Adroddiad thematig Archives - Page 29 of 30 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai awdurdodau lleol:

  • gynllunio gwasanaethau yn strategol mewn partneriaeth â phobl eraill i ddarparu cymorth effeithiol nad yw’n addysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion arbennig cymhleth a’u teuluoedd;
  • gwneud yn siŵr bod ysgolion arbennig annibynnol sydd â darpariaeth breswyl gysylltiedig yn gallu bodloni ystod o anghenion cymhleth disgyblion unigol cyn eu lleoli; a
  • sicrhau bod gwybodaeth unigol a chynhwysfawr am addysg a gofal yn cael ei rhoi i’r ysgol cyn lleoli’r disgyblion.

Dylai ysgolion arbennig preswyl sydd â darpariaeth breswyl gysylltiedig:

  • sicrhau eu bod yn derbyn disgyblion y mae ganddynt arbenigedd i’w haddysgu yn unig; a
  • pheidio â derbyn disgyblion nes eu bod wedi cael gwybodaeth unigol a chynhwysfawr am addysg a gofal gan yr awdurdod lleoli.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • wneud yn siŵr bod trefniadau cytundebol ar waith gyda darparwyr dysgu yn y gwaith i sicrhau ennill fframweithiau cymhwyster;
  • parhau i ddarparu cymorth a hyfforddiant parhaus ar gyfer medrau allweddol ar lefel genedlaethol i helpu darparwyr dysgu yn y gwaith i wella ansawdd eu hyfforddiant a chynyddu nifer y dysgwyr sy’n cyflawni’r fframweithiau cymhwyster; a
  • gwella’r ffordd y caiff data ei gasglu, ei ddadansoddi a’i ddefnyddio i alluogi darparwyr dysgu yn y gwaith i feincnodi eu perfformiad yn gywir a nodi meysydd o’u gwaith y mae angen eu gwella.

Dylai darparwyr dysgu yn y gwaith:

  • ddatblygu strategaethau ymhellach i gynyddu cyrhaeddiad dysgwyr mewn medrau allweddol a fframweithiau cymhwyster; a
  • gwneud yn siŵr bod hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith, yn cynnwys medrau allweddol, yn rhan orfodol o raglenni dysgu.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ystyried ceisio gwneud trefniadau ffurfiol gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i adrodd yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru lle nad yw pobl ifanc mewn cartrefi plant yn cael eu haddysgu mewn darpariaeth a gynhelir; a
  • sicrhau bod ysgolion annibynnol cofrestredig yn cynnal cofrestrau presenoldeb dyddiol sy’n cydymffurfio â rheoliadau, ac yn cyflawni gofynion Rheoliadau Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (Cymru) 2003.

Dylai awdurdodau lleol:

  • roi cofnodion addysg disgyblion i ysgolion annibynnol cofrestredig yn fwy prydlon a sicrhau eu bod yn cynnwys gwybodaeth gyfoes; a
  • chymryd rôl fwy cadarnhaol fel rhieni corfforaethol.

Dylai ysgolion annibynnol cofrestredig:

  • gynnal asesiad cychwynnol o ddisgyblion newydd, monitro eu cynnydd yn effeithiol a defnyddio’r wybodaeth i gynllunio’n briodol i fodloni anghenion dysgu disgyblion; ac
  • arfarnu a monitro’r rhaglenni astudio addysg yn fwy trylwyr ar gyfer disgyblion sy’n mynychu sefydliadau eraill am ran o’u haddysg.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddarparu arweinyddiaeth ac adnoddau yn y mannau hynny lle nad oes data ar gael;
  • cefnogi datblygiad mesurau deilliannau defnyddiol gan adeiladu ar ddangosyddion perfformiad presennol; a
  • datblygu arweiniad ar gwmpas data i’w ddefnyddio ar gyfer dadansoddi angen i gael cysondeb gwell ledled Cymru.

