gael strategaeth y cytunwyd arni’n lleol i gefnogi’r holl ddisgyblion sy’n agored i niwed fel eu bod yn aros mewn addysg amser llawn
nodi disgyblion sydd mewn perygl o ymddieithrio yn gynnar a rhoi ymyriadau priodol ac amserol ar waith
cydweithio i gynyddu ystod yr opsiynau a’r profiadau dysgu sydd ar gael i ddisgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol
Dylai awdurdodau lleol:
sicrhau bod gan yr holl randdeiliaid ddealltwriaeth glir o rôl UCDau a mathau eraill o ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol mewn continwwm o ddarpariaeth, a bod y darpariaethau hyn yn cynnwys meini prawf mynediad ac ymadael clir
penodi staff UCD sydd â phrofiad ac arbenigedd priodol mewn arweinyddiaeth, addysgu a dysgu yn ogystal â rheoli ymddygiad
sicrhau bod pob un o staff UCDau yn cael yr un cyfleoedd hyfforddi a datblygu â staff mewn ysgolion prif ffrwd
gweithio gyda chonsortia rhanbarthol i ddarparu cymorth a her gadarn i reolwyr a phwyllgorau rheoli UCD
Dylai Llywodraeth Cymru:
ddarparu arweiniad fframwaith ar rôl UCDau fel rhan o gontinwwm o ddarpariaeth
ystyried cyflwyno cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer athrawon sydd â gofal am UCDau
sicrhau bod staff UCDau yn elwa ar strategaethau cenedlaethol i wella ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth mewn addysg
fod yn glir iawn ynghylch yr hyn y maent am ei gyflawni trwy gymryd rhan mewn gweithgarwch cymorth rhwng ysgolion
nodi meini prawf llwyddiant penodol ar gyfer y gweithgarwch
sicrhau bod y ffocws ar godi safonau a gwella deilliannau
arfarnu’r effaith, costau a buddion
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia:
fod â strategaeth glir ar gyfer paru ysgolion i gydweithio â’i gilydd
gosod disgwyliadau ynghylch sut bydd grwpiau’n gweithredu
sicrhau bod adnoddau ar gael i ategu gwaith rhwng ysgolion
nodi a lledaenu gwybodaeth am arfer sy’n haeddu cael ei hefelychu
Dylai Llywodraeth Cymru:
ystyried ffyrdd i alluogi ffederasiynau i gofrestru’n ysgol unigol
cydlynu cronfa ddata genedlaethol o arfer sy’n haeddu cael ei hefelychu sy’n dod ag astudiaethau achos arfer orau Estyn, a’r rhai a nodir gan gonsortia ac awdurdodau lleol, at ei gilydd
Astudiaethau achos o arfer orau
Deuluoedd ‘cynradd’ Ynys Môn
Ysgol Uwchradd Elfed, Sir y Fflint
Ysgol Tregarth ac Ysgol Bodfeurig, Gwynedd
Y Ffederasiwn o Ysgolion yng Nghwm Afan Uchaf, Castell-nedd Port Talbot
Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Castell-nedd Port Talbot
Ysgol Ddydd Arbennig Crownbridge a’i phartneriaid Ysgol Arbennig Portfield, Ysgol Arbennig Greenfields, Ysgol Arbennig Heronsbridge, Ysgol Hen Felin ac Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn