-
Mae cyfranogiad disgyblion a meithrin perthnasoedd cadarnhaol yn rhan annatod o weledigaeth ac ethos yr ysgol. Mae gan arweinwyr a rheolwyr strategaeth glir ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad ac ar gyfer meithrin perthnasoedd da. Maent yn cefnogi ac yn annog cyfranogiad agored a gonest. Mae arweinwyr yn creu ethos lle mae disgyblion yn parchu hawliau pobl eraill ac yn deall pwysigrwydd amrywiaeth a chydraddoldeb.
-
Mae rolau a strwythurau clir ar waith ar draws yr ysgol i gofnodi safbwyntiau disgyblion ar ystod eang o faterion yn ymwneud â gwella’r ysgol. Mae staff yn cymryd safbwyntiau disgyblion o ddifrif ac yn gweithredu yn unol â nhw. Mae disgyblion, staff a llywodraethwyr yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau mewn perthynas â chyfranogiad. Gall arweinwyr ddangos effaith cyfranogiad ar gynllunio gwella ysgol.
-
Caiff disgyblion gyfleoedd eang i gymryd rhan yn yr ysgol a thu hwnt, i gyfrannu at drafodaethau a dylanwadu ar benderfyniadau ar draws ystod eang o faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Mae’r cyfleoedd hyn yn annog disgyblion i ddatblygu’r medrau sydd eu hangen i fod yn ddinasyddion gweithredol.nbsp;
-
Mae disgyblion a staff yn elwa ar hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus o ansawdd da sydd wedi ei dargedu’n dda i ddatblygu’r medrau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i sicrhau bod llais disgyblion yn cael ei glywed mewn trafodaethau ac wrth wneud penderfyniadau.