Adroddiad thematig Archives - Page 12 of 30 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion a cholegau:

  • A1 Herio’r ystod gallu llawn a darparu tasgau ysgogol sy’n datblygu gwydnwch dysgwyr
  • A2 Sicrhau bod dysgwyr yn gwella eu hysgrifennu mewn Cymraeg a Saesneg
  • A3 Cael disgwyliadau uchel fod pob dysgwr yn cyfrannu’n llafar, yn enwedig yn Gymraeg
  • A4 Gwella medrau datrys problemau disgyblion mewn mathemateg ac mewn mathemateg-rhifedd
  • A5 Datblygu medrau darllen lefel uwch disgyblion mewn Saesneg, Cymraeg a mathemateg a Bagloriaeth Cymru
  • A6 Gwella perfformiad bechgyn mewn Cymraeg, Saesneg a Bagloriaeth Cymru
  • A7 Helpu mwy o ddisgyblion ennill y graddau uchaf ym Magloriaeth Cymru
  • A8 Darparu cyfleoedd gwell i ddisgyblion ddatblygu’u medrau rhifedd a TGCh ym Magloriaeth Cymru
  • A9 Ystyried yn ofalus eu staffio a’u hamserlennu ar gyfer Bagloriaeth Cymru a’r statws maent yn ei roi i’r cymhwyster
  • A10 Darparu hyfforddiant i arweinwyr canol i’w helpu i arfarnu safonau ac addysgu yn eu hadrannau
  • A11 Gweithio gyda’i gilydd yn well i sicrhau bod ganddynt drefniadau cyfreithiol, diogel a chynhwysfawr ar waith ar gyfer rhannu gwybodaeth am gyraeddiadau blaenorol disgyblion ac i ddatblygu rhwydweithiau o arfer broffesiynol

Yn ogystal:

  • A12 Dylai ysgolion ystyried ehangder eu cwricwlwm, gan gynnwys cyfleoedd ac anogaeth i astudio Saesneg llenyddiaeth a Chymraeg llenyddiaeth
  • A13 Dylai colegau gynyddu nifer y dysgwyr sy’n ailsefyll TGAU Cymraeg iaith

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai awdurdodau lleol:

  • A1 Ymgynghori’n ystyrlon gyda phobl ifanc, fel eu bod yn gallu dylanwadu ar gynllunio ar gyfer gwasanaethau sydd ar gael iddynt ar lefel leol, a’u harfarnu
  • A2 Darparu mannau diogel i bobl ifanc mewn ardaloedd lleol fel bod ganddynt fynediad at wasanaethau, a gweithgareddau, sy’n cynorthwyo’u datblygiad fel unigolion, ac fel aelodau o’u cymuned leol
  • A3 Gwneud yn siŵr bod cynlluniau strategol yn cynnwys blaenoriaethau clir wedi’u llywio gan wybodaeth leol ar gyfer gwasanaethau sy’n cynorthwyo pobl ifanc
  • A4 Gwneud yn siŵr bod adrannau awdurdod lleol a chyrff eraill yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc, sy’n mynd i’r afael â’u hanghenion

Dylai darparwyr:

  • A5 Wneud yn siŵr bod eu gwasanaethau yn galluogi pobl ifanc i nodi drostyn nhw eu hunain beth yw eu diddordebau, eu nodau, a’u hanghenion
  • A6 Gweithio mewn partneriaeth ar lefel leol a rhanbarthol i wella mynediad at yr ystod o wasanaethau ar gyfer pobl ifanc
  • A7 Gwneud yn siŵr bod safonau ac egwyddorion gwaith ieuenctid proffesiynol yn cael eu defnyddio gan weithwyr yn yr holl brosiectau gwasanaeth cymorth ieuenctid

