Adroddiad thematig Archives - Page 30 of 30 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ofyn i Estyn gynnal adolygiad pellach ar ansawdd yr adeiladau newydd mewn colegau a’i effaith ar ddysgwyr o fewn y tair blynedd nesaf.

Dylai colegau addysg bellach:

  • wneud yn siŵr bod effaith unrhyw waith adeiladu a/neu ailwampio mawr yn cael ei adrodd yn flynyddol ym mhrosesau hunanasesu’r colegau;
  • parhau i sicrhau bod y strategaethau ystadau yn gyfoes a’u bod yn cynnwys cynllun treigl ar gyfer gwelliant parhaus yr ystâd; ac
  • ymestyn y cydweithio gyda rhwydweithiau ardal lleol i sicrhau bod ceisiadau am waith adeiladu a/neu ailwampio mawr yn adlewyrchu anghenion y coleg a’i randdeiliaid.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • egluro’r trefniadau ariannu ar gyfer darpariaeth medrau sylfaenol i droseddwyr sy’n bwrw eu tymor yn y gymuned ar ôl Ebrill 2009; a
  • gwella ansawdd y dysgu a’r medrau ar gyfer troseddwyr mewn carchardai a mannau prawf ymhellach.

Dylai darparwyr:

  • sicrhau bod gweithdrefnau asesu effeithiol ar waith ar gyfer anghenion llythrennedd, iaith a rhifedd, wedi’u cysylltu â’r broses gynllunio, ac sy’n cynnwys gwneud diagnosis o ddysgwyr ag anawsterau dysgu a/neu anableddau; a
  • sicrhau bod gan bob troseddwr gynllun dysgu unigol o ansawdd da, sydd wedi’i gysylltu â’u cynllun dedfryd, sy’n cydlynu’r holl waith a wnaed gan wahanol asiantaethau.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad. 

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • adeiladu ar gynllunio gwaith partneriaeth a chlwstwr i helpu pob dysgwr i gyflawni safonau gwell mewn pynciau craidd ac mewn Cymraeg fel ail iaith;
  • codi safonau mewn llythrennedd a rhifedd trwy wneud defnydd gwell o wybodaeth am gyflawniadau disgyblion pan fyddant yn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd; ac
  • arfarnu’r trefniadau pontio yn well trwy holi barn rhieni neu ofalwyr a defnyddio’r canlyniadau i lywio cynlluniau hunanarfarnu a datblygu.

Dylai awdurdodau lleol:

  • sicrhau bod trefniadau pontio yn codi’r safonau a gyflawnir gan bob disgybl, yn cynnwys y disgyblion mwy abl; a
  • darparu hyfforddiant gwell ar gyfer athrawon ar wella parhad a dilyniant yn natblygiad disgyblion yn y Gymraeg.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • barhau i gefnogi clystyrau o ysgolion wrth adolygu eu cynlluniau pontio cychwynnol ac mewn cryfhau meysydd pontio allweddol.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddatblygu cofnod unedig o bob dysgwr sydd ag anghenion addysgol arbennig sy’n cynnwys manylion am eu hanghenion arbennig a’r math o ddarpariaeth i fodloni’r anghenion hynny; a
  • chynyddu cwmpas y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion (CYBLD) fel ei fod yn cael gwybodaeth am ddisgyblion mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar, y rhai sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) a’r rhai y mae awdurdodau’n ariannu darpariaeth yn y sector annibynnol ar eu cyfer.

Dylai Awdurdodau Addysg Lleol:

  • weithio’n agos gydag ysgolion i wella ansawdd a chysondeb y wybodaeth am ddisgyblion unigol ag anghenion addysgol arbennig.

Dylai ysgolion:

  • wella cywirdeb y wybodaeth am ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig a roddir i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru; a
  • chymryd Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn a’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn fel man cychwyn ar gyfer dadansoddi deilliannau dysgu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig fel rhan o hunanarfarnu.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • rannu eu cwricwlwm a’u harfer addysgu orau yn amlach gydag ysgolion eraill;
  • ymgynghori mwy â dysgwyr ar beth y maent am ei ddysgu a sut; a
  • monitro ac arfarnu effaith arloesiadau ar ddeilliannau dysgwyr.

Dylai awdurdodau lleol:

  • gefnogi a herio ysgolion nad ydynt yn effeithiol neu’n arloesol wrth gynllunio a chyflwyno eu cwricwlwm;
  • arwain datblygiad cymunedau dysgu proffesiynol ar gyfer rhannu arfer orau mewn arloesedd rhwng ysgolion.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ystyried cyflwyno mwy o hyblygrwydd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol i annog mwy o arloesedd;
  • darparu mwy o arweiniad a chymorth ar gyfer arloesedd yng nghyfnod allweddol 3 ac yn ystod trosglwyddiadau o gyfnod allweddol 2 ac i gyfnod allweddol 4; a
  • gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod adnoddau gwell ar gael i ysgolion, yn enwedig adnoddau cyfrwng Cymraeg.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai sefydliadau addysg uwch:

  • wneud trefniadau i drafod a rhannu arfer dda;
  • trefnu cyfarfodydd rheolaidd gyda phawb sy’n cyflogi gweithwyr ieuenctid cymwys, i ymgynghori ar ddyluniad, cynnwys a chyflwyno cyrsiau ieuenctid a chymunedol;
  • gwneud yn siŵr bod cynllunio’r cwricwlwm yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau mewn cyd-destunau sy’n integreiddio arfer â theori;
  • gwella eglurder yr arweiniad i wella goruchwylwyr lleoliadau am eu rôl addysgol mewn cyrsiau, fel eu bod yn gwybod yn glir beth yw eu cyfrifoldebau am ddatblygu medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol hyfforddeion; a
  • gwella argaeledd hyfforddiant i oruchwylwyr lleoliadau gwaith, i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau a’u rolau asesu yn effeithiol.

Dylai gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol:

  • wella sicrhau ansawdd lleoliadau gwaith a ddarperir gan eu staff, i sicrhau bod gan bob goruchwyliwr gymwysterau cymwys, a’u bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai darparwyr:

  • weithio’n agosach i wneud y gorau o ddewis a hyblygrwydd;
  • gwneud yn siŵr bod pob dysgwr yn cael cyngor diduedd pan fyddant yn gwneud dewisiadau yn 14 ac 16 oed; a
  • chyflawni pob agwedd ar y craidd dysgu, yn enwedig medrau allweddol, medrau Cymraeg a phrofiad â ffocws gwaith.

Dylai rhwydweithiau:

  • fonitro ac arfarnu hawl dysgwyr; ac
  • arfarnu ansawdd ac effeithiolrwydd darpariaeth gydweithredol.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • gefnogi darpariaeth cyrsiau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg ymhellach.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia:

  • annog rheolwyr busnes ysgolion i rannu arfer dda, cefnogi ei gilydd a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio;
  • cefnogi rheolwyr busnes ysgolion i ymgymryd â hyfforddiant priodol ac ennill cymwysterau perthnasol;
  • arfarnu effaith gwaith y rheolwr busnes ysgolion; ac
  • ystyried rhannu rheolwr busnes ysgolion ar draws clwstwr o ysgolion cynradd bach.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ystyried y ffordd orau o alluogi ysgolion i gymharu data ariannol ag ysgolion eraill ledled Cymru; ac
  • adolygu anghenion datblygiad proffesiynol rheolwyr busnes ysgolion.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.