr ysgol ddarpariaeth adnoddau a ariennir ar gyfer disgyblion ag ADY, hefyd.   

Gweledigaeth yr ysgol yw: ‘fel cymuned, rydym yn dysgu, yn tyfu ac yn cyflawni gyda’n gilydd’. Prif nodau’r ysgol yw helpu pobl ifanc i ddeall sut i fod yn hapus a datblygu a chynnal eu lles emosiynol, corfforol a meddyliol eu hunain; bod yn gynhwysol; creu cymuned sy’n meithrin goddefgarwch, parch ac empathi mewn pobl ifanc; lleihau effaith tlodi ar ddeilliannau a lles ar gyfer disgyblion ac ymestyn datblygiad proffesiynol staff. Mae’r ymagwedd ysgol gyfan hon yn cyd-fynd â phob un o’r nodau hyn.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol wedi’i lleoli mewn ardal ag amddifadedd uchel, ac o’r herwydd, mae ganddi niferoedd uchel o ddisgyblion sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rhoddir blaenoriaeth i wella ymgysylltiad disgyblion a chefnogi llwyddiant addysgol ac emosiynol. Yn hanesyddol, roedd rhai disgyblion wedi cael trafferth â hunanreoli a oedd yn effeithio ar ddysgu ac ymgysylltu. Roedd niferoedd cynyddol o ddisgyblion ag anghenion dysgu eraill ac roedd angen cymorth pwrpasol arnynt i’w helpu i gyflawni. Cydnabu’r ysgol fod angen ymagwedd wahanol gan nad oedd arddull bresennol rheoli lles ac ymddygiad disgyblion yn gweithio’n effeithiol. Cytunwyd bod angen ymagwedd yn ystyriol o drawma sy’n seiliedig ar ymchwil. Byddai hyn yn galluogi staff i ddeall anghenion disgyblion a sut gallai trawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fod yn rhwystr rhag dysgu a llwyddo. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch  

Ar ôl gwerthuso darpariaeth yn yr ysgol, cwblhaodd uwch aelodau ddysgu proffesiynol, a oedd yn canolbwyntio ar niwrowyddoniaeth, straen gwenwynig, theori ymlyniad ac iechyd meddwl a lles ar gyfer disgyblion. Roedd yr hyfforddiant hwn wedi’i seilio ar dystiolaeth yn esbonio effeithiau straen gwenwynig ac yn cadarnhau’r rhesymau y tu ôl i lawer o’r ymddygiad negyddol neu’r dirywiad yn iechyd meddwl disgyblion a welwyd yn yr ysgol. Gan fod angen ymagwedd ysgol gyfan ar gyfer y newid hwn mewn meddylfryd, cyflwynwyd hyfforddiant ar gyfer pob un o’r staff a oedd yn canolbwyntio ar ddefnyddio ymagweddau sy’n ystyriol o drawma, gan gynnwys theori ymlyniad ac effeithiau niweidiol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar ddisgyblion. Roedd y cynnig dysgu proffesiynol hwn hefyd yn canolbwyntio ar wahanol strategaethau i reoli a thawelu disgyblion a phwysigrwydd trefnu bod oedolyn ar gael yn emosiynol ar gyfer pob plentyn, pe bai angen.   

Cyflwynwyd ymateb graddedig ar gyfer disgyblion i ddiwallu eu hanghenion unigol gan ddefnyddio’r un ymagwedd ag ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn unol â gofynion newydd y Bil ADY. Defnyddiwyd offer asesu lles, atgyfeiriadau gan bobl broffesiynol neu geisiadau gan rieni a gofalwyr i nodi disgyblion â’r angen mwyaf dybryd am ymyrraeth. Ar ôl rhoi’r ymagwedd ar waith, estynnwyd dysgu proffesiynol i gynnwys hyfforddi staff ychwanegol mewn ymagweddau ymarferwyr sy’n ystyriol o drawma, a hyfforddwyd staff cymorth ychwanegol i gyflwyno ystod ehangach o ymyriadau lles pwrpasol, yn ogystal ag arfer cyfiawnder adferol. Recriwtiwyd therapydd chwarae cymwys, sy’n gweithio yn yr ysgol ddeuddydd yr wythnos, i gynorthwyo disgyblion â’r angen mwyaf. Trefnodd uwch arweinwyr, gan gynnwys y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CydADY), fore coffi cyfarfod a chyfarch ger gatiau’r ysgol i roi cyfle i rieni a gofalwyr fynegi unrhyw bryderon cyn i ddisgyblion ddechrau eu diwrnod ysgol. Mae staff yn cyfarfod a  chyfarch disgyblion wrth ddrws yr ystafell ddosbarth. Roedd gwiriadau dyddiol gyda disgyblion a oedd yn amharod i ddod i adeilad yr ysgol, neu a oedd angen cymorth ychwanegol i wneud hynny, yn cael eu rhoi ar waith gan y tîm lles. Roedd ci cymorth hyfforddedig yn darparu cymorth tyner a chyfeillgar i ddisgyblion. Roedd staff wedi’u hyfforddi hefyd mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl i blant a daeth yr ysgol yn destun astudiaeth achos ar gyfer rhaglen mewngymorth beilot CAMHS.   

 

ysgol emmanuel - tilly

Addaswyd polisïau, gweithdrefnau a strategaethau rheoli ymddygiad i newid ymagwedd yr ysgol at ymddygiad a lles, a chanolbwyntio ar y pethau cadarnhaol yn hytrach na’r pethau negyddol. Addaswyd amgylchedd ffisegol yr ysgol i ddiwallu anghenion disgyblion yn well a mireinio’r ymagwedd hon; cyflwynwyd corneli ymdawelu mewn ystafelloedd dosbarth a chrëwyd gofodau synhwyraidd i helpu disgyblion i reoli os oeddent yn uwch. Ailgyflwynwyd strategaethau i gynorthwyo disgyblion i reoli eu hymddygiad a chrëwyd tîm lles dynodedig i ddarparu cymorth uniongyrchol ar gyfer disgyblion. Yn dilyn yr ymagwedd hon sy’n ystyriol o drawma, bu’r ysgol yn cydweithio ag ysgolion lleol i gynorthwyo disgyblion sy’n ffoaduriaid a oedd wedi cyrraedd yr ardal yn ddiweddar ar ôl profi trawma rhyfel neu erledigaeth.  

ysgol emmanuel - garden

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr? 

Newidiodd ymagweddau’r ysgol feddylfryd staff a’u gwneud yn fwy ymwybodol o arwyddion iechyd meddwl gwael neu effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar ymddygiad ac ymgysylltiad. Galluogodd hyn uwch arweinwyr i roi’r cymorth mwyaf priodol ar waith ar gyfer disgyblion. Mae safonau wedi gwella o ganlyniad i lefelau gwell o hunanreoli ac ymgysylltiad gan ddisgyblion; yn ychwanegol, mae lefelau gwaharddiadau wedi gostwng a nifer yr achosion o ymddygiad negyddol wedi lleihau. Mae’r ysgol yn amgylchedd tawelach, ac o ganlyniad, mae disgyblion yn barod i ddysgu ac yn gallu cyflawni eu potensial. Mae lefelau presenoldeb yn dychwelyd i lefelau cyn y pandemig ac mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn derbyn gofal yn yr ysgol.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol   

Mae Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi yn ysgol gyfun Gatholig wirfoddol a gynorthwyir 11-16 sydd wedi’i lleoli yng ngogledd Caerdydd. Mae 1130 o ddisgyblion ar y gofrestr ac mae niferoedd y disgyblion wedi cynyddu’n sylweddol yn y pum mlynedd ddiwethaf. Mae tua 21.5% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYDd). Ar hyn o bryd, mae 337 sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol  

Mae’n gymuned Gatholig glos sy’n seiliedig ar werthoedd yr Efengyl. Cenhadaeth yr ysgol yw rhoi Crist yn ganolog i bopeth a wna’r ysgol. Defnyddir Dysgeidiaeth Gymdeithasol Gatholig i drwytho dysgwyr mewn synnwyr o gyfiawnder cymdeithasol, a gofalu a’m bobl eraill a’r byd.   

Mae disgyblion yn byw mewn dalgylch eang, ac yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol, sy’n cynnwys wardiau Llys-faen, Cyncoed, yr Eglwys Newydd, Llanisien, Adamsdown, Llanedern, Pentre-Baen a Phentwyn. Mae tua hanner y disgyblion yn defnyddio cludiant cyhoeddus i deithio i’r ysgol. Daw disgyblion o chwe ysgol gynradd bartner yn bennaf, ond mae dalgylch amrywiol sy’n mynd y tu hwnt i’r chwe ysgol gynradd fwydo.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn dilyn y pandemig, cydnabu arweinwyr fod angen cynorthwyo dysgwyr bregus a oedd wedi syrthio’n ôl â’u dysgu. Defnyddiwyd cyllid o’r grant Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau i benodi dau Bennaeth Cynorthwyol Cysylltiol a deg Arweinydd Adfer Cynnydd i gynorthwyo dysgwyr nad oeddent wedi ymgysylltu â dysgu cyfunol / hybrid. Datblygodd yr ysgol raglen o’r enw ‘ExCEL’ i fagu hyder, codi dyheadau ac ysbrydoli dysgwyr i wneud cynnydd yn eu hastudiaethau academaidd. Ystyr yr enw ExCEL yw Grymuso Dysgwyr Hyderus sydd wedi Ymgysylltu (Empower Confident Engaged Learners).   

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch  

Ar ôl y pandemig, nododd y rhaglen ‘ExCEL’ y 10% o’r dysgwyr mwyaf difreintiedig ym mhob grŵp blwyddyn, a bu’n gweithio gyda nhw. Nodwyd y dysgwyr hynny oedd â’r sgorau ‘agwedd at ddysgu’ isaf gan y Tîm Bugeiliol a rhoddwyd blaenoriaeth i ddisgyblion bregus neu’r rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef tua 120 o ddisgyblion; 24 o bob grŵp blwyddyn. Roedd Arweinwyr Cynnydd yn gyfrifol am gyfarfod â dysgwyr ar ôl yr ysgol bob wythnos. Roedd y sesiynau’n canolbwyntio ar ddatblygu medrau mwy meddal dysgwyr, sef: meddylfryd twf, arferion dysgu da a dysgu’n annibynnol.   

Ar ôl dewis y dysgwyr, cysylltwyd â rhieni / gofalwyr i esbonio diben y rhaglen a’r rheswm dros ddewis eu plentyn nhw. Trafodwyd manteision ‘ExCEL’ i’w plentyn, rhwystrau rhag dysgu ac ymyriadau pwrpasol, a chytunwyd ar dargedau. Ffurfiodd cytundeb partneriaeth rhwng y cartref a’r ysgol ran annatod o’r rhaglen hon.  

Bob hanner tymor, cymerodd dysgwyr ran mewn ystod o sesiynau i wella meysydd penodol yr oedd angen eu datblygu. Cafodd rhwystrau rhag presenoldeb eu goresgyn trwy ddarparu cludiant gartref, gwobrau ar ffurf lluniaeth a chydnabod ymgysylltu cadarnhaol.   

Ar ôl blwyddyn gyntaf lwyddiannus o wella cyrhaeddiad, presenoldeb ac ymgysylltiad dysgwyr bregus yr ysgol, parhaodd Corpus Christi ag ‘ExCEL’ yn 2022-23 wrth iddi esblygu i raglen a oedd yn cefnogi blaenoriaethau gwella’r ysgol (BGY). Cafodd yr holl aelodau staff dan sylw fwy o hyfforddiant i’w harfogi â’r medrau i ddarparu sesiynau ar lythrennedd, rhifedd, iechyd meddwl, ymddygiad ac agweddau at ddysgu.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr? 

Mae rhaglen ‘ExCEL’ wedi cael effaith sylweddol ar ddysgwyr ac wedi cael ei chefnogi gan ymgysylltiad cryf gan rieni / gofalwyr. Fel rhan o’i hesblygiad, mae rhaglen ExCEL wedi meithrin cysylltiadau cryfach rhwng y systemau bugeiliol ac academaidd o fewn yr ysgol, sydd wedi arwain at gyrhaeddiad, lles a phresenoldeb gwell ar draws yr ysgol. Nod arweinwyr yw y bydd rhaglen ‘ExCEL’ yn un sy’n esblygu ac yn ymateb i anghenion dysgwyr.   

Yn ei blwyddyn gyntaf, llwyddodd dros 85% o gyfranogwyr i wella’u hagwedd at ddysgu. Llwyddodd 82% o ddysgwyr ExCEL ym Mlwyddyn 11 i ragori ar eu targedau academaidd arfaethedig. Mae ‘Excel’ yn cynnwys rhaglen lythrennedd ar gyfer disgyblion ym Mlynyddoedd 7 ac 8, a llwyddodd 76% o ddisgyblion a oedd yn cymryd rhan yn y rhaglen i wella’u hoedrannau darllen o 6-12 mis, o leiaf, ac fe gafodd hyn effaith gadarnhaol ar yr holl feysydd dysgu. Mae’r rhaglen hefyd wedi cyflwyno ‘Ffynnu’ (‘Thrive’) i dros 60 o ddisgyblion i gynorthwyo’r rhai ag agweddau gwael at ddysgu a chefnogi eu hiechyd a’u lles emosiynol.   

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Rhiwbeina yn ysgol sydd â thri dosbarth ym mhob grŵp blwyddyn, sy’n gwasanaethu cymuned faestrefol yn bennaf yng ngogledd Caerdydd. Mae 683 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae tua 2% yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 1% o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae tua 3% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY). Mae gan yr ysgol ethos creadigol cryf, ac mae’n ymfalchïo mewn creu cysylltiadau lleol a diwylliannol dilys o fewn cyd-destun trawsgwricwlaidd. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae treftadaeth hanesyddol gyfoethog yn Rhiwbeina a Chaerdydd ac mae’r ysgol wedi ceisio elwa ar hyn i gyfoethogi dealltwriaeth y disgyblion a’u hymdeimlad o berthyn i’w bro a’u treftadaeth. 

Mae’r ysgol yn defnyddio dull ‘thematig’ yn seiliedig ar y dyniaethau fel y sbardun y tu ôl i’w cwricwlwm. Maent yn defnyddio drama yn effeithiol i wella cyfathrebu disgyblion ar lafar ac yn ysgrifenedig. Dros gyfnod amser sylweddol, mae nifer o’r staff wedi ymchwilio i ddigwyddiadau, lleoedd a phobl o amrywiaeth o gyfnodau. Maent yn defnyddio’r wybodaeth hon i greu ‘storïau’ hygyrch ac ysbrydoledig yn seiliedig ar ffeithiau. Mae ymchwil hanesyddol drylwyr, gan ddefnyddio llyfrgelloedd lleol a’r Swyddfa Cofnodion Gwladol, yn ategu’r dull hwn. 

Trwy’r broses hon, mae’r ysgol wedi sefydlu cysylltiadau cryf â’r gymuned lle mae disgyblion yn ymweld yn rheolaidd â’r lleoedd y maent yn eu hastudio er mwyn atgyfnerthu ac ymestyn eu profiadau dysgu. Mae rhyngweithio ag aelodau o’r gymuned leol, busnesau, grwpiau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus wedi bod yn hanfodol wrth hwyluso’r dull hwn. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Bob hanner tymor, mae pob grŵp blwyddyn yn astudio testun newydd, yn canolbwyntio naill ai ar gyd-destunau lleol, cenedlaethol neu rai byd-eang. 

Mae enghreifftiau’n cynnwys: 

Lleol: 

  • ‘Y Tŷ Glo’, bywydau cymuned lofaol Trehafod ym 1900. 

