Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o ymweliadau a galwadau arolygwyr cyswllt a wnaed â’r holl golegau addysg bellach, a’r rhan fwyaf o bartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2021. Mae’r adroddiad hwn wedi’i seilio ar y wybodaeth a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein gydag uwch arweinwyr ac arweinwyr canol a grwpiau bach o ddysgwyr.
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ym mywydau pobl ifanc oedran uwchradd, ac yn adolygu’r diwylliant a’r prosesau sy’n helpu gwarchod a chynorthwyo pobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru. Mae aflonyddu rhywiol yn digwydd pan fydd person yn ymgymryd ag ymddygiad digroeso o natur rhywiol sydd gyda’r bwriad neu’r effaith o:
Mae aflonyddu rhywiol yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn ein gwaith gyda disgyblion, dyma sut y diffinir aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion:
Ysgrifennwyd yr adroddiad i ymateb i gais gan y Gweinidog Addysg ym mis Mehefin 2021. Mae’r adolygiad hwn yn berthnasol i ddysgwyr, rhieni ac ysgolion yn ogystal â Llywodraeth Cymru, gwasanaethau statudol a sefydliadau’r trydydd sector sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc.
Disgwylir i’r arolwg thematig hwn gefnogi Llywodraeth Cymru trwy gyflawni’r amcanion canlynol:
Mae’r sector ysgolion pob oed yn sector sy’n tyfu, gyda mwy na dwywaith nifer yr ysgolion yn agor yn 2020 o gymharu â 2017. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar dri maes eang, sef: