Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol
Gwybodaeth am yr ysgol / darparwr
Mae Ysgol Sant Julian yng Nghasnewydd yn ysgol gyfun fawr, amrywiol a chynhwysol sy’n gwasanaethu 1,428 o ddisgyblion 11-18 oed. Mae’r ysgol yn cynnal canolfan adnoddau awdurdod lleol, y Ganolfan Datblygu Dysgu (CDD), ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol i ddifrifol. Mae canran uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim yn yr ysgol. Mae bron i hanner o garfan yr ysgol yn byw mewn ardaloedd sydd â’r lefelau uchaf o amddifadedd yng Nghymru. O gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol, mae gan gyfran uwch o lawer o ddisgyblion yn yr ysgol naill ai gynllun datblygu unigol (CDU) ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig. Mae nifer y disgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol gryn dipyn yn uwch na’r rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru. Mae’r ysgol wedi wynebu heriau sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Ym mis Tachwedd 2014, cafodd ei gosod yn y categori statudol gwelliant sylweddol gan Estyn, ac ym mis Mehefin 2017, cafodd ei gosod yn y categori mesurau arbennig. Ym mis Ebrill 2020, penodwyd pennaeth newydd, a arweiniodd at ailstrwythuro’r tîm arweinyddiaeth. Tynnwyd yr ysgol o’r categori mesurau arbennig yn llwyddiannus ym mis Tachwedd 2021. Parhaodd Ysgol Sant Julian â’i thaith ar i fyny, gan derfynu ag arolygiad cadarnhaol gan Estyn ym mis Mai 2024, a amlygodd nifer o lwyddiannau allweddol, a chydnabuwyd cynnydd a chyflawniadau’r ysgol.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Gyrrwyd y penderfyniad i ganolbwyntio ar wella medrau llafaredd yn Ysgol Sant Julian gan werthusiadau mewnol ac argymhellion allanol, fel ei gilydd. Amlygodd argymhelliad allweddol o arolygiad Estyn ym mis Rhagfyr 2014 fod angen gwella datblygiad medrau llythrennedd disgyblion. I ddechrau, canolbwyntiodd yr ysgol ar wella medrau darllen ac ysgrifennu trwy ddyfeisio ac ymgorffori strategaethau ysgol gyfan ar wahân ac egluro rôl yr athro pwnc mewn cefnogi datblygiad darllen ac ysgrifennu ysgol gyfan; effeithiodd hyn ar hyfedredd dysgwyr yn y meysydd hyn. Fodd bynnag, trwy brosesau monitro, adolygu a gwerthuso parhaus, daeth yn amlwg fod angen datblygu medrau llafaredd disgyblion ymhellach. Daeth yr angen hwn yn fwy amlwg ar ôl y pandemig, gan fod llawer o ddisgyblion wedi treulio cyfnodau estynedig gartref, yn aml gyda chyfleoedd cyfyngedig i ryngweithio a mynegi eu hunain ar lafar a chymryd rhan mewn deialog ystyrlon.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Fframwaith Llafaredd
Yn dilyn llwyddiant gweithredu fframweithiau darllen ac ysgrifennu clir, dyfeisiodd yr ysgol ddull tebyg ar gyfer llafaredd wedi’i anelu at ymestyn gallu disgyblion i fynegi eu hunain yn glir gan ddefnyddio geirfa yn benodol i bwnc, gwrando’n astud, ac ymgysylltu’n ystyrlon yn ystod tasgau llafaredd strwythuredig a siarad yn yr ystafell ddosbarth.
Cynlluniwyd y fframwaith llafaredd yn Ysgol Sant Julian i ddatblygu medrau siarad disgyblion, o gamau cychwynnol trefnu eu meddyliau i gwblhau perfformiadau llafar strwythuredig yn derfynol neu siarad yn gydlynus a huawdl yn yr ystafell ddosbarth.