  • ‘The Wenallt Warriors’, bywydau aelodau o lwyth Celtaidd y Silwriaid. 

  • ‘For King and Country’, bywydau trigolion Llandaf yn y Rhyfel Cartref yn y 1640au. 

  • ‘An Orphan’s Tale’, bywydau plant yn Oes Fictoria yng Nghaerdydd. 

  • ‘Keep Calm & Carry On’, bywydau plant a ymfudodd o Lundain i Riwbeina. Yn seiliedig ar adroddiad uniongyrchol rhywun pedair ugain mlwydd oed a ymfudodd i’r ardal o Tottenham. 

Cenedlaethol: 

  • ‘Rebellion 1400’, bywydau’r rhai a oedd yn cefnogi gwrthryfel Owain Glyndŵr, cymerwyd o gofnodion hanesyddol. 

  • ‘Pudding Lane 1665’, bywydau trigolion Pudding Lane, a gymerwyd o’r Dreth Aelwyd yn ystod Tân Mawr Llundain. 

  • ‘Prisoner in the Keep’, bywydau dilynwyr Tywysogion Cymru ym 1066. 

  • ‘Raiders of the Storm’, bywydau Bartholomew Roberts a’i griw. 

  • ‘A Titanic Tragedy’, bywydau’r teithwyr a’r criw, a’r ymchwiliad dilynol. 

Byd-eang: 

  • ‘Guardians of the Planet’, bywydau llwythi brodorol Amazon sydd dan fygythiad o ddatgoedwigo. 

Ar gyfer pob un o’r testunau hyn, mae athrawon yn rhoi enwau cymeriadau dilys i ddisgyblion a gwybodaeth yn seiliedig ar ymchwil ar gyfer pob cyfnod. Wedyn, mae’r plant yn ‘byw’ fel eu cymeriad am yr hanner tymor cyfan, gan ddarganfod mwy wrth i’w stori ddatblygu, trwy ddefnyddio  empathi ac ing. Caiff llawer o’u dealltwriaeth a’u hempathi eu creu yn ystod gweithgareddau drama a llafar a’u holrhain trwy waith ysgrifenedig yn yr ystafell ddosbarth. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae cyd-destunau a chymeriadau dilys yn galluogi’r plant i: 

  • Ymgysylltu ar lefel ddyfnach â’u dysgu 

  • Datblygu empathi 

  • Dod yn ddysgwyr moesegol a gwybodus, yn unol â’r pedwar diben, er enghraifft ‘Rwy’n gwybod am fy niwylliant, fy nghymuned, fy nghymdeithas, a’r byd, yn awr ac yn y gorffennol’ 

  • Datblygu ansawdd eu hiaith lafar; mae’r chwarae rôl cynaledig yn galluogi plant i ‘guddio’ y tu ôl i’w cymeriad, gan felly ddatblygu hyder, rhuglder a mynegiant gwell   

  • Archwilio materion a chyfyng-gyngor perthnasol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn cyd-destun diogel 

  • Cymryd perchnogaeth o’u cymeriadau, ‘teuluoedd a llwythi’, sy’n ennyn teimladau dwys, gan eu galluogi i archwilio gwrthdaro a’i ddatrys  

  • Datblygu brwdfrydedd a chymhelliant ar gyfer ysgrifennu creadigol; ar ôl gweithgareddau drama, mae ymatebion disgyblion i ystod o ffurfiau ysgrifennu, fel dyddiaduron, barddoniaeth, storïau ac ysgrifennu perswadiol, yn gadarnhaol – gan eu bod ‘wedi’i brofi’, mae hyd yn oed dysgwyr amharod yn cael llawer o syniadau creadigol ac yn ymgysylltu’n dda â’u hysgrifennu 

  • Datblygu ansawdd eu hiaith ysgrifenedig; mae’r sgaffaldiau a ddarperir gan y ddrama yn sicrhau bod gan y disgyblion fframwaith clir i roi dilyniant i’w hysgrifennu; mae hyn o fudd arbennig i ddisgyblion llai abl, ac yn ychwanegol, mae’r dull hwn yn cyflwyno terminoleg thematig sy’n rhoi’r eirfa i’r plant gyfoethogi eu hiaith a’u hysgrifennu 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd yr arfer dda hon o fewn yr ysgol trwy gyflwyno gwersi enghreifftiol ac addysgu mewn timau. Hefyd, lledaenwyd arfer dda yn ehangach mewn cyfarfodydd cyswllt Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu (ILlCh) gydag ysgolion bwydo a’r ysgol uwchradd leol. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Pentrepoeth wedi’i lleoli ym mhentref Rhiwderyn ar gyrion Dinas Casnewydd. Mae’n gwasanaethu’r ardal leol, sy’n ardal breswyl yn bennaf, ac yn gymharol ffyniannus. Mae’r disgyblion ar y gofrestr rhwng tair ac un ar ddeg oed. Agorwyd dosbarth meithrin ym mis Ionawr 2018. Mae bron pob un o’r disgyblion yn byw yn gymharol agos at yr ysgol. Mae gan ddisgyblion ystod lawn o allu. Pan fyddant yn dechrau’r ysgol yn y dosbarth derbyn, mae medrau a phrofiadau plant yn cyd-fynd â’r rhai sy’n ddisgwyliedig ar gyfer eu hoedran, ar y cyfan. Mae tua 5% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd ymhell islaw cyfartaledd yr awdurdod lleol a’r cyfartaledd Cymru gyfan. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae datblygu darpariaeth estynedig mewn mathemateg i helpu disgyblion i gymhwyso’u medrau mewn profiadau bywyd go iawn, dilys, yn flaenoriaeth allweddol yn y Cynllun Datblygu Ysgol. Trwy ddefnyddio ardal yr ysgol goedwig a staff sydd wedi cael hyfforddiant addas ac yn brofiadol, roedd Ysgol Gynradd Pentrepoeth eisiau ymestyn defnydd o’r goedwig i wella’r cwricwlwm a darparu profiadau dilys i feithrin ac atgyfnerthu medrau rhifedd, llythrennedd a digidol ar draws yr ystod oedran cynradd. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Unwaith bob pythefnos, mae pob dosbarth o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6 yn cael cyfle i ddysgu yn yr Ysgol Goedwig gydag athro ystafell ddosbarth ddynodedig Ysgol Goedwig. Trwy drafodaethau rheolaidd ag athrawon dosbarth, a defnyddio cynllunio athrawon dosbarth a gwaith blaenorol disgyblion, mae athro’r Ysgol Goedwig yn cynnig gwers i bob dosbarth sy’n defnyddio profiadau dilys i atgyfnerthu medrau y mae disgyblion eisoes wedi’u dysgu yn y dosbarth. Mae pob profiad dilys yn atgyfnerthu rhifedd a llythrennedd disgyblion, ac mae disgyblion yn defnyddio amrywiaeth o offer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) i ymestyn a chofnodi eu canfyddiadau.   

Trwy gydol y flwyddyn, ac ym mhob tywydd, caiff pob dosbarth amser dynodedig yn y goedwig. Mae pob grŵp blwyddyn yn ymdrin â thestunau bach sy’n cynnwys y byd naturiol, archwilwyr ac amrywiaeth o lyfrau ffuglen a ffeithiol. Mae’r testunau hyn yn rhoi ffocws i’r dasg ac yn cynnig ffordd i athro’r Ysgol Goedwig roi ystyr i’w dasg ddilys. Pan fo modd, mae’r rhain hefyd yn cysylltu â thestun dosbarth presennol y disgyblion. 

