Arfer effeithiol Archives - Page 10 of 67 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y darparwr

Cyrsiau preswyl yw arbenigedd y Nant ac mae’r cyrsiau rheiny yn digwydd am gyfnodau o 3 neu 5 diwrnod ar y tro. Mae’r Nant hefyd yn darparu ychydig o gyrsiau rhithiol 3 neu 5 diwrnod. Mae gan y Nant gyrsiau unigryw a phwrpasol ar gyfer y profiad dwys o ddysgu o lefel Blasu hyd at Gloywi. Yn ystod 2022-23, darparodd prif ffrwd y Nant 452 o brofiadau dysgu unigol i 411 o ddysgwyr unigol. Mae’r Ganolfan hefyd yn rhedeg cynllun Defnyddio Cymraeg Gwaith. Yn ystod blwyddyn ddiweddaraf y cynllun, gwelwyd 334 o brofiadau dysgu unigol ar 35 o gyrsiau.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae cyfnod preswyl yn y Nant yn cyfuno sesiynau dysgu ffurfiol yn y dosbarth a phrofiadau allgyrsiol er mwyn cynyddu medrau dysgwyr.

Mae’r rhaglen allgyrsiol yn cynnwys adloniant neu weithgaredd gyda’r nos a theithiau penodol ar brynhawniau Mercher. Mae’r elfennau hyn yn rhan bwysig o’r profiad dysgu ehangach yn y Nant ac yn gyfle i’r dysgwyr arbrofi gyda’u sgiliau newydd y tu allan i’r dosbarth. Cyn unrhyw ymweliad neu sesiwn adloniant mae’r dysgwyr yn cael sesiwn baratoi yn y dosbarth i’w harfogi i wneud y gorau a rhoi eu medrau Cymraeg ar waith.

Penderfynir ar y math o adloniant a thaith ar sail lefel y dysgwyr ond hefyd o ran eu diddordebau. Gan fod y Nant yn cynnal sgyrsiau ffôn gyda dysgwyr cyn iddynt ymweld â’r safle mae gennym lawer o wybodaeth amdanynt cyn eu croesawu yma. Golyga hynny ein bod yn medru trefnu gweithgaredd sy’n addas ac o ddiddordeb ac yn debygol o danio eu dychymyg.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Holl bwrpas y teithiau prynhawn Mercher yw rhoi cyfle i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchedd go iawn. Enghraifft o hyn yw ymweld â siop lyfrau Gymraeg mewn tref gyfagos a chefnogi’r dysgwyr i ofyn cwestiwn yn Gymraeg i’r perchennog. I nifer ar y lefelau is, dyma’r tro cyntaf iddynt ddefnyddio’r Gymraeg yn annibynnol. Mae enghreifftiau o eraill yn prynu llyfr Cymraeg am y tro cyntaf neu yn prynu paned drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn gam mawr iawn i sawl dysgwr ac yn rhywbeth y maent yn teimlo’n falch iawn o’i wneud.

Mae lleoliad y teithiau i gyd wedi eu dewis yn ofalus ac rydym yn cefnogi’r unigolion sydd yn gweithio yno i gefnogi’r dysgwyr mewn ffordd briodol. Golyga hyn ei bod hi’n annhebygol iawn i ddysgwr gael profiad anodd neu anghyfforddus. Maent yn cael eu cefnogi a’u hannog i ddefnyddio’r Gymraeg. I nifer o ddysgwyr, mae hyn yn drobwynt yn eu taith iaith.

Rydym yn annog y dysgwyr i ymweld â Thafarn y Fic yn ystod eu hwythnos gyda ni. Mae’r dafarn hon sy’n lleol iawn i’r Nant yn bartner pwysig i ni ac yn cynnig amgylchedd naturiol cyfrwng Cymraeg. Dyma gyfle i’r dysgwyr ymlacio yng nghwmni siaradwyr Cymraeg, ymuno yn y cwis wythnosol neu wylio gêm o bêl droed. Yn ddiweddar iawn, rydym wedi gweld enghreifftiau lle mae’r dysgwyr wedi ymuno mewn ymarfer côr lleol ac un arall wedi cynnig cyfeilio am fod y gyfeilyddes yn sâl. Mae’r profiadau hyn yn bwysig iawn i’r dysgwyr wrth iddynt deimlo yn rhan o’r gymuned Gymraeg ehangach.

Ar gyfer y criwiau Cymraeg Gwaith, mae teithiau i leoliadau gwaith cyfrwng Cymraeg amlwg yn bwysig. Mae ymweld â lleoliadau megis Galeri Caernarfon a chwmni teledu Cwmni Da wedi bod yn gyfle i’r dysgwyr weld y Gymraeg yng nghyd-destun y gweithle, a’r cyd-destunau rheiny yn rhai cyfoes a chyffrous sy’n ffynnu. Mae creu’r ddelwedd gadarnhaol yma o ddefnydd iaith yn holl bwysig i annog defnydd iaith.

Yn gyffredinol, mae gennym lu o enghreifftiau o fannau i ymweld â nhw megis Gwinllan Pant Du, Cwrw Llŷn, Amgueddfa Forwrol Llŷn, Canolfan Porth y Swnt, Oriel Glyn y Weddw, Coffi Poblado i enwi rhai yn unig. Drwy’r casgliad gwych yma o bartneriaid rydym yn medru darparu amrywiaeth o brofiadau i ddysgwyr sy’n dewis dychwelyd i’r Nant dro ar ôl tro.

Yn yr un modd, mae’r adloniant a drefnir i’r dysgwyr yn ddylanwadol hefyd. Mae’r ddarpariaeth yn eang ac yn ymatebol i ofynion y grŵp, er enghraifft wrth drefnu Noson Lawen ar gyfer criw o weithwyr celfyddydol a oedd gyda ni ar gwrs Mynediad. Doedd neb o’r criw wedi perfformio yn y Gymraeg o’r blaen felly roedd tipyn o nerfau a pharatoi. Bu’r tiwtoriaid yn cefnogi’r dysgwyr i baratoi eitemau, e.e. darnau llefaru, geiriau caneuon, ddarlleniadau, ac ati. Gwnaeth un criw berfformio Neges Ewyllys Da’r Urdd. Ar ddiwedd y noson roedd pawb wrth eu boddau a’r teimlad o gyflawniad yn amlwg. Bu gweddill yr wythnos yn un llawn egni a brwdfrydedd tuag at y dysgu yn y dosbarth.

Mae unigolion amlwg o’r Sîn Roc Gymraeg yn ymuno gyda ni yn wythnosol i ddiddanu hefyd. Dyma gyfle i’r dysgwyr weld y diwylliant Cymraeg cyfoes ar waith a chael cip ar y cyfleoedd newydd sydd ar gael iddynt drwy eu hiaith newydd. Mae cymeriadau fel Meinir Gwilym yn agor y drws at gerddoriaeth Gymraeg ac at deledu Cymraeg megis ‘Garddio a Mwy’ hefyd.

Mae’r gwaith paratoi sy’n digwydd cyn ymweliad/adloniant yn holl bwysig i fwynhad y dysgwyr. Os ydynt wedi eu harfogi yn y gywir, e.e. gyda geirfa briodol, cwestiynau addas, gwybodaeth gefndirol maent yn medru gwneud y mwyaf o’r cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg a hynny gyda chefnogaeth lawn eu cyd-ddysgwyr a’u tiwtor.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r math hwn o waith yn golygu ein bod fel darparwr yn darparu profiad cyfrwng Cymraeg i’n dysgwyr sy’n eu tynnu yn nes at fyw yn Gymraeg. Mae rhoi blas iddynt o’r hyn sydd ar gael iddynt yn eu hiaith newydd (gyda chefnogaeth tiwtor) yn ffordd o agor y drws a’u cefnogi i gamu drwyddo.

Yn ogystal, mae’n golygu bod pob wythnos breswyl yn ddeinamig ac yn fywiog ac yn ymatebol i anghenion y dysgwyr. Mae hynny yn ei dro yn creu darpariaeth atyniadol sy’n debygol o ddenu dysgwyr yn ôl ond hefyd eu hannog i greu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg eu hunain – mae’n torri’r garw.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Maes y Gwendraeth yn ysgol cyfrwng Cymraeg 11 – 18 oed a gynhelir gan gyngor Sir Gaerfyrddin. Mae 1108 o fyfyrwyr ar y gofrestr, gan gynnwys 181 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth. Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 12.3% a chanran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw 17.5%.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Er mwyn cryfhau a chyfoethogi’r ddarpariaeth gwricwlaidd i bob disgybl, penodwyd cydlynydd Iechyd a Lles er mwyn sicrhau bod cyfleoedd buddiol a gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu fel dinasyddion cyfrifol, aeddfed a gwybodus. Darperir myrdd o brofiadau diddorol a pherthnasol i’r disgyblion trwy’r rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) a lles. Mae’r cyfleoedd i ddisgyblion leisio eu barnau ac arwain a dylanwadu ar waith yr ysgol, ynghyd â’r arweiniad a phrofiadau ynghylch y camau nesaf yn eu bywydau, yn enwedig byd gwaith, hefyd yn cyfrannu at eu datblygiad fel dinasyddion gwybodus. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ysgol wedi rhoi ffocws glir ar ddatblygu ymagweddau iechyd a lles ym mhob agwedd o’i gwaith. O ganlyniad, mae’r ysgol wedi hyrwyddo a sicrhau y cyfleoedd gorau i bob disgybl i ddatblygu’n unigolion gwydn, gwybodus a llwyddiannus. Mae’r cyfleoedd gwerthfawr yma wedi sicrhau bod ethos fugeiliol gref ac awyrgylch gyfeillgar a chroesawgar yn Ysgol Maes y Gwendraeth.

Mae datblygu rhaglen gyfoethog a theilwredig i hyrwyddo agweddau ABCh ar draws y cwricwlwm wedi bod yn rhan bwysig o’r gwaith cynllunio. Fel rhan o’r broses gynllunio, cwblhawyd awdit a roddodd drosolwg o’r agweddau a oedd eisoes yn cael eu cyflwyno o fewn y cwricwlwm, yn ogystal ag adnabod yr agweddau oedd angen eu datblygu ymhellach. Law yn llaw â hyn, defnyddiwyd data’r rhwydwaith ymchwil iechyd mewn ysgolion (SHRN), adborth disgyblion a gwybodaeth o’r cydweithio agos gyda’r gymuned er mwyn cynllunio’r ddarpariaeth. Er enghraifft, mae’r gwaith gyda’r heddlu lleol yn galluogi’r ysgol i ymateb i faterion lleol o bwys yn ogystal ac ymgymryd mewn ymgyrchoedd lleol fel trefnu banc bwyd o fewn yr ysgol. Golyga hyn bod staff yn gallu cynllunio’n gydlynus ar gyfer cwricwlwm perthnasol sy’n ymateb i faterion sy’n codi o fewn profiadau’r disgyblion. Trwy’r gwersi lles, sesiynau llesiant boreol a gwasanaethau mae’r ysgol yn cefnogi a chyfoethogi datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion drwy themâu fel perthnasoedd iach, gwrth-fwlio, fepio a iechyd meddwl. O ganlyniad, mae disgyblion yn datblygu’n unigolion gwybodus sydd yn medru trafod amrywiol faterion yn hyderus ac aeddfed. Yn unol â hyn, mae’r ysgol yn gwneud defnydd da o asiantaethau allanol megis Brook, Gofalwyr Ifanc, Choices ac Impact 242 i gryfhau’r ddarpariaeth ymhellach.

Mae fforymau ‘Llais Maes’ yn cael lle blaenllaw yng ngwaith yr ysgol. Maent yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion i fynegi eu barn, arwain gweithgareddau lles ac ysgol gyfan a datblygu medrau arwain wrth ymgymryd â chyfrifoldebau sy’n dylanwadu’n gadarnhaol ar fywyd a gwaith yr ysgol. Mae effeithiolrwydd fforymau ‘Llais Maes’ yn sicrhau bod yr ysgol yn hyrwyddo barn y disgyblion yn glir ac mae hyn yn arwain at newidiadau gwerthfawr megis diwygio’r polisi gwrth- fwlio, cynyddu’r meinciau ar yr iard a datblygu prosiect i gyflwyno adnodd synhwyrau sensori. Mae disgyblion yn arwain clwb LHDTC+ ac yn cefnogi disgyblion trwy’r cynllun ‘Camu’ ble mae disgyblion y chweched dosbarth yn cefnogi disgyblion iau gyda’u medrau rhifedd a darllen. Mae cynrychiolwyr y fforymau’n crynhoi eu gwaith a’u gweithredoedd yn effeithiol trwy roi diweddariadau i’w cyd-ddisgyblion yn ystod y sesiynau lles boreol a’r gwasanaethau ac yng nghylchlythyron tymhorol ‘Llais Maes’ sy’n cael eu rhannu gyda rhan-ddeiliaid trwy amrywiol gyfryngau cymdeithasol. O ganlyniad i’r arferion cryf hyn, mae disgyblion yn teimlo bod yr ysgol yn ystyried eu barnau ac yn gweithredu ar eu syniadau.

