Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion a cholegau:
- A1 Adolygu cynnwys eu cwricwlwm a’u cyrsiau unigol i ystyried pa mor dda y caiff addysgu amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys materion LGBT, ei integreiddio mewn profiadau dysgu
- A2 Sicrhau bod achosion o fwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig yn cael eu cofnodi, a bod tueddiadau’n cael eu nodi, ac y gweithredir yn unol â nhw
- A3 Sicrhau bod pob un o’r staff yn ymgymryd â hyfforddiant rheolaidd i fynd i’r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo amrywiaeth, gan gynnwys materion yn ymwneud â phobl LGBT
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia:
- A4 Weithio gyda phartneriaid allanol i gyflwyno cyfleoedd dysgu proffesiynol perthnasol ar gyfer staff mewn ysgolion ar draws sectorau cynradd ac uwchradd
- A5 Gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd i sicrhau dilyniant mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb rhwng sectorau