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A8 Ddarparu’r sylfaen polisi ar gyfer ymgorffori gwaith ieuenctid, fel ffordd o weithio gyda phobl ifanc, yn yr holl wasanaethau
  • A9 Egluro’r defnydd o’r derminoleg ‘gwaith ieuenctid’, ‘gwasanaeth ieuenctid’, a ‘gwasanaethau cymorth ieuenctid’ yng Nghymru er mwyn darparu iaith a ddeellir yn gyffredinol ar gyfer datblygu a chyflawni polisi
  • A10 Sefydlu ffyrdd o ddwyn awdurdodau lleol a’u partneriaid i gyfrif am ansawdd, ystod a’r mathau o wasanaethau cymorth ieuenctid a ddarparant yn eu hardal
  • A11 Cynnwys cymhwyster, hyfforddiant a datblygiad parhaus gweithwyr ieuenctid yn Strategaeth Gwaith Ieuenctid Genedlaethol Cymru

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • A1 Gynnwys pob rhanddeiliad mewn datblygu gweledigaeth glir ar gyfer y Fframwaith
  • A2 Penodi arweinydd digidol, sicrhau cefnogaeth lwyr uwch arweinwyr a monitro datblygiadau’n rheolaidd
  • A3 Archwilio anghenion dysgu proffesiynol athrawon a defnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio hyfforddiant, cymorth ac arweiniad dros gyfnod realistig
  • A4 Mapio’r Fframwaith ar draws y cwricwlwm a sicrhau nad oes bylchau yn y ddarpariaeth a bod digon o barhad a dilyniant
  • A5 Cynnal archwiliadau caledwedd a seilwaith y rhwydwaith
  • A6 Sicrhau bod staff yn cydweithredu â staff eraill i rannu arfer dda

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A7 Gynorthwyo pob ysgol i fynd i’r afael â’r argymhellion uchod
  • A8 Monitro pa mor dda mae ysgolion unigol yn dod yn eu blaen â gwireddu’r Fframwaith a herio cynnydd cyfyngedig

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A9 Gyfleu’r disgwyliadau ar gyfer ymgorffori’r Fframwaith, gan gynnwys amserlenni, i ysgolion yn glir
  • A10 Sicrhau bod cyrsiau addysg gychwynnol athrawon yn rhoi i athrawon newydd y medrau angenrheidiol i wireddu’r Fframwaith yn llwyddiannus
  • A11 Gwella’r adnodd archwilio fel ei fod yn bodloni anghenion ysgolion yn well wrth iddynt asesu hyder athrawon i gyflwyno’r Fframwaith

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2017-2018. Mae’r adroddiad yn arfarnu safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth mewn addysg grefyddol yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3. Nid yw’n cwmpasu addysg grefyddol mewn ysgolion enwadol, annibynnol nac arbennig.

Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu safonau mewn addysg grefyddol yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3, a chyfranogiad mewn dysgu ac ymgysylltiad ag ef. Mae hefyd yn ystyried y ffactorau sy’n effeithio ar safonau, gan gynnwys cynllunio’r cwricwlwm, addysgu, asesu, arweinyddiaeth a gwella ansawdd.

Mae’r adroddiad wedi’i fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, penaethiaid a staff mewn ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, ac aelodau o’r Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol (CYSAGau)1. Bydd canfyddiadau’r adroddiad yn helpu llywio datblygu a gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru hefyd.

Argymhellion

Dylai ysgolion:
A1 Sicrhau bod disgyblion mwy abl yn cyflawni yn unol â’u gallu mewn addysg grefyddol
A2 Cryfhau trefniadau monitro a hunanarfarnu yng nghyfnod allweddol 2 i ganolbwyntio ar wella safonau a medrau disgyblion mewn addysg grefyddol
A3 Cryfhau trefniadau pontio fel bod profiadau dysgu yng nghyfnod allweddol 3 yn adeiladu ar y rheiny yng nghyfnod allweddol 2 ac yn osgoi ailadrodd gwaith
A4 Arfarnu eu cwricwlwm ar gyfer addysg grefyddol i baratoi ar gyfer datblygu a gweithredu Maes Dysgu a Phrofiad newydd y Dyniaethau