Mae paratoi disgyblion ar gyfer y camau nesaf yn eu datblygiad, boed hynny yn yr ysgol, coleg neu fyd gwaith hefyd yn rhan bwysig o’n darpariaeth ABCh. Mae llesiant a diddordebau’r disgyblion bob amser wrth wraidd y ddarpariaeth ac o ganlyniad fe gynigir cyngor diduedd a pherthnasol i bob unigolyn. Mae cyfundrefnau cynhwysfawr i gefnogi disgyblion wrth iddynt ymuno â’r ysgol ym Mlwyddyn 7 ac mae hyn yn eu helpu i ymgartrefu’n ddi-ffwdan. Wrth iddynt ddewis eu pynciau opsiwn ym Mlwyddyn 9 ac 11, mae’r ysgol yn darparu gwybodaeth ac arweiniad buddiol i ddisgyblion er mwyn iddynt wneud dewisiadau gwybodus am eu dyfodol. Mae’r ysgol yn trefnu nosweithiau ‘Llwybrau Llwyddiannus’ a sesiynau blasu sy’n darparu gwybodaeth werthfawr i ddisgyblion ynglŷn â llwybrau ôl-14 ac ôl-16. Mae wythnos o brofiad gwaith hefyd yn cael ei hyrwyddo ac mae’r disgyblion yn Mlwyddyn 10 a 12 yn manteisio’n llawn ar y profiad yma. Mae’r ysgol wedi datblygu perthnasoedd gwerthfawr gydag amrywiol gwmnïau allanol a lleol sydd yn cefnogi ei gwaith ac yn cyfoethogi profiadau ac ymwybyddiaeth y disgyblion megis Gyrfa Cymru, busnes bwyd lleol a’r Ardd Fotaneg Genedlaethol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer dda drwy hyrwyddo ei gwaith gydag amryw o ran-ddeiliaid a thrwy wahanol gyfryngau. Mae gwefan yr ysgol yn cynnwys cylchlythyron ‘Llais Maes’ ac mae cyfrif cyfryngau cymdeithasol Iechyd a Lles yr ysgol yn hysbysu a dathlu’r ddarpariaeth gyfoethog gydol y flwyddyn. Ceir defnydd cyson o blatfformau cymdeithasol i hyrwyddo’r gwaith ac mae’r disgyblion yn rhan ganolog o’r cyfan.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Gŵyr yn ysgol uwchradd ddwyieithog wedi’i lleoli yn Nhre-Gwyr ac yn gwasanaethu dalgylch eang Sir Abertawe. Mae 1163 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 168 yn y chweched dosbarth. Daw 72.5% o’r disgyblion o gartrefi di-Gymraeg ac mae 7.8% yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn dilyn gwaith ymholi a chynllunio, mae aelodau’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles wedi cydweithio i sicrhau darpariaeth arbenigol i ddisgyblion sy’n canolbwyntio ar ddatblygu empathi, ymroddiad a phositifrwydd. Maent yn anelu at gefnogi pob disgybl ar eu taith bersonol i gyflawni lefelau uchel o iechyd a lles corfforol, emosiynol, deallusol a chymdeithasol. Trwy brofiadau cyfoethog a chynhwysol law yn llaw gyda’r wybodaeth a’r medrau angenrheidiol, anogir pob disgybl i fyw yn llesol ac actif er mwyn gallu byw bywydau hapus a hir ac i ddatblygu perthnasau cadarnhaol ac ymdopi gyda heriau bywyd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Nod y gwersi Iechyd a Lles Corfforol yw rhoi ffocws ar ddatblygu a chaffael medrau sy’n datblygu ymdeimlad o falchder wrth wella iechyd y corff, cynyddu lefelau ffitrwydd ac ennyn ymdeimlad o les. O fewn y gwersi, ceir cyfleoedd i fesur a phrofi ffitrwydd, dysgu am yr elfennau gwahanol sydd i ffitrwydd, datblygu’r ddealltwriaeth am y pwysigrwydd o osod targedau personol i wella ffitrwydd a rhoir cyfleoedd i ddatblygu medrau ar draws amrediad eang o weithgareddau tîm fel gymnasteg, athletau a champau eraill. Datblygir hefyd y gallu i werthuso perfformiadau personol a pherfformiadau eraill. Yn ystod y gwersi, datblygir cyfranwyr mentrus a chreadigol a defnyddir y Model Addysgu Chwaraeon er mwyn rhoi profiadau o chwarae rôl mewn gweithgareddau amrywiol. Rhoddir sylw i’r pwysigrwydd o ddatblygu empathi wrth gydweithio gydag eraill; rheoli emosiynau wrth ystyried anghenion gwahanol aelodau o’r dosbarth a deall y risgiau i fywydau dysgwyr eu hunain ac eraill. Mae’r cyfle i greu cysylltiadau â champau amrywiol a throsglwyddo medrau o’r naill weithgaredd i’r llall yn rhan naturiol o’r gwersi. Yn ogystal, addysgir am ddisgyblaeth a delio â llwyddiant a methiant er mwyn rhoi cyfle i ddatblygu hunanymwybyddiaeth ac ymdeimlad o gyflawniad. Datblygir medrau megis gwaith tîm, goddefgarwch a hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth a chyfeillgarwch.

Yn y gwersi Iechyd a Lles Cyfannol, y nod yw codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles emosiynol, deallusol a chymdeithasol, gan ymgorffori yn y disgyblion ymwybyddiaeth o wydnwch, cyfrifoldeb a dealltwriaeth er mwyn cyfoethogi eu bywydau yn eu cynefin. Yn y gwersi, mae cydweithio drwy gyflawni heriau, cefnogi eraill a dangos empathi, a bod yn barod i ddysgu yn hollbwysig. Mae’r gwersi Iechyd a Lles Cyfannol yn dilyn taith bywyd sydd yn cwmpasu cysyniadau fel ‘Gwe Bywyd’ A ‘Thaith Bywyd’. Mae ffocws ar bwysigrwydd ‘Cynefin’ a dysgu am barch, empathi a charedigrwydd. Mae’r disgyblion yn cael cyfle i greu bocs cymorth cyntaf i gefnogi iechyd emosiynol/meddyliol, yn dysgu am e-ddiogelwch ac effaith hir dymor cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. Yn y gwersi Addysg Cydberthynas a Rhywiolldeb mae disgyblion yn trafod newidiadau’r corff yn ystod glasoed ac addysg rhyw. Ceir cyfres o wersi ar ddelwedd corff, dysgu am ‘Fi fy hunan’. Defnyddir y wybodaeth hon wrth ymdrin ag astudiaethau achos real yn ogystal ag ymestyn gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o niwed cudd, problemau defnyddio cyffuriau, ac anhwylderau bwyta.

Mae’r gwersi Iechyd a Lles Maeth yn ffordd o sicrhau bod y disgyblion yn deall pwysigrwydd bwyd a maeth er mwyn hyrwyddo bwyta’n iach gydol oes. Mae’r gwersi yn rhoi arweiniad ar hylendid bwyd, creu bwydydd iach, datblygu medrau ymarferol paratoi bwyd yn ddiogel ynghyd â phwysigrwydd dysgu am ‘Filltiroedd bwyd’. Mae cyfle i ddysgu am ddietau arbennig, ac ar gyfnodau arbennig o’r flwyddyn rhoddir ffocws ar flasu bwydydd tymhorol. Fel yn y gwersi Iechyd a Lles corfforol, gosodir gwaith ymarferol yng nghanol y dysgu.

Trwy gynllunio gofalus, mae’r gwersi yn rhoi gwybodaeth a medrau da i ddisgyblion fesur effaith ar eu hiechyd personol. Er enghraifft, yn y gwersi Iechyd a Lles Maeth ym Mlwyddyn 8, datblygir dealltwriaeth o’r mathau gwahanol o fwydydd, gan gynnwys y macro-faetholion a micro-faetholion a’r egni a geir ynddynt. Ar yr un pryd, yn y gwersi Iechyd a Lles Cyfannol cyflwynir y theori gymhwysol o fesuriadau indecs mas y corff, y problemau o ordewdra ac afiechydon cysylltiedig, ac yna yn y gwersi Iechyd a Lles corfforol ceir arweiniad ar sut i gadw’r corff yn iach er mwyn cynnal pwysau iach, a datblygir y medrau corfforol angenrheidiol i wneud hyn a thrafodir gosod targedau ffitrwydd personol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi ei gael ar y ddarpariaeth ac ar safonau a lles disgyblion?

Trwy wrando ar lais y disgyblion a dadansoddi holiaduron mae’r athrawon yn gyson addasu unedau gwaith a theilwra’r ddarpariaeth a thrwy hynny yn cadw bys ar bỳls dyheadau’r disgyblion. Effaith amlwg hyn yw bod gan y rhan fwyaf o’r disgyblion agweddau mwy iach at ddysgu wrth iddynt ddatblygu mewn hunanhyder a hunanwerth. Mae Gwefan Iechyd a Lles Disgyblion Gŵyr yn cynnwys llawer o wybodaeth bellach i gyfoethogi eu dysgu tu hwnt i’r gwersi ffurfiol. Mae’r gwersi wedi cyfrannu at welliant yn lefelau gwydnwch, hunan reolaeth, a pherfformiad academaidd disgyblion er mwyn delio gyda heriau’r byd, boed ar lefel unigol neu fel aelodau cyfrifol o gymdeithas.

Sut ydych wedi rhannu eich arfer dda?

Mae cydweithio cadarn ymhlith aelodau Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles Ysgol Gyfun Gŵyr ac aelodau’r Maes Dysgu a Phrofiad hwn ar lefel ‘Cymuned Gŵyr’, sef y gweithgor Cynradd / Uwchradd, wrth iddynt gyd-gynllunio, adnabod y dysgu a hyrwyddo cynnydd.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr awdurdod lleol

Cyfanswm poblogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw tua 114,828. Mae’r awdurdod lleol yn cynnal 51 o ysgolion cynradd, saith ysgol uwchradd, un ysgol arbennig a dwy uned cyfeirio disgyblion. Mae’r ysgolion hyn yn darparu addysg ar gyfer 15,700 o ddysgwyr i gyd. Mae Gofal Cymdeithasol ac Addysg yn wasanaeth integredig o fewn Conwy ac mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn dod o fewn y portffolio Addysg. Rhoddir disgrifiad manwl isod o’r gwaith a’r ddarpariaeth a gyflwynir gan y Gwasanaeth Ieuenctid a’r gwasanaethau eraill o fewn y portffolio Gofal Cymdeithasol ac Addysg.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

O fewn cyd-destun newidiadau deddfwriaethol, newidiadau mewn cyfarwyddeb polisi, newidiadau yn y ddynameg leol ac wrth ymateb i hinsawdd ariannol heriol, mae’r Awdurdod Lleol yn deall pwysigrwydd sicrhau deilliannau gwell ar gyfer plant a phobl ifanc nid yn unig yn y tymor byr, ond o fewn safbwynt tymor hirach meithrin gwydnwch, bod yn weithredol yn economaidd a lleihau dibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus. Un o ganlyniadau arwyddocaol hyn yng Nghonwy yw ailstrwythuro ac uno Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg yn llwyddiannus yn un gwasanaeth integredig. Mae’r gweithgarwch strategol a gweithredol ar draws Gofal Cymdeithasol ac Addysg yn canolbwyntio ar gyflawni blaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol. Ar draws ystod yr arbenigedd o fewn y gwasanaeth, ceir dealltwriaeth fuddiol ar y ddwy ochr o ddyletswyddau deddfwriaethol allweddol a throthwyau ar gyfer cymorth ac ymyrraeth. Cynlluniwyd y gwasanaeth i ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y mae ei gofynion wrth wraidd trawsnewid gwasanaeth ar draws gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg, sy’n anelu at gyflwyno agenda ataliol, gan rymuso dinasyddion i geisio iechyd a lles gwell drostynt eu hunain.

