Adroddiad thematig Archives - Page 6 of 30 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai lleoliadau nas cynhelir, ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd:

  • A1 sicrhau nad yw tlodi ac anfantais yn rhwystrau i ddysgwyr rhag datblygu medrau iaith a llythrennedd cadarn
  • A2 datblygu diwylliant o ddarllen sy’n annog ac yn ennyn brwdfrydedd yr holl ddysgwyr, gan gynnwys bechgyn a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig, i ddarllen er pleser, a darparu cyfleoedd i wrando ar oedolion yn darllen ar goedd
  • A3 datblygu gwybodaeth dysgwyr am eirfa yn benodol, fel bod hynny’n cynorthwyo i ddatblygu’u medrau siarad, darllen ac ysgrifennu

Dylai ysgolion cynradd:

  • A4 ddatblygu strategaeth glir i gefnogi addysgu darllen yn effeithiol, gan gynnwys mynd i’r afael â medrau datgodio, datblygu geirfa, a medrau darllen
  • A5 darparu cyfleoedd heriol priodol a pherthnasol i gefnogi datblygiad cynyddol medrau gwrando a siarad dysgwyr, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 2
  • A6 cefnogi datblygu medrau ysgrifennu dysgwyr drwy addysgu cystrawennau, atalnodi a sillafu yn benodol, cyfleoedd perthnasol i ysgrifennu ac adborth manwl i arwain gwelliant pellach

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A7 ddarparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy’n bodloni anghenion unigol lleoliadau ac ysgolion, i sicrhau bod yr holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig, yn gwella eu medrau iaith a llythrennedd

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A8 werthuso defnydd lleoliadau ac ysgolion o gyllid wedi’i dargedu, fel y grant datblygu disgyblion blynyddoedd cynnar a’r grant datblygu disgyblion, er mwyn gwella medrau iaith a llythrennedd disgyblion cymwys 

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion a cholegau:

  • A1 Sicrhau gwaith partneriaeth cryf i ddatblygu darpariaeth gydweithredol â darparwyr eraill lle mae hyn yn helpu i wella ansawdd neu ehangu dewis
  • A2 Sicrhau bod darpariaeth ôl-16 a gyflwynir mewn partneriaeth â darparwyr eraill yn cael ei hategu gan gytundebau ysgrifenedig o gyfrifoldebau, ac y caiff ei chynnwys yn llawn o fewn prosesau cynllunio gwelliant
  • A3 Sicrhau bod cyngor ac arweiniad i ddysgwyr yn ddiduedd, yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, ac yn cael ei lywio gan y ddarpariaeth, y safonau a’r gefnogaeth sydd ar gael i’r holl ddarparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 lleol
  • A4 Rhannu gwybodaeth i gefnogi cyfnod pontio dysgwyr i ddarparwyr eraill, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru
  • A5 Cyflwyno gwybodaeth gywir am y rhaglenni y mae dysgwyr yn eu dilyn, yn cynnwys darparwr pob gweithgaredd dysgu, fel rhan o’u cyflwyniadau data blynyddol i Lywodraeth Cymru

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A6 Sicrhau bod cynllunio strategol yn cynnwys y gymuned ehangach o ysgolion a cholegau lleol
  • A7 Gweithio gyda cholegau ar weithgareddau dysgu proffesiynol ar y cyd, lle bo’n briodol
  • A8 Gweithio gyda cholegau i sicrhau bod ystod addas o ddarpariaeth ôl-16 ar gael yn lleol trwy gyfrwng y Gymraeg