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
A5 Weithio gyda CYSAGau i ddarparu:
a. cyfleoedd dysgu proffesiynol addas ar gyfer athrawon addysg grefyddol
b. cymorth i ysgolion arfarnu eu cwricwlwm a chynllunio ar gyfer addysg grefyddol fel rhan annatod o ddatblygu maes dysgu a phrofiad y dyniaethau
c. cyngor i ysgolion ar sut i fynd i’r afael â materion sensitif gyda disgyblion a sut i ddelio â phryderon rhieni ar ymweld â mannau addoli
A6 Sicrhau bod pob arweinydd yn cyflawni ei gyfrifoldebau o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015
A7 Rhoi arweiniad i ysgolion ar leoedd addoli cymeradwy i ymweld â nhw
Dylai Llywodraeth Cymru:
A8 Weithio gydag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a CYSAGau i sicrhau bod eglurder ynglŷn â lle addysg grefyddol o fewn Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad wedi’i anelu at Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Bydd canfyddiadau’r adroddiad a’r astudiaethau gofal cysylltiedig hefyd o ddiddordeb i benaethiaid a staff mewn ysgolion cynradd pan fyddant yn myfyrio ar eu darpariaeth bresennol o ran y cwricwlwm ac yn cynllunio ar gyfer newidiadau i’r cwricwlwm. Bydd pedwar cam datblygu’r cwricwlwm o ddiddordeb i benaethiaid a staff mewn sectorau ysgol eraill.
 
Mae’r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth o sampl o ysgolion cynradd yr ymwelwyd â nhw rhwng Ionawr a Gorffennaf 2017. Bu arolygwyr yn ystyried sut mae’r ysgolion yn addasu eu cwricwlwm yng ngoleuni diwygiadau presennol i’r cwricwlwm ac addysg. Mae’n darparu trosolwg o’r modd y mae ysgolion cynradd yn arfarnu, cynllunio, cyflwyno, monitro a mireinio eu cwricwlwm a’u dulliau addysgu ar hyn o bryd.
 
Mae’r adroddiad yn cysylltu â 20 o astudiaethau achos o ysgolion cynradd unigol ledled Cymru.
  • Sut mae ysgolion yn arfarnu eu cwricwlwm i bennu beth sydd angen ei newid i gyflawni Cwricwlwm newydd i Gymru?
  • Sut mae ysgolion yn ymateb i ganlyniadau arfarnu i gynllunio a datblygu cwricwlwm sy’n ddifyr a deniadol, un sy’n datblygu gallu a brwdfrydedd i gymhwyso gwybodaeth a medrau yn annibynnol?
  • Sut mae arweinwyr yn monitro newid ac yn mynd â’u gwaith i’r cam nesaf?

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Cwestiynau i ysgolion eu hystyried fel rhan o’u hunanarfarniad

Fel man cychwyn ar gyfer adolygu arfer bresennol mewn Cymraeg, gall ysgolion ddefnyddio’r cwestiynau canlynol fel rhan o’u hunanarfarniad

Safonau

 
1. A yw disgyblion yn gwneud y cynnydd gorau posib yn y Gymraeg?
2. A yw cyrhaeddiad disgyblion yn y Gymraeg yn cymharu’n ffafriol â chyrhaeddiad y rheini mewn ysgolion tebyg?
3. A yw disgyblion yn parhau i ddatblygu eu medrau iaith Gymraeg wrth drosglwyddo rhwng y cyfnodau allweddol gwahanol?
4. A yw disgyblion yn arddangos agweddau cadarnhaol a mwynhad wrth ddysgu Cymraeg?

Darpariaeth

5. A yw trefniadaeth y cwricwlwm a’r dyraniad amser yn galluogi disgyblion i wneud cynnydd da a chynnal hwnnw yn y Gymraeg?
6. A ydym yn cynllunio’r gweithgareddau dysgu fel eu bod yn atgyfnerthu medrau iaith y disgyblion?
7. Beth yw ansawdd yr addysgu? A ydym yn rhoi digon o bwyslais ar lafaredd? A yw’n hathrawon yn fodelau iaith da?
8. A oes parhad rhwng cyfnodau allweddol ac ar draws cyfnodau allweddol o ran profiadau disgyblion yn y Gymraeg?
9. A yw’r disgyblion yn cael cyfleoedd digonol i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg mewn ystod o sefyllfaoedd y tu allan i wersi Cymraeg?

