Adroddiad thematig Archives - Page 17 of 30 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A1 gryfhau’r arweiniad ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion ynghylch y gofyniad i:
    • hysbysu Llywodraeth Cymru am yr holl addysg heblaw yn yr ysgol y maent yn ei darparu neu ei chomisiynu, gan gynnwys canolfannau addysgu, UCDau a darpariaeth annibynnol
    • cynnal cofnodion o’r holl ddisgyblion sy’n derbyn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol, a’r rhai sy’n derbyn darpariaeth amgen a drefnwyd gan ysgolion yn annibynnol ar eu hawdurdod lleol
    • cynnal cofnodion o nifer y disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, sy’n mynd ymlaen i beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
    • gwella’r gallu i droi at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) ac asiantaethau arbenigol eraill i ddisgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol
  • A2 cyhoeddi data cyrhaeddiad a phresenoldeb ar gyfer dysgwyr mewn addysg heblaw yn yr ysgol ar lefel yr awdurdod lleol
  • A3 ystyried diwygio’r trothwy i ddarparwyr gofrestru’n ysgolion annibynnol
  • Dylai awdurdodau lleol:
  • A4 hysbysu Llywodraeth Cymru am yr holl ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol y maent yn ei darparu neu’n ei chomisiynu
  • A5 gwirio’n ofalus statws cofrestru pob darparwr y maent yn eu defnyddio i sicrhau, lle y bo’n briodol, bod y ddarpariaeth y maent yn ei chomisiynu wedi’i chofrestru’n ysgol annibynnol gyda Llywodraeth Cymru
  • A6 sicrhau bod ysgolion yn deall gweithdrefnau cyfeirio at addysg heblaw yn yr ysgol a chynnwys y gofyniad bod gwybodaeth asesu a gwybodaeth arall yn trosglwyddo’n brydlon o’r ysgol i’r darparwr addysg heblaw yn yr ysgol
  • A7 monitro ansawdd yr holl ddarpariaeth amgen sy’n cael ei darparu neu ei chomisiynu ar gyfer disgyblion yn eu hawdurdod lleol, gan gynnwys darpariaeth wedi’i threfnu gan ysgolion neu drwy Rwydweithiau 14-19
  • A8 rhoi addysg addas i ddisgyblion o fewn 15 niwrnod o benderfynu y dylai disgybl gael addysg heblaw yn yr ysgol
  • A9 darparu cwricwlwm amser llawn i bob disgybl sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol sy’n bodloni eu hanghenion, yn eu galluogi i gyflawni eu potensial ac yn sicrhau eu bod yn cael eu hailintegreiddio lle bynnag y bo’n bosibl
  • A10 darparu addysg heblaw yn yr ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg i ddisgyblion sydd wedi derbyn eu haddysg yn Gymraeg
  • A11 bodloni’r gofyniad statudol i sicrhau bod disgyblion â datganiad o anghenion addysgol arbennig yn cael y cymorth sydd wedi’i gofnodi ar eu datganiad neu eu Cynllun Datblygu Unigol
  • A12 rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol am addysg heblaw yn yr ysgol i aelodau etholedig fel y gallant farnu ei heffeithiolrwydd a’i gwerth am arian

Dylai ysgolion:

  • A13 weithio’n agos gyda’u hawdurdod lleol a rhoi gwybodaeth gynhwysfawr, amserol iddo am yr holl ddisgyblion y mae’r ysgol yn eu cyfeirio am addysg heblaw yn yr ysgol a darpariaeth amgen, gan gynnwys trwy Rwydweithiau 14-19
  • A14 gwirio’n ofalus statws cofrestru pob darparwr a ddefnyddiant a chadarnhau a ddylai’r darparwr fod wedi cofrestru os nad ydyw
  • A15 sicrhau bod darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol sy’n addysgu disgyblion o’u hysgol yn cael gwybodaeth o ansawdd da am anghenion dysgu ac ymddygiad disgyblion
  • A16 cadw mewn cysylltiad â disgyblion o’u hysgol sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, monitro cynnydd y disgybl, gan gynnwys perfformiad academaidd, a’i ailintegreiddio lle bynnag y bo modd
  • A17 gweithio’n agos gyda darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol i sicrhau parhad yn y cwricwlwm i ddisgyblion o’u hysgol

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai darparwyr:

  • A1 Gwella dealltwriaeth dysgwyr o ddulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac addysgu ac asesu’r dulliau hyn
  • A2 Gwella llythrennedd a rhifedd dysgwyr a’r cymorth, yr asesu a’r cynlluniau gweithredu ar gyfer y medrau hyn
  • A3 Sicrhau bod gan aseswyr feichiau gwaith hylaw fel bod eu hymweliadau â hyfforddeion yn digwydd yn ddigon aml a’u bod yn ddigon hir
  • A4 Gwneud yn siŵr bod aseswyr yn meddu ar wybodaeth a medrau ar lefelau addas i gynorthwyo dysgwyr yn llawn
  • A5 Gwella cytundebau lefel gwasanaeth gyda chyflogwyr, a chynnwys cyflogwyr yn fwy mewn hyfforddi ac asesu dysgwyr

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A6 Cynorthwyo darparwyr i wella arferion asesu a hyfforddiant a chymhwysedd aseswyr trwy weithio gyda chyflogwyr, Cyngor y Gweithlu Addysg, ColegauCymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru i ddarparu digwyddiadau datblygiad proffesiynol
  • A7 Gwella’r drefn ar gyfer casglu data ar gyrchfan dysgwyr