Mae effaith integreiddio Gofal Cymdeithasol ac Addysg wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol. Ar lefel strategol, crybwyllir y tîm rheoli sengl ar bob mater yn ymwneud â phlant, pobl ifanc a theuluoedd mewn ffordd gydlynus a chydlynol. Ar lefel weithredol, mae gan staff synnwyr cynyddol o berthyn ac ymrwymiad i un tîm Gofal Cymdeithasol ac Addysg a gweledigaeth, sef ‘Cydweithio â’n cymuned i alluogi pawb i gael y gorau o fywyd’. Mae timau’n dangos cydnabyddiaeth o feysydd arbenigol yn glir ac yn defnyddio arbenigedd ar draws meysydd gwasanaeth i arloesi, gwella arfer a chyflawni gwelliannau. Mae integreiddio gwasanaethau Ieuenctid a Chyflogadwyedd yn y portffolio addysg wedi galluogi i wasanaethau gael eu cyflwyno’n ddi-dor ar draws cymunedau, ymhlith pobl ifanc a’r rhai sy’n chwilio am gyflogaeth.

Caiff ymagweddau cydweithredol cryf ar draws Gofal Cymdeithasol ac Addysg eu hymgorffori’n dda ac maent yn effeithio’n gadarnhaol ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae prosesau clir ar waith ar gyfer nodi’n gynnar, sy’n galluogi gweithredu cymorth priodol mewn modd amserol. Caiff cymorth ar gyfer teuluoedd ei gydlynu’n dda ac mae fframwaith clir ar waith ar gyfer llwybrau atgyfeirio cynnar ac ymglymiad amlasiantaethol. Gall teuluoedd fanteisio ar rwydweithiau eang o bartneriaid sy’n gallu cynnig cymorth a darpariaeth y tu allan i amgylchedd yr ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Trwy ei ymagwedd gwasanaethau integredig, caiff adnoddau i gynorthwyo pobl ifanc a’u teuluoedd eu defnyddio’n bwrpasol ac yn briodol. Trwy weithio mewn partneriaeth yn effeithiol, mae arlwy cytbwys o raglenni cyffredinol, mynediad agored a thargedig sy’n ymatebol i anghenion newidiol plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. O dan thema drosfwaol “mae angen help ar bawb weithiau”, mae ystod eang o ddarpariaeth, cymorth a mynediad ar gael i blant, pobl ifanc a theuluoedd fynd i’r afael â bregusrwydd ac ennyn eu hymgysylltiad ag addysg.

O dan ymbarél y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, mae Conwy wedi parhau i ddatblygu ei ymagwedd gydweithredol ac integredig at weithio. Mae gwasanaethau allweddol o fewn yr Awdurdod Lleol, fel: Tai, Addysg, Gofal Cymdeithasol a’r Heddlu, yn cydweithio i nodi anghenion, bylchau a meysydd i’w gwella. Mae cydweithio â gwasanaethau mewnol ac allanol yn galluogi swyddogion a gwasanaethau i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth i sicrhau bod adnoddau’n cael eu pennu i feysydd blaenoriaeth.

Mae’r ymagwedd at gymorth yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn addysg ac ymgysylltu â hi. Mae gan yr Awdurdod Lleol Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd sefydledig sy’n darparu cyngor a gwybodaeth werthfawr i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol. Mae’r gwasanaeth yn effeithiol yn sicrhau hyb gwybodaeth symlach sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i rieni chwilio drwyddo wrth wneud penderfyniadau allweddol am ddarpariaeth addysg.

Mae gwasanaethau cymorth i deuluoedd yng Nghonwy wedi’u gwreiddio’n dda ac yn ffurfio rhan annatod o ymagwedd yr Awdurdod Lleol sy’n cael ei hategu gan werthoedd gwasanaethau cyhoeddus i gyflwyno gwasanaethau i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Mae arlwy’r Ganolfan Deuluol yn darparu amgylchedd cynhwysol ac anogol sy’n galluogi plant a phobl ifanc i gofleidio bywyd fel oedolyn a dod yn ddinasyddion cyfrifol, annibynnol, sy’n economaidd weithgar ac yn wydn. Mae Canolfannau Teuluol wedi’u lleoli ledled pum ardal, sy’n cyd-fynd yn agos â dalgylchoedd ysgolion. Mae’r model yn sicrhau bod ysgolion yn gallu troi’n uniongyrchol at weithiwr teuluol enwebedig sy’n gweithio gyda theuluoedd i hyrwyddo ymgysylltu o’r newydd ag addysg.

Mae gweithio mewn partneriaeth ar draws Gofal Cymdeithasol ac Addysg yn gryfder ac yn elfen allweddol o raglen Gofal Plant Dechrau’n Deg (FSC). Mae’r tîm FSC yn gweithio’n agos â nifer o asiantaethau a phartneriaid i gefnogi’r cyfnod pontio i ofal plant a thrwodd i addysg gynnar. Mae’r Tîm FSC yn gweithio’n agos â thîm y Blynyddoedd Cynnar, Gwasanaeth Portage, Canolfan Datblygiad Plant Conwy a Chynllun Cymorth Cyn-Ysgol Conwy i sicrhau bod anghenion plant yn cael eu diwallu a gwybodaeth berthnasol yn cael ei rhannu, gan arwain at bontio esmwyth o addysg gynnar. Darperir ystod o adnoddau ac offer i deuluoedd i gefnogi taith addysgol eu plentyn.

Mae gofal plant Dechrau’n Deg Conwy yn darparu ymyrraeth gynnar werthfawr wrth i blentyn ddechrau ei daith trwy ofal plant ac addysg, a thrwy weithio gyda phartneriaid ac ysgolion lleol, gan felly sicrhau bod teuluoedd yn gallu manteisio ar gymorth yn hawdd. Gellir gweld effaith y dull cyfannol yn y modd y mae ysgolion wedi magu hyder yn defnyddio ac yn manteisio ar ymyriadau fel: ysgolion bro, ELSA ac ysgolion sy’n ystyriol o drawma. Bu cynnydd mewn achosion cymhleth a dwys ar ôl y cyfnod clo, ac wrth ymateb i hynny, mae gwasanaethau’r Awdurdod Lleol yn gweithio’n agos gydag ysgolion i ddiwallu anghenion y rhai mwyaf bregus.

Mae darpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid yr Awdurdod Lleol wedi’i leoli o fewn Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy (CYS) yn effeithiol o ran hwyluso ac yn cefnogi twf pobl ifanc trwy ddibyniaeth i annibyniaeth, gan annog eu haddysg bersonol a chymdeithasol a helpu pobl ifanc i gymryd rôl gadarnhaol mewn datblygu eu cymunedau a’u cymdeithas. Mae strwythur y gwasanaeth yn ymgorffori cynlluniau cenedlaethol fel Iechyd a Lles, Digartrefedd ymhlith Ieuenctid, Gwaith Ieuenctid Digidol a lleihau nifer y bobl ifanc NACH. Mae’r dull aml-wasanaeth hwn yn sicrhau bod llais pobl ifanc yn rhan o’r broses ac wedi helpu ffurfio’r adnoddau ac arfer gwasanaethau sy’n cefnogi pobl ifanc.

Mae CYS yn cynnig 30 o ddarpariaethau clybiau ieuenctid mynediad agored ar draws yr Awdurdod Lleol a 5 o ddarpariaethau cymunedol targedig yr wythnos. Mae CYS yn gweithio’n agos ag ysgolion, Canolfannau Teuluol a hybiau tai Cartrefi Conwy. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu clybiau galw heibio mewn 4 o gyfleusterau llety dros dro ar gyfer y bobl ifanc hynny sy’n ddigartref. Trwy weithio gyda Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), Gofal Cymdeithasol a’r tîm Cwnsela mewn Ysgolion, mae CYS wedi creu arlwy clwb ieuenctid pwrpasol ar gyfer pobl ifanc sydd angen mwy o gymorth yn canolbwyntio ar les, gan greu llwybr yn ôl i leoliadau cymdeithasol sy’n meithrin gwydnwch tra’n gweithio yn ôl cyflymdra’r unigolyn. Mae ymyrraeth dargedig yn amrywio o gymorth ar-lein, ymweliadau stepen drws, teithiau cerdded lles a sesiynau grwpiau llai fel rhan o raglen Seren Conwy.

Esblygodd rhaglen Seren o fersiynau blaenorol lle roedd darparu cymorth lles wythnosol yn cynnwys ymweliadau stepen drws, teithiau cerdded lles a darpariaeth symudol lles i ymateb i’r angen cynyddol ledled Conwy. Mae’r rhaglen yn darparu cymorth hanfodol ar gyfer pobl ifanc sy’n ynysu eu hunain yn gymdeithasol oherwydd rhwystrau lles meddwl neu anabledd, gyda’r nod o fagu hyder, gwydnwch a medrau i wella lles ac ailintegreiddio i leoliadau cymdeithasol mwy. Daw atgyfeiriadau ar gyfer y rhaglen hon o ystod eang o wasanaethau’r Awdurdod Lleol, gwasanaethau Iechyd a gwasanaethau eraill, yn cynnwys: gwasanaethau ieuenctid, CAMHS, cwnsela yn yr ysgol, ysgolion, gweithwyr teuluol, therapyddion lleferydd ac iaith a’r rhieni eu hunain.

Mae Prosiect Y Dderwen Conwy yn brosiect ataliol sy’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth am ddigartrefedd a thai. Mae’r rhaglen yn cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu gwydnwch, medrau byw yn annibynnol a gwneud dewisiadau gwybodus am eu dyfodol. Gan ddefnyddio methodoleg gwaith ieuenctid, mae’r prosiect wedi gallu creu adnoddau pwrpasol, sy’n addysgu pobl ifanc trwy weithgareddau addysgol rhyngweithiol, hwyliog ac anffurfiol.

Mae’r prosiect yn cynnig ymyrraeth gynnar ac yn cynorthwyo mewn argyfwng, hefyd. Cyflawnir hyn trwy gynnig cymorth i deuluoedd a phobl ifanc sy’n profi anawsterau o ran tai a digartrefedd. Ar hyn o bryd, mae’r prosiect yn gweithredu pum sesiwn galw i mewn mynediad agored mewn llety a lleoliadau preswyl dros dro. Mae’r sesiynau hyn wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigol y person ifanc a’i amgylchiadau teuluol. Mae’r Awdurdod Lleol wedi datblygu ymagwedd deilwredig yn canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n galluogi gweithwyr proffesiynol i ymateb i anghenion penodol teuluoedd tra’n meithrin perthnasoedd sefydledig gyda phobl ifanc sydd wedi elwa ar ddarpariaeth ieuenctid gymunedol, gwaith ieuenctid mewn ysgolion a phrosiectau targedig hefyd.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae cylch gorchwyl y gwaith hwn yn sicrhau dull cwmpasu popeth a ‘dim drws anghywir’ clir ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd bregus. Mae ymgysylltu â theuluoedd cyn gynted ag y bo modd, gallu meithrin perthnasoedd ymddiriedus, sicrhau bod ymgysylltu â gwasanaethau addysg a gwasanaethau ehangach yn sbardun cadarnhaol ar gyfer gwelliant.

Gwnaed gwaith prosiect penodol i fynd i’r afael â materion presenoldeb yn gysylltiedig ag osgoi mynd i’r ysgol ar sail emosiynau ac mewn dysgwyr niwrowahanol. Mae’r prosiectau hyn wedi bod yn ymatebol i themâu ar wahân a nodwyd ar draws asiantaethau o ran monitro presenoldeb a cheisiadau am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Yn ychwanegol, mae cymorth gan dimau cwnsela mewn ysgolion wedi arwain at iechyd meddwl a lles gwell i 85% o ddysgwyr a ymgysylltodd â sesiynau.

Mae arolygiadau Estyn yn dangos effaith o ran lles ac ymddygiad cadarnhaol dysgwyr ar draws ysgolion Conwy. Mae darpariaeth yn parhau i esblygu a datblygu i ymateb i angen lleol ac ar sail tystiolaeth a gasglwyd trwy ystod o wasanaethau ar draws Gofal Cymdeithasol ac Addysg.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Dyfarnwyd Marc Ansawdd Aur am Waith Ieuenctid i’r Gwasanaeth Ieuenctid trwy rannu cwmpas ei wasanaeth a’i ddarpariaeth, yn ogystal â gwobr baner enfys.

Cydweithiodd Gwasanaeth Ieuenctid Conwy â CLlLC i gefnogi a chyfrannu at gynllunio a chydlynu cynhadledd atal Digartrefedd ymhlith Ieuenctid ar y cyd ag End Youth Homelessness Cymru. Rhannwyd enghreifftiau o arfer dda ac astudiaethau achos o Gonwy gyda gwasanaethau llywodraeth leol, gan gynnwys: addysg, tai, gwasanaethau cymdeithasol, yn ogystal â’r sector gwirfoddol.

Mae uwch swyddogion yn aelodau o Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru.

Mae swyddogion yn ymgymryd â gwaith trawsnewid rhanbarthol a chenedlaethol, er enghraifft Taith i Saith. Caiff arfer dda ei rhannu ar draws ystod o fforymau strategol a gweithredol, yn cynnwys: rhwydweithiau Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Chuckles yn feithrinfa breifat gofal dydd llawn ym Metws, Casnewydd, yn darparu ar gyfer 70 o blant rhwng 6 wythnos a 4 oed.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Betws yn eithaf uchel ar Restr y Mynegai Amddifadedd Lluosog, ac er nad yw pob un o’r plant yn dod o’r ardal hon, roedd rolau blaenorol yr oedd yr ACof yn eu dal yn y gymuned wedi amlygu bod angen helpu rhoi cymorth i rieni i fagu plant. Roedd y teulu estynedig yn diflannu’n araf, felly roedd angen i’r lleoliad ddod yn rhan o hynny.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae angen i feithrinfa greu teulu sy’n cynnwys staff, rhieni, plant a’r gymuned ehangach.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae pennaeth y ‘teulu’ yn dîm rheoli â ffocws, sy’n deall beth sydd ei angen i gyflawni’r gwerthoedd y mae’r lleoliad eisiau eu meithrin ym mhawb. Mae ymarferwyr yn rhoi pwyslais gwych ar ddatblygu tîm hynod fedrus o ymarferwyr. Pan fo’n bosibl, maent yn ceisio trefnu hyfforddiant gorfodol yn ystod oriau gweithio arferol. Pan nad yw hyn yn bosibl, mae ymarferwyr yn talu oriau ychwanegol i staff am fynychu hyfforddiant. Mae’n gallu bod yn anodd ond maent yn ceisio sicrhau bod cynrychiolydd o’r feithrinfa yn mynychu’r holl hyfforddiant er mwyn gallu ei fwydo’n ôl i weddill y tîm. Mae ymarferwyr yn ymdrechu i gefnogi’r tîm os ydynt yn dymuno mynychu dysgu proffesiynol ychwanegol priodol, er enghraifft wrth fynychu hyfforddiant ar elfennau dysgu iaith arwyddion. Mae meithrin tîm yn elfen hanfodol wrth gynorthwyo staff i weithio gyda’i gilydd. Mae ymarferwyr yn rhoi pwyslais mawr ar gynorthwyo ac annog eu staff. Er enghraifft, maent yn cael ‘diwrnodau cacennau’ bob mis, dosbarthiadau dawns bob wythnos y mae’r feithrinfa yn talu amdanynt, a champfa ar y safle, sy’n cefnogi iechyd a lles staff. Gall pob un o’r staff fwyta bob dydd trwy ddewis oddi ar fwydlen y feithrinfa am £1 yn unig. Mae’r lleoliad yn darparu ystod o achlysuron cymdeithasol ar gyfer staff trwy gydol y flwyddyn. Nid yw’r achlysuron hyn yn ddigwyddiadau mawreddog, o reidrwydd, ond mae gweithgareddau fel barbeciw yn yr ardd yn meithrin ethos tîm cryf yn llwyddiannus.

Mae tîm hapus a medrus yn arwain at hyder wrth gynllunio gweithgareddau sy’n datblygu medrau plant yn llwyddiannus. Addysgir plant am bwysigrwydd meithrin cymuned trwy ddatblygu perthnasoedd cryf ag ymarferwyr. Mae ymarferwyr yn trefnu i’r plant ymweld â llyfrgelloedd lleol a’r cartref ymddeol lleol i dreulio amser gyda’r hen bobl. Mae plant wrth eu bodd yn mynychu ac yn dod â llawenydd i’r preswylwyr wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’i gilydd.

Newidiodd y lleoliad oriau prentisiaid i 25 awr, y mae 5 o’r oriau hynny yn cynnwys astudio ar y safle. Roedd yn heriol i brentisiaid weithio amser llawn a chwblhau’r astudio angenrheidiol yn eu hamser eu hunain, hefyd. Maent bellach yn cwblhau eu hastudiaethau yn ystod eu horiau gweithio. Mae aseswyr yn eu cynorthwyo fel grŵp ac mae hyn wedi helpu sicrhau bod gwahanol aseiniadau’n cael eu cwblhau mewn pryd.

Dechreuodd gweithdai rheolaidd i rieni gyda gweithgareddau crefft hwyliog adeg y Nadolig a’r Pasg. Defnyddiodd ymarferwyr Grant Amddifadedd Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar i gynnal dosbarthiadau coginio ar gyfer rhieni a chopïo’r bwydlenni a ddefnyddir yn y feithrinfa iddynt eu defnyddio gartref, gan hyrwyddo arferion bwyta’n iach. Erbyn hyn, mae’r lleoliad yn cynnal gweithdai i rieni sy’n ymgorffori elfennau fel chwaraeon, gwaith coed a garddio. Wrth i’r rhieni fagu hyder, mae ymarferwyr wedi eu cyflwyno i’r ystod o wahanol weithgareddau a ddarperir ar gyfer y plant yn y feithrinfa.

Mae’r lleoliad yn defnyddio’r Family App hefyd, a gyflwynwyd yn ystod y pandemig. Mae’r ap hwn yn golygu bod rhieni’n gallu anfon neges at yr aelod o staff unigol sy’n gofalu am eu plentyn yn ystod y dydd a gall y tîm rannu lluniau’n ddiogel gyda nhw.

Mae trefniadau ar gyfer pontio yn bwysig iawn, ym marn ymarferwyr. Mae angen iddynt sicrhau bod ganddynt gymaint o wybodaeth ag y bo modd fel eu bod wir yn dod i adnabod y plentyn sy’n dod i dreulio amser yn y lleoliad. Mae ymarferwyr hefyd yn darparu cymaint o wybodaeth ag y bo modd i leoliadau neu ysgolion pan fydd y plant yn symud ymlaen. Maent yn gweithio gydag asiantaethau allanol i sicrhau bod plant ag ADY yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt. Ar ddiwedd pob blwyddyn ysgol, mae ymarferwyr yn trefnu gweithgareddau gyda’r ysgolion lleol fel bod y plant yn dod i arfer â’u hamgylchedd newydd ac yn magu hyder trwy ymweld â phobl sy’n gyfarwydd iddynt.

Mae gweithio mewn partneriaeth yn creu amgylchedd lle mae’r plentyn yn ganolog i bopeth a wna’r lleoliad. Mae’r tîm yn hyderus, yn hamddenol ac yn hapus, ac fe gaiff hyn effaith gadarnhaol iawn ar y plant. Mae datblygu perthynas gref rhwng ymarferwyr a rhieni yn meithrin parch ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gymunedol Troedyrhiw wedi’i lleoli ym mhentref Troedyrhiw a Phentrebach, ac mae ychydig o ddisgyblion yn mynychu o leoedd pellach. Mae’r ysgol wedi’i lleoli ar ddau safle cyfagos ac mae ganddi 215 o ddisgyblion 3-11 oed. Mae tua 20% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a nodwyd bod gan 17% ohonynt angen dysgu ychwanegol. Mae arwyddair yr ysgol, sef ‘Credu, Cyflawni a Disgleirio’ (‘Believe, Achieve and Shine Bright’) yn ymgorffori arfer bob dydd yn yr ysgol, lle mae cymuned yr ysgol gyfan yn gweithio gyda’i gilydd i godi dyheadau, gan annog pawb i gredu ynddynt eu hunain, cyflawni eu nodau a disgleirio.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r corff llywodraethol yn Ysgol Gynradd Gymunedol Troedyrhiw yn cynnwys ystod o lywodraethwyr gwirfoddol sydd â phrofiadau helaeth. Gyda’i gilydd, maent yn cefnogi ac yn herio’r tîm arweinyddiaeth i ysgogi newid ac effaith gadarnhaol ar safonau ar gyfer yr holl ddysgwyr. Er mwyn cryfhau rôl y llywodraethwyr, sefydlwyd Grŵp Gwella Llywodraethwyr. Nod y Grŵp Gwella Llywodraethwyr yw datblygu rhwydwaith o lywodraethwyr o’r clwstwr o ysgolion i rannu arfer, gwybodaeth a hyfforddiant, cynyddu arbenigedd llywodraethwyr a’u harfogi â’r medrau a’r hyder i weithredu fel ffrind beirniadol i’w hysgolion.

I ddechrau, roedd y Grŵp Gwella Llywodraethwyr yn cynnwys cadeiryddion ac is-gadeiryddion llywodraethwyr pob un o ysgolion y clwstwr. Mae’r Grŵp Gwella Llywodraethwyr wedi esblygu, ac erbyn hyn, mae cynrychiolwyr eraill o bob corff llywodraethol yn mynychu’r cyfarfodydd, gan felly ehangu’r cyfle ar gyfer yr holl lywodraethwyr.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, mae’r Grŵp Gwella Llywodraethwyr yn cyfarfod i drafod a chytuno ar y camau gweithredu ar gyfer y flwyddyn honno. Maent yn cynnal archwiliad medrau i ddeall anghenion cyrff llywodraethol y clwstwr, gan ystyried cyd-destun pob un o’r ysgolion. Defnyddir y wybodaeth hon i ddatblygu ‘Calendr Ymrwymiadau’. Yn nodweddiadol, caiff y cyfarfodydd hyn sydd wedi’u cynllunio eu cynnal o leiaf unwaith y tymor a chânt eu cynnal gan bob un o ysgolion y clwstwr.

Mae’r Calendr Ymrwymiadau yn amlinellu’r agenda ar gyfer pob cyfarfod ac yn galluogi llywodraethwyr ar draws y clwstwr i ddewis pa gyfarfodydd sydd fwyaf cefnogol i’w rôl. Mae o leiaf dau gynrychiolydd ym mhob un o gyrff llywodraethol y clwstwr; mae hyn yn helpu sicrhau bod pob ysgol yn cael ei chynrychioli ac yn gwneud lledaenu o fewn pob ysgol yn bosibl.

Wrth benderfynu ar y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn, cesglir ystod o wybodaeth. Er enghraifft, mae’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Cwricwlwm i Gymru wedi bod yn ffocws ar gyfer datblygu a rhannu gwybodaeth. Y ffocysau eraill yn nodweddiadol yw’r rhai sydd wedi effeithio ar bob ysgol ar draws y clwstwr, fel cynlluniau pontio, toriadau ariannol a chynnydd ym medrau disgyblion.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r Grŵp Gwella Llywodraethwyr yn rhwydwaith proffesiynol sydd wedi’i seilio ar ymddiriedaeth a gonestrwydd, gydag awydd ar y cyd i ddarparu’r her a’r cymorth gorau i ysgolion er mwyn ymdrechu am welliant parhaus yr ysgol a deilliannau gwell ar gyfer yr holl ddisgyblion.

Mae’r canlynol yn rhoi trosolwg o rai enghreifftiau a’r effaith y maent wedi’i chael ar arweinwyr a disgyblion.

Datblygu creadigrwydd a sut beth yw hyn yn ymarferol

Yn ystod cyfarfod yn nhymor yr hydref, rhannodd pob un o ysgolion y clwstwr gyflwyniad i’r Grŵp Gwella Llywodraethwyr ynghylch ‘Creadigrwydd yn y Cwricwlwm’. Yn unol ag adolygiad o gwricwlwm pob ysgol ac o ganlyniad i’r Cwricwlwm i Gymru, rhannodd pob ysgol fanylion am sut roeddent yn datblygu creadigrwydd a sut beth yw cynnydd mewn creadigrwydd yn eu hysgolion. Darparodd y sesiwn addysgiadol gyfle i lywodraethwyr gaffael gwybodaeth am gynllunio’r cwricwlwm, gofyn cwestiynau am wahanol arferion a chael dealltwriaeth ar y cyd o safbwyntiau pob ysgol. Y tymor dilynol, cynhaliwyd cyfarfod lle daeth ysgolion ag ystod o lyfrau a thystiolaeth ddigidol i ddangos sut roedd creadigrwydd yn cael ei ddatblygu gyda disgyblion. Rhoddodd hyn gyfle i lywodraethwyr edrych ar lyfrau a chynnydd disgyblion o ystod o ysgolion. Mae cael dealltwriaeth ar y cyd yn cryfhau gwybodaeth a medrau llywodraethwyr, gan gynyddu’r gallu a’r hyder i ofyn cwestiynau gwybodus, i herio a chynorthwyo arweinwyr.