Arweinyddiaeth

10. A yw ethos yr ysgol yn hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru ac agweddau cadarnhaol tuag atynt yn ddigon da?
11. A oes gennym ddarlun cywir o’r hyn y mae angen ei wneud i wella deilliannau a darpariaeth yn Gymraeg?
12. A oes digon o staff sy’n gallu dysgu Cymraeg yn effeithiol? A yw’n hathrawon yn gymwys i addysgu Cymraeg?
13. A ydym yn darparu cymorth / dysgu proffesiynol o ansawdd da ar gyfer athrawon Cymraeg anarbenigol a staff eraill yn yr ysgol?
14. A ydym yn gweithio’n dda mewn partneriaeth â darparwyr eraill?
15. Beth yw ansawdd y cydweithio rhwng ysgolion cynradd a grwpiau cyn-ysgol a rhwng ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd partner i sicrhau cysondeb, parhad a dilyniant o ran y medrau Cymraeg?
16. A ydym yn manteisio ar y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan gyrff a mudiadau eraill?
 

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet i Estyn ar gyfer 2017-2018.
 
Mae’r adroddiad wedi’i fwriadu ar gyfer Llywodraeth Cymru, penaethiaid a staff mewn ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Gallai fod o ddiddordeb i ysgolion sy’n ceisio adolygu’r ffordd y maent yn cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni i gael gwared ar rwystrau rhag addysg.

Argymhellion

 
Dylai ysgolion:

A1 Ymgynghori â rhieni ynglŷn â’u hanghenion cyfathrebu ac ymgysylltu, ac adolygu eu dulliau yn unol â hynny i wella cyfathrebu dwy ffordd

 
A2 Gwella eu sianeli cyfathrebu er mwyn ymgysylltu â’r holl rieni a gwarcheidwaid, yn arbennig tadau
 
A3 Sicrhau bod adroddiadau a nosweithiau rhieni yn canolbwyntio ar gryfderau penodol plentyn a’i feysydd i’w datblygu
 
A4 Ei gwneud yn glir sut gellir cysylltu â staff a rhiant-lywodraethwyr, a rhoi prosesau buddiol a chlir ar waith ar gyfer delio â chyfathrebu â rhieni
 
A5 Ymgynghori ar brotocolau a’u rhoi ar waith ar gyfer rhieni, disgyblion a staff ar ddefnyddio sianeli cyfathrebu digidol, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol
 
A6 Chwilio am ffyrdd o sicrhau eu bod yn rhoi ystyriaeth dda i safbwyntiau ystod lawn y rhieni sy’n ffurfio cymysgedd economaidd gymdeithasol yr ysgol mewn hunanarfarnu ac ymarferion ymgynghori eraill
 
A7 Arfarnu dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni ar gyfer cynllunio gwelliant, i sicrhau eu bod yn cael effaith ar safonau disgyblion
 
Dylai awdurdodau lleol:
A8 Ddarparu cymorth ar gyfer ysgolion i ddatblygu eu strategaethau ymgysylltu â rhieni, gan gynnwys defnyddio sianeli cyfathrebu electronig yn ddiogel ac effeithiol, yn enwedig cyfryngau cymdeithasol
 
Dylai Llywodraeth Cymru:

A9 Roi rhagor o arweiniad i ysgolion ar sut i sicrhau bod llywodraethwyr yn cynrychioli ac ymgysylltu â rhieni yn effeithiol

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion, colegau addysg bellach, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol wella cyrhaeddiad dysgwyr sy’n agored i niwed fel ei fod yn cyd-fynd yn fwy â’u cyfoedion, trwy:

  • A1 Olrhain a monitro cyflawniadau dysgwyr sy’n agored i niwed yn agosach, a dadansoddi data ar grwpiau o ddysgwyr sy’n agored i niwed yn well
  • A2 Gwella eu presenoldeb a sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar gymorth targedig
  • A3 Arfarnu’r cwricwlwm i ystyried i ba raddau y mae’n bodloni anghenion dysgwyr sy’n agored i niwed ac yn cynnig cyfleoedd iddynt ennill cymwysterau priodol