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • A1 Adeiladu ar arfer orau yn unol â nodweddion ysgolion effeithiol a nodwyd yn yr adroddiad hwn

Dylai awdurdodau lleol:

  • A2 Adeiladu ar arfer orau yn unol â nodweddion awdurdodau lleol effeithiol a nodwyd yn yr adroddiad hwn

Dylai’r consortia rhanbarthol:

  • A3 Wella’r modd y maent yn cynllunio’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal i wneud yn siŵr bod ysgolion yn glir ynglŷn â’r blaenoriaethau ar gyfer defnyddio’r grant a bod eu cynlluniau’n rhoi digon o ystyriaeth i anghenion cymhleth plant sy’n derbyn gofal

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A4 Ystyried ehangu mesurau perfformiad i gynnwys cynnydd o gymharu â man cychwyn y plant ac yn ymestyn y tu hwnt i oedran ysgol statudol

  • A5 Gwneud yn siŵr bod cynlluniau gwariant y consortia rhanbarthol yn briodol i angen lleol ac wedi eu seilio ar ddadansoddiad cadarn o anghenion plant sy’n derbyn gofal

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai colegau arbenigol annibynnol:

  • A1 Wneud yn siŵr bod yr holl asesiadau cyn mynediad yn berthnasol i ystod lawn anghenion dysgwyr, gan gynnwys cyfathrebu ac ymddygiad
  • A2 Gwneud yn siŵr bod pob CAA:
    • yn cydnabod cyrchfan a ddymunir gan ddysgwyr
    • yn nodi’n fras dargedau tymor byr, tymor canolig a thymor hir ac yn amlinellu cynlluniau i gyflawni’r targedau hyn
    • yn cael ei adolygu’n rheolaidd
  • A3 Datblygu prosesau clir i osod targedau, ac asesu, olrhain, monitro ac arfarnu cynnydd dysgwyr mewn medrau annibyniaeth
  • A4 Datblygu prosesau i fesur gwerth a deilliannau profiad gwaith
  • A5 Lleihau’r ddibyniaeth ar daflenni gwaith generig i addysgu medrau llythrennedd a rhifedd

Dylai awdurdodau lleol:

  • A6 Gydlynu’r wybodaeth sy’n mynd gyda dysgwyr rhwng darparwyr ac ar gyfnodau pontio
  • A7 Gwneud yn siŵr bod cynlluniau a phrosesau ar gyfer cyrchfannau dysgwyr y tu hwnt i’r CAA ar waith yn ddigon cynnar i gael canlyniad cadarnhaol a chyfnod pontio didrafferth

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A8 Adolygu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani gan CAAau i wneud yn siŵ ei bod yn glir a phenodol ac yn cynnwys ffocws ar gynnydd dysgwyr a chyrchfan a ddymunir gan y dysgwr, yn ogystal ag ennill cymwysterau

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

I gryfhau’r RhHYR a llwybrau eraill i addysgu, dylai Llywodraeth Cymru:

A1 Sicrhau bod darparwyr hyfforddiant i athrawon yn helpu hyfforddeion i ddatblygu’r addysgeg fwyaf effeithiol ar gyfer eu pwnc a’u sector

A2 Ystyried strategaethau i wella ansawdd y mentora mewn ysgolion, i alluogi athrawon dan hyfforddiant i wneud cynnydd da a chyflawni eu potensial

A3 Sicrhau bod pob rhaglen ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant yn effeithiol yn ystod wythnosau cyntaf yr addysgu

A4 Gwella casglu data mewn hyfforddiant cychwynnol i athrawon i arfarnu effeithiolrwydd rhaglenni hyfforddi

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai athrawon ieithoedd tramor modern:

  • A1 Gwella ansawdd yr addysgu mewn ieithoedd tramor modern trwy sicrhau eu bod:
    • yn cynyddu’r defnydd o’r iaith asesedig fel yr iaith cyfarwyddo ar draws cyfnod allweddol 3, cyfnod allweddol 4 ac yn y sector ôl-16
    • yn helpu dysgwyr i gael amgyffrediad cadarn o reolau ynganu’r iaith y maent yn ei dysgu
    • yn helpu dysgwyr i ddefnyddio ystod eang o strategaethau i baratoi’n hyderus ar gyfer arholiadau llafar, fel bod dysgwyr yn datblygu rhuglder llafar ar lefelau yn unol â’u galluoedd
    • yn gwneud yn siŵr bod dysgwyr o bob gallu yn cael eu herio’n llawn ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau iaith creadigol sy’n datblygu eu meistrolaeth o’r iaith
    • yn cadw cydbwysedd priodol rhwng addysgu gramadeg a’r pedwar medr iaith, yn enwedig siarad a gwrando
    • yn asesu gwaith dysgwyr gan ddefnyddio strategaethau ystyrlon o ran asesu ar gyfer dysgu
  • A2 Mynychu grwpiau rhwydwaith rhanbarthol a hyfforddiant rhanbarthol, a chymryd rhan ynddynt, i ddatblygu medrau lefel uwch mewn addysgu a dysgu ieithoedd tramor modern

Dylai penaethiaid ac uwch arweinwyr:

  • A3 Gwella nifer y dysgwyr sy’n astudio o leiaf un iaith dramor fodern ar lefel arholiad trwy adolygu eu trefniadau ar gyfer cynllunio ac amserlennu’r cwricwlwm
  • A4 Gwneud yn siwr bod eu hathrawon ieithoedd tramor modern yn gallu manteisio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus ‘Dyfodol byd-eang’ a gynigir mewn rhanbarthau ac ar eu traws i wella ansawdd dysgu ac addysgu ieithoedd tramor modern