Ym mhob gwers, mae’r athro’n cyflwyno problem neu gyfyng-gyngor i’r disgyblion, ac mae angen iddynt ddatrys hyn gan ddefnyddio medrau a gwybodaeth. Mae disgyblion yn dysgu mai’r ymagweddau pwysicaf at ddatrys unrhyw broblem yw trafodaeth grŵp (mewn grwpiau gallu cymysg), profi a methu a chyfathrebu dosbarth cyfan. Mae disgyblion yn gweithio trwy’r broblem ac yn creu eu llwybr eu hunain i’w datrys, gyda’r mewnbwn lleiaf gan yr athro. Mae disgyblion yn rhannu syniadau ac atebion posibl cyn symud ymlaen i weithio mewn grwpiau gallu cymysg i geisio datrys y broblem yn ystod yr amser yn y sesiwn. Mae cynnwys sesiynau llawn neu wirio lluosog trwy gydol y wers yn annog y disgyblion i rannu syniadau a gwerthuso’u canfyddiadau wrth iddynt fynd ymlaen. Mae hyn yn eu galluogi i newid a mireinio eu dulliau yn rhwydd.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Pentrepoeth yn caru’r goedwig ac yn ei gweld fel ardal lle gallant gael hwyl a chwarae tra byddant yn dysgu ac yn cymhwyso’u medrau. Mae hyn yn golygu bod y goedwig wedi dod yn offeryn gwerthfawr sy’n eu galluogi i ymarfer ac ymestyn eu medrau a’u gweld yn rhan annatod o ddysgu. Yn ystod pob gwers, mae disgyblion yn defnyddio a chymhwyso eu medrau meddwl creadigol, cyfathrebu a gwaith tîm. O ganlyniad, mae gwersi’r Ysgol Goedwig yn hyrwyddo hunan-barch, hyder ac annibyniaeth. Pan fydd athrawon dosbarth yn siarad â dysgwyr am eu profiadau, mae disgyblion yn trafod eu dysgu yn yr ysgol goedwig â chyffro a hyder. Mae’r ethos a’r dull hwn yn galluogi disgyblion i deimlo’n rhydd i roi cynnig ar bethau newydd ac arbrofi â syniadau a medrau y byddent efallai wedi bod yn amharod i’w harchwilio fel arall. Mae athrawon yn arsylwi disgyblion yn ailadrodd y medrau hyn yn naturiol yn yr amgylchedd ystafell ddosbarth. Ceir tystiolaeth o les gwell disgyblion, cynllunio a threfnu eu gwaith yn well, a hyder a hunan-barch cynyddol. 

Trwy gymryd rhan mewn profiadau dilys yn y goedwig, mae disgyblion yn ymgysylltu ac yn canolbwyntio mwy, ac yn deall bod medrau mathemategol a llythrennedd yn rhan ddefnyddiol o fywyd. Mae defnyddio grwpiau gallu cymysg yn golygu bod yn rhaid i ddisgyblion mwy abl gyfleu eu syniadau yn glir ac yn effeithiol i ddisgyblion eraill, tra bod disgyblion eraill yn cael eu herio gan yr angen i wrando ar atebion a awgrymir gan eu cyfoedion, a gofyn cwestiynau iddynt.   

Mae galluogi pob un o’r disgyblion yn yr ysgol i brofi amgylchedd y goedwig yn gwella’u lles, ac yn atgyfnerthu eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol trwy brofiadau uniongyrchol. Er enghraifft, trwy ddod o hyd i ddail a’u harchwilio’n agos, mae disgyblion yn archwilio ac yn ennill dealltwriaeth well o gymesuredd. Mae gwneud medrau rhifedd, llythrennedd a digidol yn hwyl a dilys wedi helpu creu disgyblion annibynnol a dyfeisgar sy’n gyffrous i roi cynnig ar bethau newydd ac arbrofi’n hyderus â’r hyn y maent yn ei wybod. Mae athrawon ym mhob grŵp blwyddyn yn gweld dilyniant clir mewn ystod eang o fedrau, gwybodaeth a dealltwriaeth ers iddynt ddechrau gweithio yn yr awyr agored yn fwy rheolaidd a phwrpasol. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae Ysgol Gynradd Pentrepoeth yn rhannu ei harfer dda gydag ysgolion eraill o fewn ei chlwstwr yn rheolaidd, a thrwy drafodaethau staff yn ogystal. Mae disgyblion a staff yn arddangos delweddau a gwaith a gwblhawyd yn y goedwig mewn llyfrau dosbarth sy’n cael eu harddangos i athrawon eraill, staff cymorth ac ymwelwyr eu gweld, eu trafod a’u hamlygu fel enghreifftiau o arfer dda.   

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Cylch Chwarae Sychdyn wedi’i gofrestru i ofalu am 19 o blant 2 ¼ mis i 4 mlwydd oed. Mae sesiynau cylch chwarae yn cael eu cynnal bum niwrnod yr wythnos o 9.00am-11.30am, ac mae’n cynnig gofal cofleidiol i blant oed meithrin rhwng 11.30am a 3:00pm. Roedd Cylch Chwarae Sychdyn wedi’i leoli yn Neuadd Goffa Pentref Sychdyn am flynyddoedd lawer hyd at Fedi 2023, pan symudodd i adeilad newydd ar dir Ysgol Gynradd Sychdyn.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r lleoliad yn cydnabod pwysigrwydd lles plant i’w gallu i ddysgu ac mae’n canolbwyntio ar gefnogi hyn yn ein lleoliad. Mae ymarferwyr am i’r holl blant allu cyflawni eu potensial dysgu ac maent wedi gweithio’n galed i greu amgylchedd diogel, cynnes a chroesawgar mewn cylch chwarae lle y gall plant wneud ffrindiau a dysgu’n llwyddiannus trwy chwarae. Mae ymarferwyr yn gyson o ran eu dull, gan barchu plant ac ymdrechu i feithrin perthynas gryf â nhw. Eu nod yw bodloni eu hanghenion emosiynol mewn ffordd ddigynnwrf, garedig a chefnogol, gan annog plant i ddatblygu medrau hunanreoleiddio trwy eu harwain yn sensitif i ddelio â’u hemosiynau. Mae ymarferwyr o’r farn bod gallu plant i fod yn annibynnol yn ategu eu lles, gan fod hyn yn rhoi ymdeimlad o reolaeth iddynt ac yn datblygu eu hunan-barch a’u hyder.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yr amgylchedd: 

Mae ymarferwyr yn darparu amgylchedd sy’n cefnogi gallu plant i fod yn annibynnol. Caiff yr holl adnoddau eu storio ar lefel plant ac mae’n bosibl cael atynt yn hawdd. Mae adnoddau wedi’u labelu a’u trefnu’n dda ac maent yn briodol yn ddatblygiadol. Am y rhan fwyaf o’r sesiwn, caiff plant eu hannog i ddewis o blith ystod eang o ardaloedd darpariaeth a gallant symud yn rhydd rhwng yr ardaloedd dan do ac awyr agored. Mae plant yn adnabod y gwahanol fathau o chwarae y gallant gymryd rhan ynddynt ac maent yn defnyddio’r ardaloedd yn bwrpasol. 

Mae plant:

  • yn cael eu hannog i ddatblygu eu hannibyniaeth eu hunain wrth dynnu eu côt a’u rhoi ar eu pegiau eu hunain, sy’n hawdd eu hadnabod  
  • yn dod â’u byrbryd eu hunain o gartref ac yn dewis pryd i’w fwyta yn ystod ffenestr y ‘cyfnod byrbryd’  
  • yn arllwys eu diodydd eu hunain ac yn tacluso ar ôl eu hunain, gan gynnwys rhoi sbwriel yn y bin ailgylchu  
  • yn dewis beth i’w osod allan a chwarae gydag ef mewn ardal ddarpariaeth; er enghraifft, mae byrddau, gofod llawr, hambyrddau tywod a dŵr yn glir, gydag adnoddau’n cael eu storio gerllaw  
  • yn defnyddio amrywiaeth eang o adnoddau pen agored a darnau rhydd yn hyderus ac yn llawn dychymyg, mewn ffyrdd sy’n ystyrlon iddyn nhw 
  • yn hunan-gofrestru pan fyddant yn cyrraedd  
  • yn sychu eu trwyn eu hunain gan ddefnyddio’r ‘Orsaf Hancesi Papur’  
  • yn defnyddio cyfleusterau golchi dwylo yn annibynnol o fewn yr ystafell  
  • yn defnyddio’r ‘orsaf welis’ awyr agored yn annibynnol, lle cânt eu hannog i dynnu eu hesgidiau a gwisgo welintons  

Oedolion:  

Mae ymarferwyr yn deall ei bod hi’n bwysig annog meddylwyr a dysgwyr annibynnol ac maent yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gyflawni hyn.  

Maent: 

  • yn disgwyl y bydd plant yn tacluso wrth fynd yn eu blaen ac yn atgoffa ac yn cynorthwyo yn gyson i alluogi plant i ddysgu gwneud hyn yn annibynnol  
  • yn deall pryd i ymyrryd a phryd i gamu’n ôl er mwyn rhoi amser i blant wneud eu dewisiadau a’u penderfyniadau annibynnol eu hunain  
  • yn cefnogi eu medrau llafaredd trwy fodelu iaith ac ymestyn geirfa  
  • yn defnyddio cwestiynau ‘Tybed’ yn effeithiol wrth ryngweithio â phlant er mwyn meithrin chwilfrydedd a symbylu eu harchwilio annibynnol  
  • yn cynllunio profiadau o fewn y gymuned leol, fel ymweld â siop, sy’n cynnwys plant mewn gwneud penderfyniadau a derbyn cyfrifoldeb unigol am elfennau o’r profiad  
  • cefnogi gallu plant i ddysgu asesu risg yn annibynnol, er enghraifft ystyried p’un ai i nesáu at iâr benodol yn ystod ymweliad â gardd natur yr ysgol  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Yn y lleoliad, mae bron pob un o’r plant yn datblygu annibyniaeth ymhell y tu hwnt i ddisgwyliadau ac maent yn rhyngweithio â’i gilydd ac ymarferwyr yn eithriadol o dda. Mae cefnogi gallu plant i fod yn ddysgwyr ac yn feddylwyr annibynnol wedi cael effaith gadarnhaol ar draws pob maes datblygu. Mae gan y plant lefelau lles uchel. Mae meithrin eu hannibyniaeth wedi gwella’u hunan-barch a’u hyder, ac mae hyn yn ei dro yn eu helpu i ddatblygu gwydnwch a dyfalbarhad i ddod yn ddysgwyr gydol oes. 

Sut rydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae staff o leoliadau eraill wedi ymweld â’r cylch chwarae. 

Bydd arfer dda’r lleoliad yn cael ei rhannu trwy gyfarfod grŵp clwstwr gyda lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir eraill yn yr awdurdod lleol. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Sgeti wedi’i lleoli yn Abertawe. Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol 495 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 3 ac 11 oed, sy’n cael eu haddysgu mewn 16 dosbarth. Y maint dosbarth cyfartalog yw 30, sydd ychydig uwchlaw cyfartaledd yr Awdurdod Lleol (ALl), sef 27. Nifer y disgyblion y mae’r ALl yn eu derbyn yw 32. Mae cyfradd symudedd disgyblion yn 3%, sef hanner cyfartaledd yr ALl. Mae 74% o ddisgyblion sy’n byw yn y dalgylch yn mynychu’r ysgol. Mae tua 4% o’r disgyblion ar y gofrestr yn byw mewn ardaloedd sydd wedi eu dosbarthu’n ardaloedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) ac ymhlith y 30% mwyaf difreintiedig o’r holl ardaloedd. Mae tua 8% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd gryn dipyn islaw cyfartaledd yr ALl. Nid oes unrhyw waharddiadau cyfnod penodol nac achosion hiliol wedi cael eu cofnodi yn y tair blynedd ddiwethaf. Mae bron i 29% o ddisgyblion yr ysgol yn cael cymorth ychwanegol, mae 5% (plant â CDUau) ar y gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a thua 14% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY). Nid yw unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Mae 23 o athrawon yn yr ysgol, gan gynnwys y pennaeth, a benodwyd ym mis Medi 2017. Penodwyd y dirprwy bennaeth yn 2022. Mae’r ysgol yn adeilad modern ar ddwy lefel wedi’i lleoli ar safle mawr. Mae tir helaeth, gyda choetir datblygedig, caeau, iardiau, maes chwarae antur a phwll. Caiff yr amgylchedd corfforol ei gynnal yn dda, mae’n groesawgar a bywiog.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan yr ysgol weledigaeth glir ar gyfer y cwricwlwm. Mae wedi’i chynllunio ar sail diwylliant cryf o gynefin, creadigrwydd a llais y disgybl. Mae’r ysgol yn ymdrechu i sicrhau bod y cwricwlwm yn eang a chytbwys ac yn adeiladu’n systematig ar wybodaeth, dealltwriaeth a medrau presennol disgyblion ym mhob maes dysgu a phrofiad. Mae’n darparu llawer o brofiadau dysgu dilys trwy amrywiaeth o themâu buddiol sy’n ymgysylltu ac yn cymell. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

I ddatblygu diwylliant o greadigrwydd, mae gan yr ysgol nifer o ystyriaethau sydd â phwys cyfartal, ac nid oes trefn i’w hierarchaeth. Mae’r ysgol yn credu bod y rhain yn allweddol i greu diwylliant llwyddiannus o greadigrwydd. 

Darparodd yr ysgol y set ganlynol o gwestiynau ac atebion i ddisgrifio natur ei gwaith. 

  • Pwy yw hyrwyddwr yr ysgol? 

Mae’r ysgol yn ffodus i gael sawl aelod creadigol iawn o staff sy’n addysgu ac nad ydynt yn addysgu, sydd â phrofiad a medrau ar draws cwricwlwm y celfyddydau mynegiannol. Mae defnyddio arbenigedd mewnol, ac adeiladu arno, yn hanfodol wrth yrru prosiect ymlaen. Gall brwdfrydedd fod yn heintus, ac mae gwneud y broses yn hwyl a rhyngweithiol ar gyfer staff yn sicrhau lefelau “cyfranogi” a lefelau uwch o ymrwymiad gan bawb.  

  • A yw staff yn cael eu hyfforddi’n briodol i gyflwyno gwersi o ansawdd uchel? 

Er bod gan yr ysgol staff hyfforddedig iawn mewn meysydd creadigrwydd, nid yw hyn yn gyffredinol ar draws yr ysgol. Pan nad oes gan staff y medrau angenrheidiol neu os ydynt yn gweithio y tu allan i sefyllfa maent yn gyfarwydd â hi, mae hyfforddiant wedi cael ei ddarparu ac wedi cael effaith enfawr ar hyder staff, a oedd yn golygu bod y plant yn frwdfrydig, yn hyderus ac wedi’u cymell i roi cynnig ar brofiadau newydd. Enghraifft lwyddiannus iawn yw’r medrau crochenwaith a ddatblygwyd gan staff ym Mlwyddyn 5. Doedd dim profiad gan y ddau athro, felly darparwyd hyfforddiant gyda seramegydd lleol, a dreuliodd amser yn mynd trwy’r broses ac yn rhoi cyfle iddynt ddysgu’n uniongyrchol. Mae ansawdd y gwaith y gallant gynorthwyo’r plant i’w gynhyrchu yn rhagorol, ac yn ganlyniad uniongyrchol rhoi iddynt yr offer sydd ei angen arnynt i’w helpu i gredu y gallent ei wneud. 

  • Oes gennym ni arbenigwr i gefnogi cyflwyno gwersi? 

Pan fu angen, llwyddwyd i elwa ar amrywiaeth o arlunwyr, awduron, actorion a cherddorion i ymestyn y profiad dysgu ar gyfer y plant, gan barhau i ddatblygu medrau’r staff a darparu modelau rôl ar gyfer plant “gan blannu hadau ysbrydoliaeth i danio dyhead.” Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Blwyddyn 4 wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect creadigol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru yn canolbwyntio ar gynefin trwy gyfryngau digidol, barddoniaeth a stori wedi’u cyflwyno trwy’r Celfyddydau Mynegiannol. Roedd hyn yn cynnwys y plant yn ymweld â Choleg Brenhinol Celf a Drama Cymru i weld sioe celf wisgadwy myfyrwyr. Fe wnaeth hyn eu hysbrydoli i greu eu celf wisgadwy eu hunain, a’i harddangos mewn sioe yn Theatr Dylan Thomas. 

  • A yw’r adnoddau’n ddigonol i gyflwyno gwersi? 

Mae buddsoddi wedi bod yn allweddol i gyflwyno gwersi o ansawdd da. O fewn yr ysgol, mae adnoddau o ansawdd uchel ar draws y celfyddydau creadigol, gan gynnwys odyn ar gyfer crochenwaith, ystod dda o ddeunyddiau traul ar gyfer y celfyddydau gweledol, gan gynnwys clai, gwydredd, inciau argraffu, dyfrlliwiau, paentiau chwistrell, tecstilau, cerdyn, papur, ac ati – gyda ffocws ar gynaliadwyedd fel prosiectau celf wedi’i ailgylchu. Cyflogir arlunwyr lleol profiadol o’r gymuned i weithio ochr yn ochr ag athrawon ar gyfer prosiectau penodol, yn ogystal ag athrawon arbenigol mewn cerddoriaeth a dawns i weithio gyda charfanau bob hanner tymor. Mae hyn wedi arwain at berfformiadau arbennig iawn ar ddiwedd tymor i rieni yn yr ysgol ac yn Theatr Taliesin, Theatr Y Grand a Theatr Dylan Thomas. 

  • A yw’r ysgol fedrau yn datblygu’n ddigonol y medrau y gellir adeiladu arnynt flwyddyn ar ôl blwyddyn?  

Defnyddir ysgolion medrau i sicrhau dilyniant a pharhad trwy gydol y camau dilyniant. Er enghraifft, mae ysgolion dilyniant clai syml yn amlinellu’r medr fydd yn cael ei addysgu ym mhob grŵp blwyddyn, gan ddechrau ag archwilio a chreu marciau yn y blynyddoedd cynnar, i orffen â medrau erbyn diwedd CA3, gan gynnwys adeiladu slabiau, potiau coil. Nid cynllun gwaith yw’r ysgolion medrau hyn gan ei fod yn galluogi athrawon i ymgorffori’r medrau mewn cyd-destun dilys, y gellir ei ddatblygu a’i addasu i weddu i anghenion carfan ac adlewyrchu llais y disgybl. 

  • A yw’r gweithgareddau yn bwrpasol, yn ddilys, yn berthnasol, ac yn adlewyrchu cynefin? 

Mae’r trosolwg o’r cwricwlwm yn sicrhau bod dysgwyr yn deall gwerth creadigrwydd. Caiff amrywiaeth o arlunwyr, ysgrifenwyr, perfformwyr a cherddorion lleol a chenedlaethol eu harchwilio ar draws y cwricwlwm, yn ogystal â’r rhai o’r tu allan i Gymru. Ymgorfforir llawer o’r profiadau dysgu mewn cyd-destunau bywyd go iawn a dilys, fel prosiectau menter. Er enghraifft, caiff dyluniadau celf graffiti eu trosglwyddo i nwyddau, a’u gwerthu yng ngwerthiant menter Blwyddyn 5, ac mae’r plant wedi cael cyfleoedd gwych i berfformio mewn theatr leol ar gyfer rhieni a’r gymuned leol. Yn aml, cymerir ysbrydoliaeth o’r fro ar ffurf tirweddau, natur, pobl a storïau.  

  • Pa sicrwydd ansawdd sydd ar waith, e.e. arsylwadau gwersi, ymdopi yn y fan a’r lle? 

Mae llywodraethwyr, y pennaeth, y dirprwy bennaeth a’r uwch dîm arweinyddiaeth yn weladwy ar draws yr ysgol, a defnyddir Rheoli trwy Gerdded o Gwmpas yn helaeth i effeithio ar newid a symud yr ysgol ymlaen. Mae uwch arweinwyr yn cymryd rhan helaeth mewn prosiectau creadigol, gan sicrhau bod ansawdd yr hyn sy’n cael ei gynhyrchu yn uchel iawn, a gan fod yr ysgol yn defnyddio arbenigedd mewnol, mae hyn yn ymestyn y gwaith a gynhyrchir ymhellach. Mae pob un o’r staff yn cymryd rhan mewn prosiectau creadigol sy’n eu galluogi i ddefnyddio’u cryfderau eu hunain yn  effeithiol, yn ogystal â chael cymorth mewn meysydd datblygu o arbenigedd oddi mewn i’r ysgol. Caniateir amser ar gyfer cynllunio gofalus, gweithredu a gwerthuso deilliannau. Mae’r dull cydweithredol hwn yn amlwg yn y ‘System Trioedd’, sy’n sicrhau deialog a chydweithio proffesiynol o ansawdd uchel ar draws yr ysgol gyfan. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae safon y gwaith a gyflawnir yn uchel flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae pob un o’r plant yn cynhyrchu gwaith i safon uchel iawn. Datblygwyd y cwricwlwm trwy ymagwedd yn seiliedig ar fedrau, gan ddechrau yn y dosbarth Meithrin, ac wedyn adeiladir ar hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn. Erbyn yr adeg y mae’r plant yn cyrraedd Blwyddyn 6, maent wedi datblygu set medrau sy’n cynhyrchu darnau o ansawdd uchel, y maent yn falch iawn ohonynt. 

Gan fod yr ymagwedd at ddysgu creadigol yn cael ei hymgorffori ar draws yr ysgol a disgyblion yn cael cyfle i brofi amrywiaeth o weithgareddau creadigol bob blwyddyn, mae sicrwydd o lefelau uchel o ymroddiad a brwdfrydedd gan ddisgyblion. Fel y gwelir mewn prosiectau cerddoriaeth, dawns a drama, mae’r plant hŷn wedi cymryd rhan am flynyddoedd lawer, gan gynnwys Partneriaid Cynradd a Phrosiect Dawns Taliesin. Rhoddir cyfle hefyd i ddisgyblion Blwyddyn 6 berfformio eu sioe ar ddiwedd blwyddyn mewn theatr broffesiynol (Theatr Dylan Thomas) i brofi’n uniongyrchol y llwyddiannau y gellir eu cyflawni yn y dyfodol. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

  • Mae Ysgol Gynradd Gwndy wedi’i lleoli ym mhentref Gwndy sydd i’r de o’r M4 rhwng Casnewydd a Chil-y-coed. Rydym ni’n rhan o Glwstwr Cil-y-coed. 

  • Mae 380 o ddisgyblion ar y gofrestr yn yr ysgol ar hyn o bryd. 

  • Mae’n ysgol fynediad dau ddosbarth, gyda dosbarth meithrin yn y bore a’r prynhawn. 

  • Mae chwech y cant o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. 

  • Mae gan un deg chwech y cant o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

  • Nodwyd bod yr ysgol yn Ysgol Rhwydwaith Arweiniol ar gyfer Cymraeg Ail Iaith yn 2019. 

  • Dyfarnwyd Gwobr Arian Cymraeg Campus i’r ysgol ym mis Mai 2022. 

  • Ymgymerodd y Cydlynydd Cymraeg â’r rôl yn 2020 ar ôl cyfnod sabothol o 12 wythnos yn 2018. 

  • Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er mis Ionawr 2020. 

  • Cynhaliwyd yr arolygiad diwethaf ym mis Mai 2023. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Er y tybiwyd bod y Gymraeg yn dda, ym mis Ionawr 2020, nododd yr UDRh fod angen gwella llafaredd Cymraeg ar draws yr ysgol a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth. O ganlyniad, datblygwyd ystod o strategaethau i gefnogi hyrwyddo’r Gymraeg yn gyson mewn gweithgareddau bob dydd. Amlygir disgyblion iau i’r Gymraeg bob dydd trwy ddefnyddio Fflic a Fflac, ac mae disgyblion yn arwain eu dysgu gan ddefnyddio model Helpwr Heddiw. Mae disgyblion yn gofyn ac yn ateb cwestiynau gyda’i gilydd. Mae staff yn hanfodol wrth gyflwyno Cymraeg achlysurol mewn arferion a gweithgareddau bob dydd, er enghraifft wrth fwyta byrbryd, arferion yn y bore ac amser mynd adref, ac yn ystod amseroedd chwarae. Caiff rhieni eu hannog i ddatblygu eu medrau llafaredd Cymraeg hefyd trwy fynychu digwyddiadau Dewch i Drio. Cynhelir y digwyddiadau hyn gan y Criw Cymraeg, a’u nod yw cyflwyno patrymau iaith sylfaenol i rieni er mwyn iddynt allu cefnogi defnydd eu plant o’r Gymraeg gartref.  

Wrth i ddisgyblion symud ymlaen trwy’r ysgol, maent yn ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb am ddefnyddio’r Gymraeg o gwmpas yr ysgol. Mae’r Criw Cymraeg yn chwarae gyda nhw yn ystod amser egwyl ac yn annog disgyblion i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae pob un o’r staff yn defnyddio Cymraeg achlysurol ac yn cynllunio ar gyfer cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm. Mae disgyblion ‘Seren yr wythnos’ yn mynd â Draig Goch adref ac yn cael eu hannog i ysgrifennu am eu penwythnosau gan ddefnyddio patrymau Cymraeg cyfarwydd mewn dyddiadur sy’n mynd â’r iaith y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol.  

Caiff y disgyblion hynaf gyfle i fod yn aelodau o’r Criw Cymraeg. Arweinir y grŵp hwn gan CALU brwdfrydig iawn. Nod y Criw Cymraeg yw gwneud siarad Cymraeg yn ‘cŵl’. Maent yn defnyddio ystod eang o ddulliau, fel rhannu ‘ymadrodd y foment’ ar y cyfryngau cymdeithasol, gan herio staff i gofio defnyddio’r Gymraeg, cyflwyno gwasanaethau i’r ysgol gyfan, a rhannu arfer dda ag ysgolion eraill. Mae eu hesiampl wedi dylanwadu ar lawer o ddisgyblion sydd bellach yn annog cyfoedion ac oedolion i siarad Cymraeg. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar fedrau Cymraeg ar draws yr ysgol. Hefyd, mae gan yr ysgol Lysgenhadon Cymraeg sy’n cyfarfod ag ymwelwyr ac yn eu cyfarch. Mae’r pennaeth yn defnyddio’r Gymraeg mewn gwasanaethau, wrth gyfathrebu â rhieni ac yn ymdrechu i ddod o hyd i gyfleoedd i atgyfnerthu patrymau iaith a gyflwynwyd trwy ymadrodd y foment.  

Mae ap iaith ar-lein wedi bod yn allweddol o ran hyrwyddo lefelau uchel o ymgysylltu wrth ddatblygu medrau llafaredd, darllen ac ysgrifennu disgyblion. Mae tystysgrifau wythnosol ar gyfer disgyblion a staff sy’n ymgysylltu’n dda. Caiff disgyblion hŷn gyfle i ddefnyddio’r ap yn yr ysgol, ond mae llawer o ddisgyblion a staff yn dewis ei ddefnyddio gartref, hefyd. Trwy gystadleuaeth gyfeillgar, mae disgyblion yn datblygu sylfaen geirfa eang.  

Mae defnydd thematig o’r Gymraeg hefyd yn sbardun allweddol wrth ddatblygu cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio’r Gymraeg mewn ystod o gyd-destunau dysgu, gan gynnwys ysgolion coedwig a sesiynau Addysg Gorfforol. Mae staff yn dod yn fwy medrus yn cynllunio ar gyfer cyflwyno’r Gymraeg trwy eu themâu yn hytrach na gwersi ar wahân. Mae disgyblion yn datblygu geirfa, gan ddefnyddio gemau a sesiynau llafaredd dyddiol. Er enghraifft, maent wedi mwynhau defnyddio eu Cymraeg i siarad am bobl enwog, ysgrifennu rapiau a pherfformio fel cyflwynwyr teledu. Mae defnyddio TGCh hefyd wedi hyrwyddo a datblygu’r defnydd o lafaredd Cymraeg wrth i ddisgyblion greu fideos ohonyn nhw eu hunain neu’i gilydd, a chynnig adborth gwerthfawr trwy hunanasesu ac asesu cyfoedion.  

Pan fyddant allan o’r ysgol, mae llawer o ddisgyblion yn awyddus i ddefnyddio eu medrau Cymraeg yn ystod ymweliadau ysgol ac arosiadau preswyl.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Gall y rhan fwyaf o ddisgyblion yn yr ysgol ddefnyddio Cymraeg achlysurol yn hyderus mewn ystod o gyd-destunau. Wrth i ddisgyblion symud ymlaen trwy’r ysgol, maent yn datblygu ystod eang o ymadroddion pwrpasol a ddefnyddir ganddynt yn naturiol i gyfathrebu â’u cyfoedion a staff. Mae’r Gymraeg yn weladwy yn yr holl ofodau dysgu ac mae staff yn defnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd y tu mewn i’r ystafelloedd dosbarth, a’r tu allan. Ceir ymdeimlad gwirioneddol o Gymreictod o fewn yr ysgol, ac mae disgyblion yn falch o siarad Cymraeg.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Fel Ysgol Rhwydwaith Dysgu (YRhD), mae’r ysgol wedi rhannu arfer orau gydag ysgolion eraill trwy gyfarfodydd lleol arweinwyr cwricwlwm a digwyddiad Dewch i Weld. Mae’r Criw Cymraeg wedi croesawu Criw Cymraeg o ysgol arall i rannu eu gwaith a’r hyn y maent wedi’i gyflawni. Mae’r ysgol hefyd wedi gweithio’n agos gydag ysgol glwstwr i rannu ei strategaethau mwyaf llwyddiannus.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Coed-duon yn ysgol gyfun gymysg 11-16 cyfrwng Saesneg, sydd wedi’i lleoli ar gyrion Cefn Fforest a Choed-duon. Mae gan yr ysgol chwe phrif  ysgol gynradd clwstwr, ac mae 985 o ddisgyblion ar y gofrestr.  

Mae gan ryw 21% o ddisgyblion angen dysgu ychwanegol ac mae gan ychydig iawn ohonynt ddatganiad neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU). Mae tua 25% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf ac yn dod o gefndir gwyn Prydeinig. Ychydig iawn ohonynt sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.    

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er mis Medi 2018. Ar ôl ei phenodi, cyd-luniodd cymuned yr ysgol weledigaeth ar y cyd yn seiliedig ar ddarparu amgylchedd dysgu anogol a dyheadol lle mae disgyblion a staff yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael cymorth: 

Mae Ysgol Gyfun Coed-duon yn gymuned ysgol gynhwysol lle rydym yn defnyddio grym dysgu ac addysgu i ddatblygu disgyblion hyderus, hapus, gwydn ac annibynnol. Yn ein hamgylchedd dysgu diogel, saff ac anogol, caiff pawb eu gwerthfawrogi’n gyfartal, ac mae perthnasoedd cadarnhaol yn sicrhau, trwy weithio gyda’n gilydd, ein bod yn codi dyheadau, yn cyflawni ein  potensial ac yn sicrhau ein dyfodol.    