Gofynnwyd i athrawon o bob maes pwnc ddarparu cyfleoedd rheolaidd ac ystyrlon i ddisgyblion fynd ati i siarad a gwrando yn eu gwersi. Gan ddefnyddio’r fframwaith llafaredd, ymgorfforwyd ymagwedd strwythuredig at wella llafaredd ar draws yr ysgol. Mae’r fframwaith yn cynnwys pum cam. Caiff y model hwn ei arddangos ym mhob ystafell ddosbarth i atgyfnerthu’r fframwaith a sicrhau cysondeb yn ymagwedd yr ysgol at lafaredd.
Cam 1: Diben, Cynulleidfa, Fformat a Thôn (PAFT) – Gofynnir i ddisgyblion ystyried diben y gweithgareddau siarad y maent yn ymgymryd â nhw yn gyntaf. Ystyrir bod gweithgareddau naill ai’n ffurfiol, fel cyflwyniadau, trafodaethau, ac ati, neu’n anffurfiol, fel trafodaethau digymell yn yr ystafell ddosbarth neu ymateb i gwestiynau athrawon. Wedyn, os yw’n berthnasol (yn enwedig ar gyfer gweithgareddau ffurfiol), y gynulleidfa, fformat y gweithgaredd, ac mae angen nodi’r dôn neu’r gofrestr i gefnogi’r camau canlynol.
Cam 2: Cynllunio – Nod y cam nesaf yw sicrhau bod disgyblion yn paratoi’r hyn y maent yn mynd i’w ddweud. Yn ei hanfod, caiff dysgwyr eu hannog i feddwl cyn siarad i feithrin cyfraniadau meddylgar ac ystyrlon. Mae’r strategaethau i helpu disgyblion yn dibynnu ar b’un a ydynt yn ymgymryd â thasg siarad ffurfiol neu anffurfiol. Mae athrawon yn defnyddio strategaethau fel ‘troi a siarad’ neu ‘mae pawb yn ysgrifennu’ i gefnogi amser meddwl disgyblion a’u helpu i drefnu eu syniadau a’u meddyliau. Ar gyfer tasgau siarad mwy ffurfiol, awgrymir offer cynllunio cynhwysfawr, fel mapiau meddwl neu siartiau llif.
Cam 3: Manwl Gywirdeb – Yn y cam nesaf, mae’r pwyslais ar sicrhau bod lleferydd disgyblion yn gywir a huawdl. Trwy fireinio manwl gywirdeb, gall disgyblion gyfathrebu’n gliriach ac yn fwy effeithiol. Mae gan athrawon rôl hanfodol yma fel modelau iaith da. Maent yn cynorthwyo disgyblion trwy gyflwyno ymadroddion allweddol neu ddechreuwyr brawddegau i helpu disgyblion i fireinio’u hiaith lafar. Mae strategaethau’n cynnwys annog disgyblion i ddefnyddio brawddegau llawn ac iaith fwy ffurfiol, tra’n canolbwyntio ar ddileu llenwyr sgyrsiol. Mae athrawon yn ymyrryd ac yn herio cyfraniadau disgyblion ar lafar trwy ofyn iddynt aralleirio neu ddefnyddio geirfa amrywiol.
Cam 4: Perfformiad – Os yw’n berthnasol, mae athrawon yn darparu strategaethau i helpu disgyblion i fireinio’u medrau cyflwyno, fel addasu eu cyflymdra siarad, taflu eu llais, neu ddefnyddio iaith y corff. Mae adborth amser real yn galluogi disgyblion i ymarfer a gwella’u medrau llafaredd yn barhaus. Mae gweithgareddau’n canolbwyntio ar berfformio, yn cynnwys ymarfer areithiau, chwarae rôl, ac ymarferion siarad cyhoeddus, yn hanfodol wrth fagu hyder a gallu disgyblion i gyflwyno’u syniadau’n effeithiol.
Cam 5: Cyfranogi – Yn olaf, caiff disgyblion eu hannog i fynd ati i’w cynnwys eu hunain mewn trafodaethau ystafell ddosbarth a gweithgareddau siarad trwy wrando ac ymateb, gofyn cwestiynau, ymuno ag ymatebion corawl, gan feddwl am yr hyn sydd wedi cael ei ddweud ac adeiladu ar farn pobl eraill. Mae athrawon yn atgyfnerthu disgwyliadau ystafell ddosbarth i greu amgylchedd cefnogol lle mae pob un o’r disgyblion yn teimlo bod eu cyfraniadau’n cael eu gwerthfawrogi.