Asesu a’r Cwricwlwm i Gymru

Mae cyfarfodydd y Grŵp Gwella Llywodraethwyr yn cynnwys sesiynau hyfforddi a rhannu gwybodaeth. Rhannodd Ysgol Gymunedol Troedyrhiw wybodaeth am sut roeddent yn datblygu eu defnydd o asesiadau yn gysylltiedig â chynllunio’r cwricwlwm. Yn ystod y cyfarfod hwn, rhannwyd gwybodaeth ag aelodau’r grŵp am asesu a sut mae hyn yn cysylltu â’r Cwricwlwm i Gymru, a sut maent yn dangos tystiolaeth o gynnydd disgyblion trwy olrhain a monitro safonau. Roedd hon yn sesiwn hynod fuddiol i lywodraethwyr gan ei bod yn amlygu’r ymchwil a’r wybodaeth ddiweddar am arfer orau ar gyfer defnyddio a datblygu asesiadau i gefnogi cynnydd dysgwyr. Hefyd, rhannodd wybodaeth fanwl am safonau disgyblion, eu mannau cychwyn a sut mae arweinwyr yn defnyddio asesiadau i gynllunio ar gyfer cynnydd disgyblion. Datblygodd llywodraethwyr ddealltwriaeth o sut caiff asesiadau o ddydd i ddydd / parhaus eu defnyddio i lywio cynllunio, darparu dysgu personoledig ar gyfer disgyblion, a nodi hyfforddiant i uwchsgilio staff, yn ogystal ag olrhain cyflawniadau disgyblion.

Yn ogystal â gwybodaeth am sut mae Troedyrhiw yn defnyddio asesiadau parhaus, rhannodd yr ysgol fanylion am sut maent yn defnyddio asesiadau crynodol. Gan fod hwn yn faes newid i lawer o lywodraethwyr, roedd yn ddefnyddiol iddynt ddatblygu eu gwybodaeth am sut mae gwahanol fathau o asesiadau’n cynorthwyo arweinwyr wrth olrhain a monitro cynnydd disgyblion. Darparodd y sesiynau asesu gydbwysedd o ran sut y gellir defnyddio asesiadau crynodol ac asesiadau parhaus (ffurfiannol) i sicrhau barnau cywir a gweithdrefnau monitro ac olrhain cadarn yn llwyddiannus i gefnogi hunanwerthuso ysgol gyfan.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Derbyniodd y Grŵp Gwella Llywodraethwyr wybodaeth gan y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY) yn Nhroedyrhiw a oedd yn darparu hyfforddiant diweddaru ar Ddeddf ADYTA. Cafodd llywodraethwyr gyfle i edrych ar Gynllun Datblygu Unigol (CDU) a Phroffil Un Dudalen dienw. Rhoddodd hyn ddealltwriaeth glir iddynt o’r ddeddfwriaeth ac arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Wedyn, roedd llywodraethwyr yn gallu gofyn cwestiynau gwybodus am bolisi ac arfer yn eu hysgolion eu hunain. Hefyd, gall llywodraethwyr sy’n gynrychiolwyr ar eu grwpiau anghenion dysgu ychwanegol awdurdod lleol rannu eu harbenigedd wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ysgolion ar draws yr awdurdod.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Mae gan y Grŵp Gwella Llywodraethwyr rwydwaith digidol (trwy Hwb) lle caiff cofnodion cyfarfodydd a chyflwyniadau eu rhannu, a’u bod yn hygyrch i’r holl aelodau.
  • Mae’r pennaeth wedi rhannu gwaith y Grŵp Gwella Llywodraethwyr gydag ysgolion eraill y tu hwnt i’r clwstwr, ac o ganlyniad, mae Grwpiau Gwella Llywodraethwyr wedi cael eu sefydlu ar draws yr ALl erbyn hyn.
  • Gwahoddwyd cadeiryddion llywodraethwyr o ysgolion eraill nad ydynt yn cymryd rhan i fynychu cyfarfodydd y Grŵp Gwella Llywodraethwyr, a rhennir cylch gorchwyl i helpu rhoi cymorth iddynt ddatblygu eu Grwpiau Gwella Llywodraethwyr eu hunain.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gymunedol Troedyrhiw wedi’i lleoli ym mhentref Troedyrhiw a Phentrebach, ac mae ychydig o ddisgyblion yn mynychu o leoedd pellach. Mae’r ysgol wedi’i lleoli ar ddau safle cyfagos ac mae ganddi 215 o ddisgyblion 3-11 oed. Mae tua 20% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a nodwyd bod gan 17% ohonynt angen dysgu ychwanegol. Mae arwyddair yr ysgol, sef ‘Credu, Cyflawni a Disgleirio’ (‘Believe, Achieve and Shine Bright’) yn ymgorffori arfer bob dydd yn yr ysgol, lle mae cymuned yr ysgol gyfan yn gweithio gyda’i gilydd i godi dyheadau, gan annog pawb i gredu ynddynt eu hunain, cyflawni eu nodau a disgleirio.

Mae’r arfer gref hon yn sicrhau bod bron pob un o’r disgyblion ag anghenion ychwanegol yn gwneud cynnydd rhagorol yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Mae arweinwyr yn cynnwys pob aelod o staff, llywodraethwyr, rhieni a disgyblion mewn ystod o weithgareddau monitro effeithiol sy’n canolbwyntio’n glir ar gynnydd a lles disgyblion. Mae’r ysgol yn gwneud defnydd da o ystod eang o dystiolaeth i nodi blaenoriaethau gwella.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae arweinwyr yr ysgol yn ystyried bod asesu’n rhan annatod o gynllunio’r cwricwlwm. Yn dilyn adolygiad o arferion presennol yr ysgol ac ailgynllunio’r cwricwlwm o ganlyniad i’r Cwricwlwm i Gymru, adolygwyd gweithdrefnau asesu ysgol gyfan, gan gynnwys olrhain a monitro, gan arwain at newid mewn arferion ysgol gyfan.

Cam 1: Pa asesiadau sydd fwyaf effeithiol ac yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgu?

  • Adolygodd yr holl weithdrefnau asesiadau presennol. Roedd hyn yn cynnwys adolygu’r asesiadau o ddydd i ddydd, sut roeddent yn cael eu defnyddio a beth oedd yr effaith. Ystyriwyd y gwahanol gamau yn nysgu’r disgyblion a gwerth a defnydd adborth ysgrifenedig a llafar i ddisgyblion. Ystyriodd staff “Pa mor dda y mae disgyblion yn defnyddio adborth i symud dysgu ymlaen? Pa mor dda y mae staff yn defnyddio hyn i lywio cynllunio’r camau nesaf?”.
  • Gwybodaeth bynciol staff – Treulir amser gwerthfawr yn sicrhau bod pob aelod o staff yn meddu ar ddealltwriaeth glir a chywir o gynnydd ym mhob maes dysgu. Mae ffocws clir ar ba mor dda y mae athrawon yn cynllunio ac yn adeiladu ar ddysgu’r disgyblion, ac yn defnyddio cyflawniadau blaenorol yn blatfform i weithio arno. Ceir ymrwymiad parhaus i sicrhau bod pob un o’r staff ar bob lefel yn meddu ar ddealltwriaeth ar y cyd o gynnydd a disgwyliadau ar gyfer yr holl ddisgyblion.
  • Systemau olrhain – Adolygodd yr ysgol systemau olrhain presennol i ystyried pa wybodaeth sy’n cael ei rhannu am ddisgyblion, pa mor ddefnyddiol yw’r wybodaeth hon a pha mor dda yr oedd yn cael ei defnyddio. O ganlyniad, mireiniwyd system olrhain yr ysgol i gynnwys y wybodaeth hanfodol sydd ei hangen i olrhain cyflawniadau disgyblion, yn ogystal â chynllunio dysgu yn y dyfodol i sicrhau cynnydd cynlluniedig o ran medrau.

Cam 2: Polisi Diwygiedig Ysgol Gyfan ar gyfer Asesu

  • Cynhaliwyd hyfforddiant ar gyfer y staff a’r corff llywodraethol. Rhannodd hyn wybodaeth am ymchwil ar strategaethau effeithiol a sut i wneud y defnydd mwyaf effeithiol o asesiadau ffurfiannol parhaus.
  • Myfyrio ar arfer effeithiol bresennol yn yr ysgol a sicrhau cysondeb ar draws camau dysgu’r disgyblion. Cynhaliwyd dull yn seiliedig ar ymholi a achosodd i staff ganolbwyntio ar strategaethau amrywiol asesu ar gyfer dysgu a nododd pa rai oedd fwyaf effeithiol ar gyfer gwahanol fathau o ddysgwyr, ar wahanol gamau yn eu dysgu.
  • Cafodd y polisi asesu diwygiedig ei gytuno a’i roi ar waith. Cynhaliwyd hyfforddiant i lywodraethwyr i sicrhau eu bod yn deall gweithdrefnau’r ysgol a’r rhesymeg ar gyfer newidiadau.
  • Roedd peilota cytunedig o strategaethau a adolygwyd yn cynnwys defnyddio a gwerthfawrogi ‘Sesiynau Cyfarfod â Disgyblion’ (‘Pupil Meets’). Roedd y rhain yn galluogi dysgwyr i fod yn rhan annatod o’r gweithdrefnau asesu, gan gynnwys dysgwyr mewn trafodaethau ynghylch pa mor dda y maent yn defnyddio ac yn cymhwyso eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol, yn ogystal â datblygu eu medrau meddwl, datrys problemau, eu medrau creadigol a myfyriol.

Cam 3: Ymgorffori Arferion Diwygiedig

Marcio ac Adborth

  • Mae staff yn cwblhau asesiadau manwl o waith ysgrifenedig disgyblion. Maent yn defnyddio taflenni templed dadansoddi darnau ysgrifennu disgyblion cyn iddynt gael cyfarwyddyd (‘darnau ysgrifennu oer’) i nodi cryfderau disgyblion a’u meysydd i’w datblygu.
  • Defnyddir taflenni dadansoddi ‘darnau ysgrifennu oer’ i lywio cynllunio athrawon. Mae hyn yn sicrhau bod y cynllunio yn benodol i ddiwallu anghenion dysgwyr ym mhob carfan ac yn uchafu cyfleoedd i ddisgyblion adeiladu ar ddysgu blaenorol a chynnydd effeithiol.
  • Mae’r arweinydd llythrennedd yn defnyddio’r taflenni dadansoddi carfan i nodi unrhyw anghenion datblygiad proffesiynol neu ofynion hyfforddi.
  • Mae uwch arweinwyr yn triongli gwybodaeth wrth fonitro’r cynnydd a wna disgyblion trwy alinio taflenni dadansoddi, cynllunio tymor byr a gwaith disgyblion. Mae hyn yn llywio cynllunio gwelliant.
  • Cynhelir arferion tebyg mewn meysydd dysgu eraill. Er enghraifft, mewn rhif, dadansoddir anghenion disgyblion, a defnyddir y wybodaeth i gynllunio’r camau nesaf ar gyfer y disgyblion.

