A1 Roi arweiniad Llywodraeth Cymru ar waith i ddarparu dull ysgol gyfan o atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (Llywodraeth Cymru, 2015)
A2 Sicrhau bod negeseuon allweddol yn ymwneud â pherthnasoedd iach yn cael eu hymgorffori yn y cwricwlwm a’u hatgyfnerthu’n rheolaidd
A3 Adeiladu ar yr arfer orau a nodir yn yr adroddiad hwn
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
A4 Sicrhau bod yr holl staff sy’n gweithio mewn ysgolion yn cwblhau’r hyfforddiant a amlinellir yn y Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol (Llywodraeth Cymru, 2016a)
Dylai Llywodraeth Cymru:
A5 Gyhoeddi arweiniad ymhellach i sicrhau bod ysgolion a chyrff llywodraethol yn ymwybodol o’r cyngor a’r arweiniad y maent yn eu cynnwys
A6 Sicrhau bod y rheiny sy’n gysylltiedig â chynllunio a datblygu’r cwricwlwm ar gyfer y maes dysgu iechyd a lles a phrofiadau yn ymwybodol o’r rôl bwysig sydd gan ysgolion o ran rhoi Deddf TEMCDThRh 2015 (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2015) ar waith, a chynnwys addysg perthnasoedd iach yn eu gwaith
A7 Galluogi staff sy’n gweithio mewn ysgolion a cholegau annibynnol i elwa
A1 Gwneud yn siŵr bod gwersi gwyddoniaeth yn herio pob disgybl, yn enwedig y rhai mwy abl, a lleihau’r bwlch rhwng cyflawniad disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion
A2 Gwneud yn siŵr bod disgyblion yn cael cyfleoedd i ddysgu am holl feysydd y cwricwlwm dylunio a thechnoleg, yn enwedig ‘systemau a rheolaeth’
A3 Sicrhau bod asesu yn helpu disgyblion wybod beth sydd angen iddynt ei wneud er mwyn gwella
A4 Sicrhau bod prosesau hunanarfarnu yn gadarn ac yn canolbwyntio ar wybodaeth bynciol, dealltwriaeth a medrau disgyblion, ac ar ansawdd yr addysgu
A5 Darparu hyfforddiant i athrawon ym meysydd gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg lle ceir diffyg gwybodaeth a hyder
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
A6 Darparu mwy o gymorth penodol i bwnc i athrawon er mwyn gwella’r addysgu a’r asesu mewn gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg a hwyluso rhannu arfer dda
A7 Darparu mwy o gymorth i ysgolion arfarnu’u cwricwlwm a chynllunio ar gyfer datblygu maes dysgu a phrofiad gwyddoniaeth a thechnoleg
A1 Sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn cael trafodaethau rheolaidd am eu cynnydd, eu dyheadau a’u llwybrau dysgu posibl, yn enwedig ym Mlwyddyn 9 a Blwyddyn 11
A2 Rhoi gwybodaeth gywir a chyfoes i ddisgyblion am ystod lawn y cyfleoedd chweched dosbarth, addysg bellach a phrentisiaeth sy’n agored iddynt
A3 Arfarnu eu darpariaeth GBG i sicrhau ei bod:
a. yn cael ei chyflwyno gan staff wedi’u hyfforddi’n dda, a bod y ddarpariaeth yn cynnwys adnoddau cyfoes
b. yn darparu profiadau perthnasol sy’n canolbwyntio ar waith ar gyfer disgyblion
c. yn defnyddio gwybodaeth yn well i fonitro ac olrhain tueddiadau yng nghyflawniad a dilyniant disgyblion er mwyn cynllunio gwelliannau yn y ddarpariaeth
ch. yn cael ei hintegreiddio mewn prosesau hunanarfarnu, cynllunio gwelliant ac atebolrwydd ysgol gyfan
A4 Cynnwys llywodraethwyr yn fwy mewn goruchwylio GBG yn strategol
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
A5 Helpu ysgolion i ddatblygu eu defnydd o wybodaeth i arfarnu effeithiolrwydd eu darpariaeth GBG
Dylai Llywodraeth Cymru:
A6 Hyrwyddo partneriaethau cryfach rhwng ysgolion, darparwyr, cyflogwyr a phobl eraill i wella’r ffordd y caiff cyngor ac arweiniad diduedd eu cyflwyno
A7 Adolygu’r fframwaith GBG a diweddaru arweiniad yng ngoleuni egwyddorion diwygio’r cwricwlwm a nodwyd yn Dyfodol Llwyddiannus