Mae ffocws ar ddatblygu geirfa ac ansawdd holi yn ganolog i’r fframwaith llafaredd. Caiff athrawon eu hyfforddi i fodelu geirfa gyfoethog a defnyddio cwestiynau treiddgar sy’n herio disgyblion i feddwl yn ddwys a mynegi eu meddyliau’n glir.
Cwricwlwm Ymddygiad
Wrth ymateb i heriau ar ôl y pandemig, rhoddodd Ysgol Sant Julian gwricwlwm ymddygiad ar waith i gynorthwyo disgyblion a oedd yn ei chael yn anodd deall disgwyliadau ymddygiad ac ymgysylltu ysgol uwchradd. Er bod gan athrawon strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli ymddygiad, daeth yn amlwg fod angen arweiniad cliriach ar ddisgyblion ar sut i ymddwyn ac ymgysylltu’n briodol yn y dosbarth i gefnogi eu dysgu eu hunain a dysgu disgyblion eraill.
Cynlluniwyd y cwricwlwm ymddygiad i fynd i’r afael â’r bwlch hwn, gyda ffocws ar addysgu ymddygiadau a thechnegau ymgysylltu penodol disgyblion bob mis, er enghraifft sut i fynd i mewn i’r ystafell ddosbarth, a gadael, sut i wrando ar athrawon a chyfoedion, sut i ateb cwestiynau, a sut i godi pryderon. Cyflwynwyd y sesiynau hyn gan diwtoriaid dosbarth, a oedd yn cael eu cefnogi gan sesiynau dysgu proffesiynol bob pythefnos. Bwriad gweithredu’r cwricwlwm hwn oedd nid yn unig gwella ymddygiad ar gyfer dysgu, ond hefyd effeithio ar fedrau llafaredd disgyblion, gan ei fod yn datblygu medrau metawybyddol dysgwyr o ran sut i gymryd rhan mewn trafodaeth, gofyn cwestiynau a gwrando ar bobl eraill, yn ogystal â phwysigrwydd y medrau hyn.
Dysgu Proffesiynol
I sicrhau llwyddiant y fframwaith llafaredd a’r cwricwlwm ymddygiad, buddsoddodd Ysgol Sant Julian mewn dysgu proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon. Roedd y sesiynau hyn yn hanfodol wrth arfogi athrawon â’r strategaethau oedd eu hangen i feithrin medrau llafaredd a chefnogi ymddygiad priodol yn yr ystafell ddosbarth yn effeithiol. Hyfforddwyd athrawon i ddod yn hwyluswyr llafaredd, gan greu amgylcheddau lle roedd disgyblion yn teimlo’n hyderus i siarad a chymryd rhan. Pwysleisiodd y sesiynau dysgu proffesiynol bwysigrwydd athrawon fel modelau iaith da hefyd, gan amlygu sut gallai eu defnydd o iaith a holi effeithio ar fedrau cyfathrebu disgyblion yn sylweddol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Roedd y fframwaith llafaredd a’r cwricwlwm ymddygiad yn cael eu hintegreiddio’n hynod effeithiol. Wrth i ddisgyblion ddysgu sut i ymddwyn yn briodol mewn gwahanol gyd-destunau ysgol, roeddent hefyd yn datblygu medrau cyfathrebu gwell. Roedd y ffocws ar wrando, siarad, ac ymateb yn y cwricwlwm ymddygiad yn ychwanegu at y fframwaith llafaredd, gan arwain at ymgysylltiad a chyfranogiad gwell disgyblion mewn trafodaethau ystafell ddosbarth. Mae’r fframwaith llafaredd wedi cynorthwyo disgyblion i fod yn fwy hyderus yn mynegi eu syniadau, siarad yn glir ac yn gryno mewn gwersi, a’u galluogi i ddefnyddio geirfa uchelgeisiol ac yn benodol i bwnc wrth siarad.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer hon gyda’r awdurdod lleol, y consortiwm ac ysgolion eraill trwy gyfarfodydd rhwydwaith a thrafodaeth broffesiynol.