Adroddiad thematig Archives - Page 26 of 30 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion 

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ymgynghori ag ysgolion i’w helpu i ddatblygu systemau i olrhain tystiolaeth yn erbyn y fframwaith GBG er mwyn i ddisgyblion ac athrawon allu monitro cynnydd unigolion wrth ddatblygu medrau mewn cynllunio gyrfa a gwneud penderfyniadau;
  • helpu ysgolion i ddatblygu eu defnydd o ddata lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i’w helpu i arfarnu eu heffeithiolrwydd wrth gyflwyno GBG;
  • dosbarthu data ar gynaliadwyedd cyrchfannau cyntaf dysgwyr er mwyn i ysgolion allu monitro pa mor llwyddiannus fu eu dewisiadau; ac
  • annog mwy o ysgolion i weithio tuag at ennill dyfarniad Marc Gyrfa Cymru.

Dylai ysgolion:

  • wella rhan llywodraethwyr yng nghynllunio strategol GBG; a
  • gwneud defnydd gwell o’r data sydd ar gael i fonitro ac olrhain tueddiadau yng nghyflawniad a dilyniant disgyblion er mwyn cynllunio gwelliannau mewn GBG.

Dylai Rhwydweithiau Dysgu:

  • arwain sefydliadau wrth ddatblygu strategaethau i arfarnu’n drylwyr pa mor dda y maent yn paratoi disgyblion ar gyfer adegau pontio allweddol ac ar gyfer byd gwaith; ac
  • annog casglu a rhannu data priodol i arfarnu sut caiff disgyblion eu paratoi ar gyfer adegau pontio allweddol.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai adrannau addysg gorfforol:

  • wneud yn siŵr bod gwersi yn cynnig cyfleoedd addas i ddisgyblion gadw’n gorfforol egnïol ac ymgymryd â gweithgarwch corfforol cynaliadwy; a
  • cynnig gweithgareddau dysgu a fydd yn galluogi disgyblion o bob gallu i wneud cynnydd, ac yn benodol, cynnig her addas i ddisgyblion mwy abl yng nghyfnod allweddol 3.

Dylai awdurdodau lleol:

  • wella’r cymorth a’r cyngor ar gyfer ymarferwyr addysg gorfforol a hyrwyddo arfer orau;
  • defnyddio menter 5×60 i hyrwyddo cysylltiadau mwy effeithiol gyda chlybiau a sefydliadau lleol i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a chyfranogiad gydol oes mewn chwaraeon a hamdden gorfforol; a
  • sicrhau cywirdeb a chysondeb gwell wrth farnu lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyfnod allweddol 3.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ystyried y ffordd orau o gynnal arfer ac effaith dda AGChY a mentrau 5×60.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai awdurdodau lleol:

  • osod safonau clir ar gyfer defnyddio ymyriad ac ataliad corfforol cyfyngol gan UCDau ac ar gyfer cadw cofnodion a sicrhau bod rheolwyr llinell, pwyllgorau rheoli ac aelodau etholedig yn gallu monitro’r rhain yn effeithiol;
  • gwneud yn siŵr bod adroddiadau am ddigwyddiadau yn cael eu defnyddio i lywio’r adolygiad o bolisïau’r awdurdod lleol ar gyfer lles a diogelu disgyblion;a
  • dwyn athrawon sydd â gofal i gyfrif yn effeithiol, trwy ddefnyddio trefniadau adrodd sy’n canolbwyntio ar les disgyblion, ac arfarnu’r strategaethau ar gyfer cefnogi disgyblion ag ymddygiad heriol.

Dylai unedau cyfeirio disgyblion (UCDau):

  • adolygu eu polisïau yn rheolaidd, a’u halinio ag arweiniad Llywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol;
  • cyflwyno gwybodaeth yn glir i staff yn eu polisïau a’u harweiniad ysgrifenedig; a
  • cyflwyno hyfforddiant i bob un o’r staff mewn rheoli ymddygiad, ymyriad ac ataliad corfforol cyfyngol sy’n adlewyrchu arfer orau.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion a lleoliadau:

  • roi cyfleoedd mwy rheolaidd i blant ddatblygu ac ymarfer eu medrau darllen ac ysgrifennu yn yr awyr agored;
  • cynllunio, trefnu ac asesu dysgu a lles yn yr awyr agored fel y maent yn gwneud dan do;
  • sicrhau bod pob un o’r staff wedi’u hyfforddi’n dda ac yn hyderus yn defnyddio’r awyr agored i gefnogi dysgu’r plant; ac
  • ystyried yr effaith ar ddeilliannau i blant wrth wneud penderfyniadau ariannol i ddatblygu darpariaeth a chyfleusterau yn yr awyr agored.