Defnyddio data

  • Defnyddio profion a data crynodol – defnyddir gwybodaeth asesu, gan gynnwys oedrannau darllen a gwybodaeth am brofion cenedlaethol, ochr yn ochr ag asesiadau ac arsylwadau athrawon i greu darlun cywir o safonau / cyflawniad disgyblion.
  • Caiff templedi Adolygiad Cynnydd Carfan (ACC) eu llenwi gan bob aelod o staff. Llenwir y rhain ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Mae athrawon yn defnyddio gwybodaeth am asesiadau i nodi anghenion disgyblion, cynorthwyo grwpiau lle bo’n berthnasol, a gosod targedau dysgu.
  • Mae arweinwyr yn cyfarfod ag athrawon i drafod yr ACCau a nodi ble gallai fod angen cymorth ychwanegol. Gall hyn gynnwys ymyriadau ar gyfer disgyblion, cymorth yn y dosbarth, datblygiad proffesiynol a hyfforddiant.
  • Mae’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY) yn cyfarfod â phob un o’r athrawon ar ddechrau’r flwyddyn academaidd i drafod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, mae athrawon yn nodi’r ymyriadau a’r cymorth pwrpasol sydd eu hangen i uchafu cynnydd disgyblion. Adolygir y rhain yn rheolaidd.
  • Cynhelir cyfarfodydd ACC ar ganol blwyddyn i olrhain a monitro’r cynnydd a wna disgyblion. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, rhennir gwybodaeth sy’n cynnwys craffu ar waith disgyblion ac effaith yr adborth. Cynhelir deialog broffesiynol am effaith addysgu o ansawdd uchel a chynllunio pwrpasol i ddiwallu anghenion dysgwyr o fewn pob carfan. Mae’r sgwrs yn canolbwyntio ar y prif feysydd a fydd yn helpu codi safonau ac yn sicrhau cynnydd disgyblion.
  • Cynhelir cyfarfodydd ACC ar ganol blwyddyn a chyfarfodydd gwerthuso ffurfiol ar ddiwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, trwy gydol y flwyddyn, caiff dadansoddiadau wedi’u triongli, cynllunio a chraffu ar lyfrau eu gwneud ar y cyd. Mae hyn yn sicrhau bod olrhain yn mynd ymlaen ac yn galluogi staff i adolygu’n rheolaidd, gwerthuso effaith ymyriadau a chynllunio, a gwneud newidiadau yn ôl yr angen.

Cynnwys disgyblion

  • Mae disgyblion hŷn (Blwyddyn 3 i 6) yn cyfarfod ag athrawon bob tymor. Mae athrawon yn defnyddio gwybodaeth asesu a holiaduron digidol i ddisgyblion i arwain ‘Sesiynau Cyfarfod â Disgyblion’. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, treulir amser gwerthfawr gyda phob disgybl i drafod yr hyn y mae’n ei wneud yn dda, beth yw ei gamau nesaf mewn dysgu a sut bydd yn cael ei gynorthwyo. Mae ffocws hefyd ar les disgyblion, diddordebau disgyblion ac ysgogiadau. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, caiff disgyblion hŷn eu cynnwys yn y trafodaethau am sut y gallant ddisgwyl i bethau fod iddynt yn ystod y tymor hwn.
  • Mentora – rhennir gwybodaeth berthnasol ar gyfer Sesiynau Cyfarfod â Disgyblion gydag arweinwyr i nodi disgyblion a allai elwa ar gymorth mentora parhaus. Pan mae disgyblion y nodwyd eu bod ‘mewn perygl o beidio â chyflawni eu potensial’ neu ddisgyblion ‘bregus’, rhoddir mentora ar waith i gynorthwyo’r dysgwyr hynny ac uchafu eu hymglymiad mewn olrhain cynnydd.

Cynnwys llywodraethwyr

  • Mae llywodraethwyr yn gwbl ymwybodol o’r newidiadau a wneir i’r gweithdrefnau asesu ysgol gyfan. Maent yn deall yr asesiadau sy’n cael yr effaith fwyaf ar ddysgwyr.
  • Mae cyflwyniadau gwaith disgyblion a phrynhawniau agored yn rhoi cyfle i lywodraethwyr edrych ar waith disgyblion a’i drafod gyda’r disgyblion. Mae hyn yn galluogi llywodraethwyr i weld ‘dysgu go iawn’ ac nid dibynnu’n gyfan gwbl ar set o ddata neu graffiau.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Defnydd effeithiol o asesiadau

  • Mae’r adborth i ddisgyblion yn effeithiol. Ceir dealltwriaeth glir o’r hyn y mae’r disgybl yn ei gyflawni mewn gwersi a’r hyn y mae angen iddo’i wneud i wella.
  • Mae cynllunio yn adlewyrchu marcio ac adborth. Ceir cyfleoedd amserol i ddisgyblion adeiladu ar ddysgu blaenorol.
  • Mae athrawon ac ymarferwyr ychwanegol yn meddu ar wybodaeth bynciol dda ac yn gwybod sut i gynllunio ar gyfer y camau nesaf mewn dysgu.
  • Mae arweinwyr yn olrhain ac yn monitro’r cynnydd a wna disgyblion, ar y cyd â staff a disgyblion.

Olrhain a monitro

  • Caiff templedi cytunedig eu mabwysiadu i sicrhau defnydd trylwyr a chywir o wybodaeth am asesu.
  • Caiff disgyblion hŷn eu cynnwys yn y broses olrhain trwy Sesiynau Cyfarfod â Disgyblion a mentora.
  • Mae cynllunio, hyfforddi, asesu a chraffu ar waith yn cyd-fynd â’i gilydd i sicrhau eu bod i gyd yn cefnogi’i gilydd.
  • Mae deialog broffesiynol yn agored, yn onest ac yn fyfyriol.

Cynnydd disgyblion

  • Mae athrawon yn defnyddio asesiadau hynod effeithiol i ddatblygu dealltwriaeth dda o gynnydd disgyblion unigol mewn gwersi a thros gyfnod. Mae athrawon yn trafod deilliannau’r asesiadau hyn ac yn cynllunio’n unol â hynny i sicrhau bod bron pob un o’r disgyblion yn gwneud cynnydd gwell na’r disgwyl ar draws yr holl feysydd dysgu.
  • Mae athrawon yn asesu ysgrifennu’n ddiwyd ar ddechrau genre newydd, sy’n galluogi disgyblion hŷn i ddeall pa mor dda y maent wedi cyflawni’r arddull ysgrifennu a’u camau nesaf mewn dysgu.
  • Mae athrawon yn myfyrio’n ystyriol ar yr hyn y gall disgyblion ei wneud ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio gwersi yn y dyfodol a nodi disgyblion sydd angen cymorth yn gyflym.
  • Mae staff yn cydweithio i nodi disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol trwy asesu a monitro cynnydd disgyblion yn drylwyr. Mae staff yn nodi bylchau yn nysgu’r disgyblion yn hynod effeithiol ac eir i’r afael ag unrhyw fylchau trwy gyflwyno ymyriadau pwrpasol a thargedig. Mae uwch arweinwyr yn gwerthuso effaith ymyriadau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn aros yn bwrpasol ac yn diwallu anghenion dysgwyr.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd gweithdrefnau asesu yn Nhroedyrhiw gyda grŵp gwelliant llywodraethwyr y clwstwr.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelin ym Maesteg, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r ysgol yn darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Mae 222 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd. Mae 13% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol wedi cwblhau Cam 5 y Gwobrau Ysgolion Iach, wedi ennill y Faner Platinwm Eco ac wedi ennill Gwobr Arian am fod yn Ysgol sy’n Parchu Hawliau.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Lansiwyd prosiect Big Bocs Bwyd (BBB) ym mis Hydref 2021. Mae’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi bwyd, lleihau gwastraff bwyd ac yn darparu profiadau dysgu dilys ar gyfer ein disgyblion. Yn y flwyddyn gyntaf, sefydlodd arweinwyr gysylltiadau bwyd â busnesau lleol i sicrhau bod cyflenwad cyson o fwyd yn cael ei ddarparu. Caiff y prosiect ei gynnal ar sail talu fel y gallwch chi, gan alluogi pobl i dalu’r hyn y gallant ei fforddio. Mae’r BBB yn hunangynhaliol erbyn hyn, ac mae ganddo sylfaen ddibynadwy o ran cwsmeriaid. O 2021 hyd heddiw, integreiddio BBB i Gwricwlwm Cwmfelin fu’r ffocws trosfwaol, gan ddatblygu medrau llythrennedd bwyd a medrau bywyd sylfaenol hanfodol. Mae enghreifftiau’n cynnwys cyflwyno sesiynau coginio’n iach, gwneud prydau ar gyllideb, blasu bwyd o bob cwr o’r byd, rheoli arian, ac mae chwarae rôl yn rhan annatod o ymholiadau ein hysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

I ddechrau, cymerodd pob un o’r disgyblion ran mewn gwasanaeth wedi’i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), i ddysgu am ddiogelwch a hylendid bwyd. Paratôdd hyn y disgyblion i ymgymryd â gweithgareddau yn cysylltu â’r BBB. Mae rhai enghreifftiau o sut mae’r prosiect wedi cael ei roi ar waith yn cynnwys:

Meithrin a derbyn:

  • Trwy waith yn canolbwyntio ar stori ‘Pumpkin Soup’, bu disgyblion yn adnabod ac yn casglu llysiau o’r blwch i goginio a blasu cawl Cynhaeaf.
  • Gwnaeth disgyblion y dosbarth meithrin siocled poeth Carw i’w werthu yn y BBB, gan ddatblygu eu medrau i fod yn unigolion medrus.
  • Tra’n datblygu medrau Cymraeg, cyfieithodd disgyblion restrau siopa o’r Saesneg i’r Gymraeg.
  • Creodd disgyblion eu rhestrau siopa eu hunain, gan ysgrifennu cynhwysion i wneud uwd i Babi Arth, ac aethant i ‘siopa’ i brynu’r eitemau.

Blwyddyn 1 i Flwyddyn 3:

  • Defnyddiodd disgyblion y BBB i ddatblygu medrau fel cyfrif arian a chyfrifo newid.
  • Wrth archwilio bwyta’n iach, cofnododd Blwyddyn 3 y Plât Bwyta’n Iach y tu allan i’r BBB ac wedyn dewis eitemau bwyd go iawn i greu pryd o fwyd iach a sylweddol. Cynorthwyodd hyn y plant wrth iddynt ddysgu am grwpiau bwyd, a’u gwybodaeth am y plât bwyta’n iach. Wedyn, creodd plant bicnic ar gyfer ceidwaid y goleudy, gan wahodd rhieni i flasu eu creadigaethau bwyd.

Blwyddyn 4 i Flwyddyn 6:

  • Cysylltodd disgyblion â chwmnïau lleol, gan ysgrifennu llythyrau perswadiol i ofyn am fwy o roddion.
  • Trefnodd disgyblion Blwyddyn 5 Gaffi Cymraeg ar ddec BBB, yn rhoi archebion gan ddefnyddio eu geirfa Gymraeg.
  • Cafodd disgyblion hŷn brofiad o gynllunio prydau bwyd ar gyllideb gan ddefnyddio strategaethau wedi’u mabwysiadu gan fanc bwyd lleol i fwydo teulu, tra’n blaenoriaethu dewisiadau iach.

Roedd prosiect ysgol gyfan yn cynnwys gwneud reis enfys ar gyfer y Flwyddyn Newydd Dsieineaidd, blasu’r reis, wedyn cynnig y cynhyrchion mewn bagiau wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwneud gartref gydag aelodau’r teulu.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae cyflwyno technoleg bwyd a datblygu cysylltiadau cryf rhwng y cartref a’r ysgol yn rhai o’r ffyrdd y mae’r BBB wedi ymestyn dysgu ymhellach ar gyfer disgyblion. Mae codi safonau mewn llythrennedd bwyd ac addysgu plant am faeth wedi cynorthwyo disgyblion i fod yn ddisgyblion iach a hyderus.

Mae’r prosiect wedi galluogi’r ysgol i gyflwyno sesiynau hwyliog a difyr ar gyfer pob grŵp o ddysgwyr. Mae’r BBB yn ymestyn darpariaeth yr ysgol, gan gynnig profiadau bywyd go iawn mewn cyd-destun dilys. O ganlyniad, mae safonau llythrennedd a rhifedd yn gwella gan fod y disgyblion wedi eu cymell i gwblhau tasgau sy’n gysylltiedig â’r BBB.

Mae’r prosiect wedi darparu cyfleoedd gwaith ystyrlon, lle mae disgyblion wedi cael cipolwg ar fyd gwaith. Mae dosbarthiadau’n cynnal y BBB ar system rota ac yn cymryd perchnogaeth trwy reoli stoc a sefydlu trefn lanhau. Maent yn didoli danfoniadau, yn gwirio dyddiadau defnyddio erbyn ac yn sicrhau bod tymereddau’r oergell / rhewgell yn gywir. Mae hyn yn cyfrannu at eu dealltwriaeth o sut caiff busnes ei redeg. Mae arolygon disgyblion wedi nodi’r agwedd gadarnhaol ymhlith ein dysgwyr tuag at y prosiect.

Mae’r BBB wedi cael effaith gadarnhaol ar staff, sydd bellach yn elwa ar ddarpariaeth barod i ymestyn eu harfer yn yr ystafell ddosbarth. Gellir creu cysylltiadau clir â’r holl feysydd dysgu. Mae’r BBB yn cyd-fynd yn agos â gwaith yr ysgol ar addysg amgylcheddol, hawliau plant a bwyta’n iach.

