Adroddiad thematig Archives - Page 13 of 30 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet i Estyn ar gyfer 2017-2018. Mae’r adroddiad wedi’i fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, penaethiaid a staff mewn ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Gallai fod o ddiddordeb hefyd i’r rheiny sy’n gweithio gyda sefydliadau addysg a hyfforddiant athrawon.

Mae rhan gyntaf yr adroddiad hwn yn crynhoi tystiolaeth uniongyrchol o arolygiadau, ac ymweliadau ag, ysgolion yr astudiaethau achos a ddisgrifir yn rhan dau, yn ogystal â chanfyddiadau o ymchwil addysgol, i archwilio beth sy’n gwneud addysgeg ac addysgu effeithiol. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r dulliau strategol a ddefnyddiwyd gan ysgolion i wella ansawdd yr addysgu a meithrin gallu addysgu ar gyfer y dyfodol.

Mae ail ran yr adroddiad hwn yn cyflwyno 24 o astudiaethau achos sy’n dangos sut mae arweinwyr ac athrawon wedi meithrin eu gallu i ysgogi gwelliant cynaliadwy yn ansawdd yr addysgu yn eu hysgolion. Mae’r astudiaethau achos yn archwilio teithiau gwelliant addysgegol pedair ysgol gynradd ar ddeg, naw ysgol uwchradd, ac un ysgol pob oed. Mae’r ysgolion yn wynebu amrywiaeth o heriau ac mae ganddynt wahanol fannau cychwyn, o ysgolion sydd wedi cael eu rhoi mewn categori statudol, i ysgolion sy’n cynnal lefelau uchel o berfformiad dros gyfnod.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A1 Ddarparu arweiniad clir, cyfredol i awdurdodau lleol, ysgolion ac UCDau ar ddefnyddio symudiadau rheoledig a rhaglenni cymorth bugeiliol, yn enwedig yn ymwneud ag amserlenni rhan-amser
  • A2 Cryfhau amddiffyniad cyfreithiol a mesurau amddiffynnol yn ymwneud â symudiadau rheoledig i adlewyrchu’r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd i ddisgyblion sy’n cael eu gwahardd yn barhaol
  • A3 Casglu a chyhoeddi data ar symudiadau rheoledig a gwaharddiadau ar lefel awdurdodau lleol a chenedlaethol
  • A4 Ystyried ehangu mesurau perfformiad, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 4, i hyrwyddo arfer gynhwysol ar lefel ysgolion ac awdurdodau lleol

Dylai awdurdodau lleol:

  • A5 Ddarparu’r gallu i ddisgyblion a’u teuluoedd fanteisio ar wybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd cyn ac yn ystod y broses symudiad rheoledig
  • A6 Monitro defnydd a phriodoldeb rhaglenni cymorth bugeiliol ar lefel ysgolion
  • A7 Casglu data ar symudiadau rheoledig a defnyddio’r wybodaeth hon i arfarnu effeithiolrwydd rhaglenni cymorth bugeiliol
  • A8 Hyrwyddo datblygu a defnyddio protocolau symudiadau rheoledig rhwng ysgolion, lle bynnag y bo hynny’n bosibl
  • A9 Sicrhau y gall disgyblion a’u teuluoedd fanteisio ar gyngor ac asesiadau arbenigol yn brydlon er mwyn sefydlogi lleoliadau mewn ysgolion cartref lle bynnag y bo hynny’n bosibl

Dylai ysgolion:

  • A10 Sicrhau y gall disgyblion a’u teuluoedd fanteisio ar wybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd
  • A11 Adolygu’r defnydd o raglenni cymorth bugeiliol yn sgil arweiniad cenedlaethol a lleol yn gynnar yn y broses symudiadau rheoledig
  • A12 Sicrhau y caiff gwybodaeth allweddol ei rhannu â’r ysgol sy’n derbyn yn ystod y cyfarfod cychwynnol

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • A1 Sicrhau cydbwysedd rhwng datblygu medrau disgyblion a’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gynnwys pwnc
  • A2 Sicrhau bod profiadau dysgu disgyblion yn y dyniaethau yn amrywiol, diddorol, dilyniadol a heriol, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 4
  • A3 Monitro’r cynnydd a wna disgyblion yn y dyniaethau yn agosach
  • A4 Arfarnu’r cwricwlwm ar gyfer y dyniaethau i baratoi ar gyfer datblygu a gweithredu’r maes newydd dysgu a phrofiad
  • A5 Sefydlu rhwydweithiau lleol arfer dda i rannu adnoddau ac arbenigedd, gan gynnwys gwneud defnydd gwell o ardal yr ysgol

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A6 Ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol gwell ar gyfer athrawon y dyniaethau
  • A7 Darparu mwy o gymorth i ysgolion arfarnu eu cwricwlwm a chynllunio ar gyfer datblygu maes dysgu a phrofiad y dyniaethau

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A8 Sicrhau bod cyrsiau addysg gychwynnol i athrawon yn galluogi athrawon newydd, gan gynnwys athrawon cynradd, i feithrin y medrau angenrheidiol i addysgu’r dyniaethau yn llwyddiannus ac ymateb i’r Cwricwlwm newydd i Gymru

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Mae’r ffilm hon yn dangos enghreifftiau o arfer effeithiol y cyfnod sylfaen wrth gyflwyno llythrennedd a rhifedd ym Mlwyddyn 1 a Blwyddyn 2 trwy ddefnyddio profiadau dysgu rhyngweithiol a llawn hwyl. Nod y ffilm yw ysgogi trafodaethau mewn ysgolion a rhwng ysgolion, i hyrwyddo arfer effeithiol mewn addysgu a dysgu ledled Cymru. Mae pum pennod i’r ffilm, yn bwrw golwg ar safonau mewn llythrennedd a rhifedd, llais y disgybl ac annibyniaeth, y ddarpariaeth ar gyfer llythrennedd a rhifedd, addysgu ac asesu, ac arweinyddiaeth.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • A1 Ddarparu cyfleoedd dysgu ysgogol a heriol mewn gwyddoniaeth sy’n cynnwys gwaith ymarferol effeithiol i fodloni anghenion yr holl ddisgyblion, gan gynnwys y rhai mwy abl
  • A2 Arfarnu eu cwricwlwm ar gyfer gwyddoniaeth i baratoi ar gyfer y maes dysgu a phrofiad newydd ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg
  • A3 Sicrhau bod hunanarfarnu adrannol yn gadarn ac yn seiliedig ar ystod o dystiolaeth i arfarnu safonau sy’n benodol i bwnc ac ansawdd yr addysgu
  • A4 Defnyddio adborth o adroddiad diweddaraf PISA i lywio cynllunio ar gyfer gwella
  • A5 Sicrhau bod asesu yn helpu disgyblion i wybod beth mae angen iddynt ei wneud i wella

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A6 Ddarparu mwy o gymorth sy’n benodol i bwnc ar gyfer athrawon gwyddoniaeth ar wella addysgu ac asesu, a hwyluso rhannu arfer dda
  • A7 Darparu mwy o gymorth i ysgolion arfarnu eu cwricwlwm, a chynllunio ar gyfer datblygu’r maes dysgu a’r profiad gwyddoniaeth a thechnoleg, yn ogystal â’r newidiadau i gymwysterau mewn gwyddoniaeth

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A8 Ymgyrchu i ddenu mwy o raddedigion gwyddoniaeth i’r proffesiwn addysgu yng Nghymru