Dylai awdurdodau lleol:

  • ddarparu hyfforddiant ar gyfer arweinwyr a rheolwyr i’w helpu i nodi arfer orau yn narpariaeth dysgu yn yr awyr agored; a
  • gweithio gydag ysgolion a lleoliadau i wella’r data sydd ar gael i arfarnu effeithiolrwydd dysgu yn yr awyr agored.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddarparu arweiniad ar arfarnu cost effeithiolrwydd darpariaeth a chyfleusterau yn yr awyr agored.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai darparwyr:

  • roi cymorth ac arweiniad i ddysgwyr o ardaloedd difreintiedig cyn iddynt wneud cais ar gyfer rhaglenni;
  • olrhain perfformiad a chynnydd dysgwyr o ardaloedd difreintiedig a chymharu’r rhain â pherfformiad dysgwyr o ardaloedd eraill;
  • arfarnu effeithiolrwydd y cymorth ar gyfer dysgwyr o ardaloedd difreintiedig i nodi ei effaith ar gyrhaeddiad; a
  • gweithio’n agosach gydag ysgolion a darparwyr eraill i nodi dysgwyr o ardaloedd difreintiedig a’u hanghenion cymorth.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • barhau i gefnogi dysgwyr o ardaloedd difreintiedig yn ariannol i’w galluogi i gwblhau eu haddysg neu’u hyfforddiant; a
  • datblygu meincnodau cenedlaethol a thargedau ar gyfer gwella yng nghyrhaeddiad dysgwyr o ardaloedd difreintiedig.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • atgyfnerthu eu cyngor ar sut i reoli is-gontractwyr fel rhan o arweiniad Fframwaith Ansawdd ac Effeithiolrwydd yr AdAS.

Dylai darparwyr arweiniol dysgu yn y gwaith:

  • wneud yn siwr bod pob dysgwr yn cael hyfforddiant cyson dda ar draws pob is-gontractwr;
  • alinio systemau sicrhau ansawdd is-gontractwyr gyda’u systemau sicrhau ansawdd eu hunain lle bynnag y bo modd;
  • datblygu systemau i nodi a rhannu arfer dda; a
  • ystyried deilliannau holiaduron boddhad dysgwyr i gywiro unrhyw ddiffygion a nodwyd.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • ddefnyddio’r awgrymiadau yn Atodiad 2 yr adroddiad i helpu arfarnu eu harfer a hyrwyddo gwelliant;
  • sicrhau bod cyfleoedd rheolaidd, wedi’u cynllunio’n dda i blant wella eu medrau darllen ac ysgrifennu;
  • datblygu cydbwysedd gwell rhwng dysgu wedi’i ysgogi an blant a dysgu wedi’i arwain gan ymarferwyr; a
  • cynllunio gweithgareddau mwy heriol i ddatblygu medrau meddwl, cyfathrebu, rhifedd a TGCh ar draws y meysydd dysgu.

Dylai awdurdodau lleol:

  • gefnogi pob ysgol i ddatblygu gwybodaeth gadarn am egwyddorion ac arfer y Cyfnod Sylfaen.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • gyhoeddi arweiniad ar arfer dda i gefnogi ysgolion yn y meysydd a amlinellir uchod.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • fonitro gweithredu’r polisi cyflenwi dysgu cymunedol i wella cydweithio ar drawsyr adrannau, cyfarwyddiaethau a’r canghennau sy’n gyfrifol am bobl hŷn; a
  • chasglu data ynghylch cyfleoedd dysgu yn y Monitor Pobl Hŷn, fel ei fod yn monitro lles trwy ddysgu yn ogystal â chael gwaith.

Dylai’r Adran Addysgu a Sgiliau:

  • gydweithio ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru i gronni pob cyllideb sydd â’r nod o gefnogi dysgu gydol oes a lles pobl hŷn;
  • cytuno ar ddangosyddion perfformiad neu fesurau deilliant i bartneriaethau DOG fonitro eu gwaith gyda phobl hŷn a’u cynorthwyo i fyw’n annibynnol; ac
  • annog a chynorthwyo partneriaethau DOG i gynorthwyo pobl hŷn i drefnu a rheoli eu dysgu eu hunain.

Dylai partneriaethau DOG:

  • gynyddu hyblygrwydd mewn dulliau cyflwyno, yn newisiadau’r cwricwlwm, hyd sesiynau a’r dulliau asesu ar gyfer pobl hŷn, yn enwedig y rhai dros 70 oed.

Dylai awdurdodau lleol:

  • sicrhau bod byrddau gwasanaeth lleol yn gwella eu defnydd o arbenigedd partneriaethau DOG mewn cyflwyn.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • ddatblygu dull mwy systematig o wella safonau dysgwyr dan anfantais;
  • gwneud yn siŵr bod y cwricwlwm cyfan, yn cynnwys darpariaeth y tu allan i oriau, yn cefnogi anghenion dysgwyr dan anfantais;
  • gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu atebion i broblemau anfantais; ac
  • arfarnu effaith strategaethau i fynd i’r afael ag anfantais ar gyflawniad dysgwyr.

Dylai awdurdodau lleol:

  • herio a chefnogi ysgolion i ddefnyddio data i nodi a monitro cynnydd dysgwyr dan anfantais; a
  • datblygu systemau i rannu gwybodaeth am ddysgwyr dan anfantais gydag ysgolion ac ar draws gwasanaethau.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • weithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i gytuno ar gylch gwaith mwy penodol ar gyfer ysgolion bro.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion, colegau a darparwyr dysgu yn y gwaith:

  • sicrhau bod rhifedd yn cael ei gynllunio a’i gyflwyno mewn cyd-destunau perthnasol ac ymarferol ar draws y cwricwlwm;
  • asesu ac olrhain cynnydd medrau rhifedd dysgwyr ar draws y cwricwlwm;
  • hyfforddi staff i ddeall sut i ddatblygu medrau rhifedd dysgwyr;
  • monitro ac arfarnu effaith strategaethau i wella rhifedd dysgwyr;
  • darparu cymorth ac adnoddau mewn Cymraeg ar gyfer dysgwyr Cymraeg; a
  • chofrestru dysgwyr ar lefel sy’n cynnwys her briodol ar gyfer cymwysterau medrau hanfodol.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.