Caiff y weledigaeth ei deall yn dda gan gymuned yr ysgol, a dyma’r sbardun allweddol ar gyfer systemau, polisïau a gweithdrefnau’r ysgol.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Cefndir i ddatblygu a gwella medrau digidol ar draws y cwricwlwm 

Mae datblygu medrau digidol dysgwyr a staff yn ffurfio rhan o broses hunanwerthuso a chynllunio gwelliant parhaus ac arlwy dysgu proffesiynol yr ysgol. Mae Arweinydd Cymhwysedd Digidol yn cydlynu a goruchwylio datblygu medrau digidol ar draws y cwricwlwm i gefnogi dysgwyr a staff. Mae’n gweithio’n agos gydag un o Hyrwyddwyr Cwricwlwm i Gymru yr ysgol, sy’n gyfrifol am ddatblygu profiadau dysgu dilys a digidol yn y cwricwlwm newydd.  

Mae’r Arweinydd Cymhwysedd Digidol yn cynnal archwiliadau blynyddol y Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD) ar draws y cwricwlwm er mwyn gwerthuso sut mae pob dysgwr yn defnyddio’i fedrau cymhwysedd digidol yn effeithiol. Mae’r archwiliadau hyn yn nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu medrau digidol ymhellach mewn ffordd ddilys ar draws y cwricwlwm. Yn ychwanegol, mae’r Arweinydd Cymhwysedd Digidol yn defnyddio tystiolaeth o’r archwiliadau FfCD i gynllunio dysgu proffesiynol effeithiol ar gyfer staff i sicrhau bod disgyblion yn datblygu ystod lawn o fedrau cymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm. 

Mae’r Arweinydd Cymhwysedd Digidol a Hyrwyddwr y Cwricwlwm i Gymru yn gweithio ochr yn ochr â Phennaeth Cynorthwyol yr ysgol ar gyfer Dysgu, Addysgu a Dysgu Proffesiynol. Gyda’i gilydd, maent yn cynllunio a hwyluso rhaglen dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar fedrau digidol ar gyfer staff, sydd hefyd yn ymateb i’r datblygiadau mynych a chyflym yn y byd digidol. 

Mae datblygu medrau digidol dysgwyr a staff yn llwyddiannus wedi esblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn sgil cyflwyno dysgu cyfunol yn llwyddiannus ac yn effeithiol yn ystod y pandemig. Yn sgil dychwelyd i addysgu wyneb yn wyneb, adeiladodd yr ysgol ar y medrau digidol a ddatblygwyd yn ystod dysgu cyfunol. Mae’r Arweinydd Cymhwysedd Digidol wedi creu ystod eang o adnoddau o ansawdd uchel ar gyfer pob aelod o gymuned yr ysgol trwy wefan y FfCD, i gefnogi datblygiad eu medrau ymhellach. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am ddiogelwch digidol, canllawiau ‘sut i’ digidol, a chymorth digidol i rieni. Mae gyriannau a rennir y FfCD yn cynnwys ystod eang o wybodaeth, fideos a chanllawiau i gynorthwyo dysgwyr a staff ar eu teithiau digidol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Yn Ysgol Gyfun Coed-duon, mae athrawon yn canolbwyntio ar ymgorffori medrau digidol yn ddilys o fewn Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDPh), gan sicrhau bod dysgwyr yn arddangos a datblygu eu medrau digidol ymhellach. Er enghraifft, arweiniodd y dysgu proffesiynol a’r ymchwil a wnaeth Hyrwyddwr y Cwricwlwm i Gymru at dreialon ystafell ddosbarth, a arweiniodd wedyn at gyflwyno dysgu proffesiynol ar gyfer pob un o’r staff ar sut i ddefnyddio pecyn meddalwedd penodol i gyflwyno profiadau dysgu dilys ar draws y cwricwlwm. O ganlyniad, defnyddiodd rhai Meysydd Dysgu a Phrofiad y medrau hyn i addysgu dysgwyr ynglŷn â sut i ddylunio gwefannau addysgiadol. Er enghraifft, yn y dyniaethau, mae dysgwyr yn dylunio gwefannau rhyngweithiol ar destunau fel Cestyll Cymru a thornados, sy’n eu galluogi i ddangos a datblygu eu medrau digidol ymhellach, yn ogystal â’u medrau a’u gwybodaeth bynciol, yn effeithiol. 

Mae’r ysgol yn credu mewn addysgu’r medrau hyn yn gynnar, er mwyn i ddysgwyr allu parhau i ddefnyddio a datblygu eu medrau digidol trwy gydol eu taith ddysgu. Er enghraifft, mewn Heriau Menter Bagloriaeth Cymru, mae dysgwyr yn cymhwyso’r medrau codio a addysgir mewn Technoleg Ddigidol i greu gemau addysgol ar gyfer dysgwyr iau, ac mewn Astudiaethau Busnes BTEC, mae dysgwyr yn creu gwefannau, logos a thaenlenni llif arian i gefnogi eu cynlluniau busnes. Mewn Celfyddydau Mynegiannol, mae’r athro drama yn cynorthwyo dysgwyr i ddefnyddio meddalwedd golygu fideo i olygu eu perfformiadau yn effeithiol a chreu ffilmiau proffesiynol. Mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, mae dysgwyr yn defnyddio meddalwedd dylunio 3D i ddylunio, gwerthuso a mireinio eu dyluniadau ar gyfer podiau glampio cynaliadwy.  

Yn fwyaf diweddar, mae’r Arweinydd Cymhwysedd Digidol wedi cyflwyno Pasbortau Medrau Digidol ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 7 ac 8. Mae dysgwyr yn storio eu ffeiliau rhithwir yn y pasbort hwn, sy’n cynnwys rhestr o fedrau FfCD y gellir eu holrhain gan ddysgwyr pan fyddant yn eu defnyddio ar draws y cwricwlwm. Mae’r gofod rhithwir hwn i ddysgwyr gysylltu eu gwaith digidol yn galluogi athrawon a dysgwyr i goladu gwaith yn effeithiol ac olrhain datblygiad eu medrau digidol. Mae’r Pasbortau Digidol hyn yn galluogi dysgwyr i gymryd perchnogaeth o’u gwaith eu hunain, gan ddod yn ddysgwyr sy’n ddigidol gymwys a gwydn.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Trwy’r dysgu proffesiynol a arweinir gan yr Arweinydd Cymhwysedd Digidol a Hyrwyddwr y Cwricwlwm i Gymru, mae staff a dysgwyr wedi ymestyn a datblygu eu medrau digidol ymhellach ar draws y cwricwlwm. O ganlyniad i’r datblygiadau hyn, ynghyd â buddsoddi mewn dyfeisiau ar draws pob ardal o’r ysgol, mae dysgwyr wedi dwyn perchnogaeth dros eu taith dysgu digidol ac maent yn fwy hyderus i ddefnyddio’u medrau ar draws y cwricwlwm. Mae cyflwyno’r Pasbortau Medrau Digidol wedi rhoi mwy o ymreolaeth i ddysgwyr dros eu taith dysgu digidol, gan eu galluogi i olrhain cynnydd digidol yn fwy effeithiol ochr yn ochr â’u hathrawon.  

Y camau nesaf

Ar ôl gwerthuso archwiliadau’r FfCD ar draws y cwricwlwm yn ddiweddar, bydd yr ysgol yn parhau i ddefnyddio Pasbortau Medrau Digidol, gan gynnwys dysgwyr Blwyddyn 9 eleni. Bydd dysgu proffesiynol pellach yn cynorthwyo’r holl staff addysgu i gael mynediad at y pasbortau hyn, a’u defnyddio, i olrhain medrau a chynnydd dysgwyr ar draws y camau dilyniant.  

Bydd yr Arweinydd Cymhwysedd Digidol yn parhau i weithio gyda Hyrwyddwr y Cwricwlwm i Gymru i ddatblygu’r defnydd o fedrau digidol arloesol ymhellach ar draws y cwricwlwm, gan felly sicrhau bod dysgwyr yn parhau i fanteisio ar ystod eang o feddalwedd i ymestyn eu medrau. Bydd yr ysgol yn parhau i werthuso cynnydd medrau digidol ar draws y cwricwlwm ac yn cynllunio dysgu proffesiynol addas i uwchsgilio staff ymhellach.