Ar ôl cael grant pellach, prynwyd cynhwysydd ychwanegol, a’i addasu i’w ddefnyddio fel cegin BBB. Bydd yr amgylchedd hwn, sy’n cynnwys adnoddau da, yn darparu ystod ehangach o brofiadau coginio ar gyfer disgyblion. Y gobaith yw y bydd cysylltiadau â’r gymuned yn cael eu sefydlu yn y dyfodol, gyda chynlluniau ar gyfer sesiynau ymgysylltu â rhieni a llythrennedd bwyd.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae arweinwyr y BBB wedi cynnal cyfarfodydd ar gyfer ysgolion eraill yn y clwstwr a’r ardal ehangach. Rhoddwyd cyfleoedd i ysgolion drafod arfer orau. Mae’r sesiynau hyn wedi rhoi blaenoriaeth i gynnig cymorth a rhannu syniadau, gan gynorthwyo ysgolion eraill â’u proses gychwyn. Bob hanner tymor, mae arweinwyr yr ysgol yn ysgrifennu astudiaeth achos ar gyfer gwefan BBB i rannu arfer ledled y wlad.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Dolau yn ysgol ddwyieithog ym mhentref Llanharan, yn Rhondda Cynon Taf. Ar hyn o bryd, mae 525 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed yn mynychu’r ysgol. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys 65 o ddisgyblion sy’n mynychu’r dosbarth meithrin yn rhan-amser. Mae tua 6.3% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae 19 o ddosbarthiadau. Mae’r ysgol yn darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac mae disgyblion o’r ddwy adran yn integreiddio’n rheolaidd. Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol. Mae’r ysgol yn nodi bod gan 1.8% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Nodwyd bod arweinyddiaeth yn gryfder yn y tri arolygiad diwethaf (2012, 2015 a 2023) ac mae Dolau yn cynnwys astudiaeth achos yn un o adroddiadau thematig Estyn, “Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd” (2016), sy’n edrych ar sut mae arweinyddiaeth haenog a chynllunio dilyniant yn galluogi’r ysgol i gynnal perfformiad da.

Mae Dolau wedi parhau i fireinio ac esblygu’r strwythur arweinyddiaeth ar bob lefel. Caiff y dull arweinyddiaeth ddosbarthedig ei gefnogi’n llawn gan ddiwylliant dysgu proffesiynol cryf. Mae buddsoddi mewn arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol yn galluogi’r ysgol i fod yn rhagweithiol a datblygu’r gallu i addasu’n effeithiol i ddiwygio addysg yng Nghymru yn ehangach.

Mae’r ysgol yn falch o’i henw da am ddatblygu arweinwyr y dyfodol, fel y dangosir gan y pum pennaeth presennol a’r pedwar dirprwy bennaeth a ddatblygwyd trwy ymagwedd haenog yr ysgol at arweinyddiaeth a chynllunio olyniant.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Datblygu medrau arweinyddiaeth

Mae datblygu arweinyddiaeth a meithrin capasiti yn yr ysgol yn canolbwyntio ar ddisgwyliadau uchel a gweledigaeth glir ar gyfer yr holl randdeiliaid, gan nodi arweinwyr cyn gynted ag y bo modd yn eu taith. Mae’r rhain yn cynnwys ymarferwyr ystafell ddosbarth, staff cymorth, arweinwyr mentrau sy’n benodol i’r cwricwlwm a mentrau ysgol gyfan ac uwch reolwyr.

Mae cynllunio olyniant yn nodi arweinwyr ar bob lefel ac yn eu paratoi ar gyfer dyrchafiadau a swyddi gwag o fewn y system yn y dyfodol. Ar ôl eu nodi, caiff staff eu meithrin ac mae’r llwybrau arweinyddiaeth priodol yn ffurfio rhan o’u datblygiad, ynghyd â’r cyfle i ddysgu gan uwch arweinwyr profiadol.

Creu’r amodau

Mae’r pennaeth, ynghyd â’r dirprwy bennaeth, wedi sefydlu diwylliant lle caiff dysgu proffesiynol ei werthfawrogi. O fewn y system hon, caiff ymreolaeth, arloesi a mentro eu hannog ar bob lefel. Mae arweinwyr yn annog staff i gynllunio, gwerthuso ac adolygu eu meysydd arbenigedd ac arweinyddiaeth. Mae uwch arweinwyr yn gweithredu fel modelau rôl ac yn darparu cymorth i staff trwy system hyfforddi a mentora. Fel hyn, mae arweinwyr newydd yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn magu hyder yn gyflym iawn yn eu gallu i arwain, gan greu awydd i lwyddo.

Diwylliant dysgu proffesiynol

Mae’r strwythur rheoli perfformiad yn hwyluso dysgu proffesiynol a nodi darpar arweinwyr yn gynnar.

Mae ymagwedd gyfunol at ddysgu proffesiynol yn cynnwys datblygu arfer wedi’i llywio gan ymchwil, sydd wedi’i chysylltu’n agos ag addysgeg a blaenoriaethau gwella’r ysgol. Mae athrawon yn cynnal eu hymholiadau ymchwil eu hunain, yn rhoi strategaethau ar waith ac yn rhannu eu canfyddiadau. Mae cyfleoedd parhaus ar gyfer deialog broffesiynol yn annog cydweithio a dealltwriaeth ar y cyd o arfer dda. Mae hyn yn ei dro yn hyrwyddo diwylliant cefnogol ar gyfer arloesi. Mae staff cymorth yn dilyn prosesau tebyg iawn i athrawon ac yn cyfrannu’n effeithiol at hyfforddiant staff yn eu meysydd arbenigedd.

Mae cydweithio â sefydliadau eraill, fel darparwyr addysg uwch ac addysg gychwynnol athrawon, yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd dysgu proffesiynol a datblygu medrau arweinyddiaeth yn yr ysgol. Mae’r ysgol yn nodi llwybrau arweinyddiaeth ar gyfer staff unigol sydd wedyn yn dilyn rhaglen wedi’i chynllunio’n ofalus i’w datblygu a’u paratoi ar gyfer arweinyddiaeth yn y dyfodol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae dysgu proffesiynol effeithiol yn cefnogi ymchwil ar y cyd gan y staff. Caiff hyn effaith gadarnhaol ar ddeilliannau ar gyfer dysgwyr. Er enghraifft, arweiniodd ymchwil staff at ddatblygu pecyn cymorth metawybyddiaeth ysgol gyfan, sydd wedi arwain at fwy o gysondeb mewn addysgeg ar draws yr ysgol. O ganlyniad, erbyn hyn, mae disgyblion wedi datblygu dealltwriaeth ddyfnach o sut maent yn dysgu ac yn datblygu’n gyflym fel dysgwyr annibynnol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Cyhoeddiad Estyn 2016, Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd
  • Adolygiad astudiaeth achos Estyn – Cymorth ar gyfer y Gymraeg mewn addysg gychwynnol athrawon 2023
  • Rhannu arfer dda o fewn yr ysgol – cyflwyniadau ymchwil (deialog broffesiynol)
  • Cydweithio â chonsortia rhanbarthol – Digidol, Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, y Gymraeg, Cwricwlwm, ADY, Hyrwyddwr ysgolion fel sefydliadau dysgu
  • Cydweithio â SAUau – Hyrwyddwr Ymchwil, Cynhadledd Ymchwil a’r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP)

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Uwchradd Llanisien yn ysgol gyfun â chymuned amlddiwylliannol sy’n gwasanaethu gogledd Caerdydd. Mae 1,738 o ddisgyblion ym Mlynyddoedd 7 i 13 ar gofrestr yr ysgol, sy’n cynyddu (wedi cynyddu o 1,560 adeg yr arolygiad blaenorol). Mae tua 31% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Mae gan yr ysgol ddwy Ganolfan Adnoddau Arbennig ar gyfer disgyblion sydd â datganiad ar gyfer awtistiaeth neu nam ar y clyw, ac mae darpariaeth sy’n tyfu ymhellach ar gyfer ADY (8.4% o boblogaeth y disgyblion, gan gynnwys 105 o ddatganiadau o angen addysgol). Mae nifer y disgyblion sy’n siarad Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) wedi cynyddu’n sydyn, ac mae 302 ohonynt ar hyn o bryd. Cynrychiolir 53 o wahanol fathau o ethnigrwydd yng nghymuned yr ysgol, a siaredir 63 o wahanol ieithoedd cartref.

Gweledigaeth a chenhadaeth yr ysgol yw ‘creu amgylchedd cefnogol a chynhwysol sy’n meithrin twf unigol a llwyddiant personol.’ Nod arweinwyr yw cadw lles a chynnydd yr holl blant dan anfantais wrth wraidd yr holl benderfyniadau a wneir.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn dilyn newid sylweddol i’r dalgylch oherwydd bod ysgol uwchradd arall yn nwyrain Caerdydd wedi cau, mae Ysgol Uwchradd Llanisien yn gwasanaethu disgyblion o ardaloedd mwyaf difreintiedig y ddinas, a bu cynnydd nodedig yn nifer y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ochr yn ochr â hyn, mae’r argyfwng costau byw wedi cael effaith sylweddol ar deuluoedd yn y gymuned ac wedi’u gadael yn cael trafferth talu’r costau sy’n gysylltiedig â chael mynediad i’r ysgol, gan gynnwys cost gwisg ysgol, adnoddau a chludiant. Mae cost cludiant yn heriol i deuluoedd. Ar hyn o bryd, cost y bws ysgol yw £3.60 y dydd, i bob plentyn sy’n byw o fewn tair milltir. Mae hyn yn cynnwys disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

O ganlyniad i’r heriau hyn, rhoddodd yr ysgol flaenoriaeth i waith i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad disgyblion. Roedd hyn yn cynnwys gweithio i wella presenoldeb ac agweddau cadarnhaol at ddysgu. Aeth yr ysgol i’r afael hefyd â’r cynnydd mewn pryderon ynghylch diogelu a lles, mynediad at wasanaethau cymorth priodol, mynediad at ddarpariaeth briodol, a chyfle i gymryd rhan mewn cwricwlwm priodol a difyr. Mae’r ysgol yn derbyn tua £450k o gyllid y Grant Datblygu Disgyblion (GDD) bob blwyddyn. Mae arweinwyr yn ymdrechu i ddyrannu’r GDD yn ogystal â chyllid grant arall mewn ffordd fanwl gywir a thargedig.

Fel rhan o’r cynllun adfer ar ôl y pandemig, rhoddodd yr ysgol flaenoriaeth i iechyd a lles meddyliol a chorfforol disgyblion, hefyd. Doedd disgyblion ddim wedi cymryd rhan yn strwythurau ac arferion iach calendr yr ysgol, ac roedd staff eisiau ailsefydlu perthnasoedd rhwng grwpiau cyfoedion a rhwng staff a disgyblion. Nod yr ysgol oedd ailsefydlu ymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn yng nghymuned yr ysgol a datblygu medrau cymdeithasol effeithiol. Uchelgais arweinwyr oedd rhoi’r un cyfle i bawb, a sicrhau bod pawb yn cael tegwch i gymryd rhan mewn cyfleoedd allgyrsiol a chyfoethogi. Mae’r arlwy allgyrsiol wedi esblygu i gynnig darpariaeth amrywiol sy’n bodloni diddordebau a galluoedd amrywiol y disgyblion. Caiff anghenion dysgu ychwanegol ehangach yng nghymuned yr ysgol eu hystyried hefyd er mwyn sicrhau bod natur gynhwysol i’r ddarpariaeth. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Dyma rai o’r ffyrdd y mae’r ysgol yn gweithio i leddfu effaith tlodi a sicrhau tegwch:

Darpariaeth allgyrsiol

Mae staff yn Ysgol Uwchradd Llanisien yn credu’n gryf yn yr effaith gadarnhaol y gall gweithgareddau allgyrsiol ei chael ar bresenoldeb, lles a pherfformiad academaidd disgyblion. Mae’r ysgol yn cynnig ystod eang iawn o weithgareddau allgyrsiol gyda’r nod o gyfoethogi profiadau disgyblion a chodi eu dyheadau. Mae staff yn credu bod y gweithgareddau hyn hefyd yn galluogi disgyblion i ‘ddod o hyd i’w lle’ yn yr ysgol. Mae’r rhaglen allgyrsiol yn darparu gweithgareddau cyfoethogi cyn yr ysgol, yn ystod amser cinio, ac ar ôl yr ysgol, gan ddarparu cyfleoedd ar wahanol adegau o’r dydd ar gyfer disgyblion sydd â chyfrifoldebau eraill y tu allan i’r ysgol. Er mwyn sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gallu elwa ar y rhaglenni ar ôl yr ysgol, mae’r ysgol yn ariannu bws ychwanegol am 4pm ar gyfer y nifer fawr o ddisgyblion sy’n byw ymhellach o’r ysgol.

Mae sampl o’r rhaglen allgyrsiol yn cynnwys:  

  • Hyfforddiant cryfder a chyflyru yn gynnar yn y bore (7:30am) 
  • Clybiau amser cinio sy’n cynnwys Band Garej a Chlwb Trafod Athroniaeth  
  • Amrywiaeth eang o glybiau ar ôl yr ysgol, gan gynnwys clwb rhedeg, pêl-droed a rygbi i fechgyn a merched, pêl-rwyd, hoci ac athletau  
  • Amrywiaeth eang o weithgareddau ar ôl yr ysgol sy’n cynnwys Perfformwyr Shakespeare, Badminton Cynhwysol, Corau Iau a Hŷn, Clwb Celf, Clwb Ysgrifennu Creadigol, Cerddorfa, Cyngor Eco, Clwb Drama, Clwb Daeargelloedd a Dreigiau, Côr Arwyddo i’r Rhai sydd â Nam ar eu Clyw, dosbarthiadau dal i fyny ac adolygu yng nghyfnod allweddol 4 
  • Y Côr Hŷn yn cael cyfle i ganu ar y teledu yn yr oriau brig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac wedyn canu o flaen y Teulu Brenhinol fel rhan o Jiwbilî’r Frenhines

Cyfleoedd arweinyddiaeth myfyrwyr ar gyfer cyfoethogi

Mae’r ysgol yn sicrhau bod disgyblion o bob grŵp, gan gynnwys disgyblion bregus, yn ymgymryd â chyfrifoldebau o fewn yr ysgol. Mae disgyblion iau yn gwirfoddoli i fod yn llyfrgellwyr, neu’n gweithredu fel cyfeillion i gefnogi pontio. Mae ystod o grwpiau arweinyddiaeth myfyrwyr hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddatblygu eu medrau arwain a chyfoethogi bywyd yr ysgol. Mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys grwpiau LHS Pride, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd, Cymuned, Elusen, a Chyfathrebu â Myfyrwyr.

Mae holl ddisgyblion y chweched dosbarth yn cymryd rhan yn y Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth lle maent yn ymgymryd â gweithgareddau sy’n ddefnyddiol i’r ysgol ac yn cyfoethogi cymuned yr ysgol. Mae enghreifftiau o’u gwaith yn cynnwys darllen gyda disgyblion iau y mae Saesneg yn newydd iddynt neu weithredu fel llysgenhadon pwnc arbenigol i gynorthwyo disgyblion iau mewn gwersi.

Buddsoddi mewn diwylliant

Caiff y diwylliant cadarnhaol yn yr ysgol ei gefnogi ymhellach gan y ‘cwricwlwm cymeriad’ a gyflwynir trwy sesiynau cofrestru gyda’r nod eglur o ddatblygu pum gwerth yr ysgol, sef cyfrifoldeb, gonestrwydd, parch, gwydnwch ac uchelgais.

Cymorth lles

Mae ‘Canolfan Les LHS’ yn darparu amgylchedd diogel ac anogol ar gyfer disgyblion, gan gynnwys Gofalwyr Ifanc, trwy gydol y diwrnod ysgol. Mae’r tîm diogelu wedi’i ganoli yma ac mae staff hyfforddedig yn cyflwyno rhaglenni ymyrraeth i gynorthwyo disgyblion sy’n wynebu rhwystrau emosiynol a chymdeithasol rhag dysgu. Mae’r ysgol hefyd yn cyflogi pum Arweinydd Cyflawniad Disgyblion sydd ynghlwm wrth bob grŵp blwyddyn ac yn gweithio’n agos gyda disgyblion bregus a’u teuluoedd.

I gynorthwyo dysgwyr bregus yn ystod eu cyfnod pontio i Flwyddyn 7, mae gan yr ysgol ganolfan anogaeth. Mae athro arbenigol a chynorthwywyr addysgu yn cynorthwyo disgyblion y nodwyd eu bod yn debygol o gael trafferth ag addysg brif ffrwd amser llawn ar ddechrau Blwyddyn 7. Mae disgyblion yn derbyn darpariaeth gyfunol sy’n ymgorffori cyfran o wersi prif ffrwd ac yn eu harfogi i ymgysylltu ag addysg brif ffrwd amser llawn cyn gynted ag y bo modd.

Datblygwyd gwefan yr ysgol i gyfeirio rhanddeiliaid at wasanaethau cymorth lle byddant yn dod o hyd i wybodaeth am brydau ysgol am ddim, y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, a chymorth ariannol arall. Caiff y wybodaeth hon ei chyfleu’n rheolaidd i rieni trwy blatfformau cyfathrebu eraill yr ysgol.

Cludiant ysgol

Yn ogystal â throsglwyddiadau ysgol wedi’u hamserlennu’n rheolaidd, mae’r ysgol yn ariannu bws ychwanegol am 4pm i sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gallu mynd i glybiau adolygu ac allgyrsiol ar ôl yr ysgol. Mae staff yn sylweddoli bod llawer o ddisgyblion yn byw mewn ardaloedd ymhell i ffwrdd o’r ysgol, a bod y pris safonol am y bws yn £3.60 y dydd, sy’n mynd yn rhy ddrud i lawer. 

Bwyd, bwyta’n iach a threfniadau cinio

Mae ‘Canolfan Les LHS’ yn cynnig darpariaeth brecwast am ddim, yn ogystal â gofal yn ystod amser egwyl ac amser cinio. Caiff unrhyw eitemau sydd heb eu gwerthu o’r ffreutur amser cinio eu rhoi i’r tîm lles i’w dosbarthu i ddisgyblion, sy’n gallu mynd â phecynnau bwyd adref gyda nhw yn ddisylw ar ddiwedd y dydd.

Fel rhan o arlwy pwnc Technoleg Bwyd, mae’r ysgol hefyd yn darparu cynnyrch bwyd, sydd wedi cael ei blannu a’i dyfu yn nhwnnel poli’r ysgol, sy’n golygu bod yr adnoddau ar gael i ddisgyblion eu defnyddio mewn gwersi.

Mae’r ysgol yn atgoffa rhieni’n rheolaidd y gallant wneud cais am brydau ysgol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd os bydd yr amgylchiadau’n newid. Nid yw’r ysgol yn defnyddio arian parod o gwbl, ac mae’n defnyddio technoleg ôl bawd, sy’n golygu na fydd disgyblion eraill yn gallu gweld pwy sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Cynhyrchion iechyd

Mae digonedd o gynhyrchion mislif ar gael i ddisgyblion yn rhad ac am ddim trwy Gynllun Cynhyrchion Mislif Llywodraeth Cymru. Mae’r ysgol yn darparu cynhyrchion eraill hefyd fel gel cawod.

Gwisg ysgol

Mae siop gwisg ysgol sefydledig yn gweithredu bob dydd. Er bod hyn yn dileu unrhyw esgusodion i rai disgyblion a allai fod yn herio rheolau gwisg ysgol, mae hefyd yn helpu dileu unrhyw gywilydd i ddisgyblion eraill nad oes ganddynt arian i brynu’r wisg ysgol gywir. Mae hyn hefyd yn galluogi staff i fonitro unrhyw ddisgyblion a allai fod yn ei chael yn anodd, fel y gallant ddarparu cymorth ychwanegol lle bo modd, fel cynnig gwisg ysgol yn rhad ac am ddim i’r teuluoedd hyn.

Mae’r ysgol yn darparu siopau dros dro ar gyfer gwerthu gwisgoedd ysgol ail law o ansawdd da. Hefyd, caiff y cynllun cyfnewid blasers ei gefnogi’n fawr gan ddisgyblion Blwyddyn 11 sy’n rhoi eu blasers ar ddechrau tymor yr haf ar gyfer disgyblion yn y grwpiau blwyddyn is.

Prom Cynaliadwy

Mae siop prom gynaliadwy’r ysgol yn galluogi disgyblion i fenthyca unrhyw eitem yn rhad ac am ddim. Mae hyn wedi bod yn llwyddiant aruthrol o ran galluogi disgyblion a fyddai fel arall wedi methu fforddio mynychu’r prom i wneud hynny.

Darperir technoleg

Gwaharddodd yr ysgol ddefnydd o ffonau symudol dros bum mlynedd yn ôl, ac mae arweinwyr o’r farn fod hyn wedi bod yn drawsnewidiol o ran lleihau ymddygiad bwlio a chynyddu perthnasoedd iach a lles gwell myfyrwyr yn ystod amser egwyl ac amser cinio. Pan fydd angen, mae’r ysgol yn darparu dyfeisiau ar gyfer addysgu a dysgu, felly caiff unrhyw broblemau ynghylch peidio â chael y ddyfais ddiweddaraf, neu unrhyw ddyfais o gwbl, eu dileu. Dyrennir dyfais i bob disgybl chweched dosbarth i sicrhau eu bod yn gallu gweithio’n annibynnol y tu allan i’r ysgol.

Cymorth astudio

Mae’r ysgol yn darparu pecynnau adolygu cynhwysfawr ar gyfer yr holl ddisgyblion ym Mlynyddoedd 10 ac 11. Mae hyn yn cynnwys padiau A4, pensiliau lliw, aroleuwyr, pecynnau ‘post-it’, pennau ysgrifennu, pensiliau, prennau mesur, cardiau adolygu a mwy. Mae’r ysgol hefyd yn darparu’r holl ddeunyddiau adolygu yn rhad ac am ddim. Darperir y rhain yn electronig ond mae pecynnau papur ar gael, hefyd.

Mae’r ysgol yn talu cost ystod o eitemau ar gyfer myfyrwyr dan anfantais i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad llawn at y cwricwlwm. Mae hyn yn cynnwys gwersi cerddoriaeth a gwaith maes daearyddiaeth. Mae’r ysgol hefyd yn gweithio gydag elusen leol i ddarparu gwersi academaidd i fyfyrwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae disgyblion yn dangos lefelau uchel o ofal a pharch am bobl eraill. Maent hefyd yn mynegi ymdeimlad cryf o hunaniaeth a pherthyn ac yn dweud eu bod yn teimlo y cânt eu gwerthfawrogi gan y staff yn yr ysgol. Ceir lefelau uchel o gyfranogiad rheolaidd yn y clybiau ar ôl yr ysgol, sy’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles disgyblion, ac mae’n helpu magu eu hyder. Cafodd cyn-ddisgyblion brofiadau mor gadarnhaol yn eu grwpiau allgyrsiol fel eu bod yn dewis dychwelyd i roi help llaw a chymorth fel cyn-ddisgyblion. Mae staff yn gwerthfawrogi’r perthnasoedd y maent yn eu datblygu gyda disgyblion yn ystod gweithgareddau allgyrsiol ac yn mynegi ymdeimlad cryf o foddhad wrth eu gweld yn cyflawni. Cefnogir cyfranogi ac ymgysylltu mewn gwersi gan yr arlwy allgyrsiol, hefyd.

Bu gostyngiad mewn gwaharddiadau cyfnod penodol a phresenoldeb ac ymgysylltiad gwell ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Roedd cyfraddau presenoldeb yn gryf ac yn gwella yn y tair blynedd cyn y pandemig, ac maent yn adfer yn dda ers dychwelyd i’r ysgol yn amser llawn.

Mae deilliannau ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i wella. Mae tuedd ar i fyny hefyd yn nifer y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy’n aros yn y chweched dosbarth yn yr ysgol, gan ddangos dyhead gwell. Mae’r ysgol yn parhau i gynorthwyo myfyrwyr chweched dosbarth â’r costau sy’n gysylltiedig ag addysg.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei systemau a’i phrosesau gydag ystod o rwydweithiau proffesiynol o fewn yr awdurdod lleol, a’r tu allan. Mae’r ysgol yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol a’r wasg genedlaethol i hyrwyddo a rhannu ei gwerthoedd craidd, sef amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant, a’r ddarpariaeth allgyrsiol a gynigir. Mae’r diwylliant i gadw lles a chynnydd yr holl blant dan anfantais wrth wraidd yr holl benderfyniadau a wneir yn cael ei ailadrodd trwy’r datganiad cenhadaeth, llenyddiaeth yr ysgol, a thrwy bob cyfarfod gyda’r holl randdeiliaid, yn cynnwys myfyrwyr, staff, rhieni a llywodraethwyr.