Dylai awdurdodau lleol a’u partneriaid:

  • wneud yn siŵr bod y data sy’n cael ei gasglu ar gyfer dadansoddi anghenion a mesurau deilliannau yn cael ei ddefnyddio i lywio dyrannu adnoddau a chynllunio strategol;
  • defnyddio mesurau deilliannau effeithiol a chasglu’r wybodaeth hon yn drefnus; a
  • defnyddio gwybodaeth fanwl i ganolbwyntio gwasanaethau cymorth ac addysg ar y rhai sydd eu hangen fwyaf.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • roi arweiniad clir i awdurdodau lleol am y mathau o ddarpariaeth y mae’n ofynnol iddynt gael eu cofrestru; a
  • rhoi gwybodaeth flynyddol i Estyn am yr holl safleoedd y mae awdurdodau lleol yn eu cofrestru.

Dylai awdurdodau lleol:

  • gofrestru gyda Llywodraeth Cymru yr holl safleoedd lle maent yn cynnal darpariaeth ar gyfer disgyblion o oedran ysgol heblaw’r rhai sydd mewn ysgolion prif ffrwd, arbennig neu feithrin;
  • hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau i’r ddarpariaeth gofrestredig yn flynyddol; a
  • gofyn am gydweithio agosach rhwng gweithwyr addysg, gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu a gweithwyr ieuenctid i nodi plant nad ydynt yn mynychu ysgolion neu ddarpariaeth addysgol gymeradwy arall.

Dylai ysgolion:

  • sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • ddyfeisio polisi ysgol gyfan cydlynus ar gyfer gwella cyrhaeddiad bechgyn;
  • canolbwyntio ar wella llythrennedd bechgyn; a
  • dod o hyd i ffyrdd o fodloni anghenion dysgu disgyblion unigol trwy olrhain eu cynnydd a thargedu cymorth lle mae ei angen fwyaf.

Dylai awdurdodau lleol:

  • roi blaenoriaeth uchel i raglenni llythrennedd sy’n gwella medrau llythrennedd bechgyn;
  • sicrhau bod ysgolion yn gosod targedau ar gyfer gwella cyrhaeddiad bechgyn; a
  • rhoi data perfformiad i ysgolion ar gyrhaeddiad cymharol bechgyn a merched o’i gymharu â normau cenedlaethol a normau wedi’u meincnodi.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer gwella cyrhaeddiad bechgyn; a
  • chomisiynu ymchwil i pam mae asesiadau athrawon yn tueddu i ffafrio merched yn fwy na phrofion ac arholiadau allanol.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • greu cyrff cynllunio a all wneud penderfyniadau strategol am natur y ddarpariaeth mewn ardal;
  • sicrhau bod mwy o gydweddu rhwng y mecanweithiau cyllid ar gyfer darpariaeth cyn-16 ac ôl-16; ac
  • annog AALlau i weithio gyda phob partner i adolygu natur y ddarpariaeth yn eu hardal.

Dylai awdurdodau lleol:

  • weithio gyda phob partner i adolygu natur y ddarpariaeth yn eu hardal.

Dylai ysgolion a cholegau:

  • weithio gyda’i gilydd er lles dysgwyr yn eu hardal trwy helpu rhesymoli a chydlynu darpariaeth; ac
  • archwilio’r modd y gall gweithgareddau cydweithredol gynyddu ystod y cyrsiau galwedigaethol a gynigir.

Dylai ysgolion:

  • sicrhau bod dysgwyr yn cael gwybodaeth a chyngor llawn, teg a diduedd am y dewisiadau sydd ar gael iddynt yn 16 oed.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • sefydlu safonau cymhwyster cenedlaethol ar gyfer addysgu, cyflwyno a chefnogi ASO a SSIE yng Nghymru sy’n diffinio’r rolau amrywiol a’r cymwysterau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer pob un;
  • sicrhau bod y llwybrau i gymwysterau yn glir a diamwys ar gyfer yr holl staff sy’n addysgu, yn cyflwyno, yn cefnogi neu’n asesu ASO a SSIE; a
  • sefydlu system drylwyr ar gyfer achredu dysgu blaenorol (ADB) sy’n cydnabod cymwysterau a phrofiad presennol.

Dylai darparwyr:

  • nodi a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cyflwyno hyfforddiant ar y cyd mewn partneriaeth â darparwyr eraill i sicrhau bod ystod ehangach i bob ymarferwr ddatblygu ei fedrau; a
  • pharhau i gynnig cyfleoedd perthnasol a phenodol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i ymarferwyr ASO a SSIE.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.