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A9 Adolygu ac atgyfnerthu deddfwriaeth, polisi ac arweiniad ar gyfer darpariaeth ôl-16 i sicrhau cysondeb ac eglurder disgwyliadau mewn ffordd sy’n adeiladu ar ddatblygiadau’r Cwricwlwm i Gymru
  • A10 Cymhwyso dull cyson i oruchwylio a monitro ansawdd darpariaeth ôl-16, yn cynnwys ystyriaethau cynllunio a chyllido
  • A11 Rhoi gwybodaeth glir i ddarpar ddysgwyr a’u rhieni am gynnydd a deilliannau dysgwyr ar gyfer chweched dosbarth ysgolion a cholegau addysg bellach yng Nghymru
  • A12 Sicrhau bod unrhyw Gomisiwn ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn y dyfodol yn mynd i’r afael â chanfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad thematig hwn

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Argymhellion i Lywodraeth Cymru weithio gyda chonsortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, a phartneriaid a darparwyr eraill i:

  • A1 Ymateb ar frys i fynd i’r afael a’r rhwystrau i ddysgu o adre, yn enwedig lle mae’r rhain yn ymwneud a diffyg mynediad i gyfrifiaduron neu gyswllt a’r we
  • A2 Gwella ansawdd y profiadau dysgu o bell a dysgu cyfunol i ddisgyblion trwy gefnogi addysgu mwy effeithiol ar draws ac o fewn ysgolion ac UCDau
  • A3 Datblygu dulliau cydlynol i wella cynnydd ym medrau llythrennedd, rhifedd a medrau personol a chymdeithasol disgyblion bregus y mae’r pandemig wedi effeithio’n anghymesur arnynt, er enghraifft disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim
  • A4 Sefydlu strategaeth i fonitro ac i fynd i’r afael ar effaith hirdymor y pandemig ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl disgyblion
  • A5 Creu cyfleoedd i bwyso a mesur a gwerthuso effaith polisïau ac arferion a ddatblygwyd yn ystod y cyfnod hwn i lywio ffyrdd o weithio yn y dyfodol a dylunio’r cwricwlwm

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A1 Barhau i weithio gyda phob partner yn y sector gwaith ieuenctid i gefnogi datblygiad gwaith ieuenctid a hyfforddiant gwaith ieuenctid, gan gynnwys gallu arweinyddiaeth
  • A2 Parhau i weithio gyda CGA ac ETS i ddiweddaru a gwella’r trefniadau cofrestru ar gyfer gweithwyr ieuenctid i sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cael ei drin yn yr un ffordd â phroffesiynau addysg eraill
  • A3 Comisiynu’r archwiliad medrau llawn ar gyfer y sector, i gynnwys medrau sydd eu hangen ar gyflogwyr a medrau presennol gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid sydd wedi eu cofrestru gyda CGA a’r rhai sy’n ymgymryd â gwaith ieuenctid ac nid ydynt wedi eu cofrestru
  • A4 Ymchwilio i ddarpariaeth llwybrau prentisiaethau ffurfiol ar gyfer hyfforddi gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid
  • A5 Gweithio gyda darparwyr hyfforddiant gwaith ieuenctid a sefydliadau perthnasol eraill i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn hyfforddiant gwaith ieuenctid.

Dylai darparwyr hyfforddiant gwaith ieuenctid:

  • A6 Wneud yn siŵr fod gweithwyr ieuenctid a myfyrwyr o broffesiynau eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn cael cyfleoedd i hyfforddi gyda’i gilydd
  • A7 Gwella argaeledd, amrywiaeth ac ansawdd lleoliadau gwaith

Dylai awdurdodau lleol:

  • A8 Annog ysgolion i gydnabod medrau arbenigol a gwybodaeth broffesiynol gweithwyr ieuenctid ar gyfer cefnogi datblygiad y cwricwlwm newydd
  • A9 Cefnogi a chyfrannu at ddatblygu cyrsiau ar gyfer hyfforddi gweithwyr ieuenctid statudol a gwirfoddol, gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau nad ydynt yn rhai addysg

Dylai consortia rhanbarthol:

  • A10 Archwilio ffyrdd o gynnwys gweithwyr ieuenctid ochr yn ochr ag athrawon mewn cyfleoedd hyfforddiant dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth addysgol