Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion uwchradd, colegau ac UCDau:
- A1 Sicrhau bod ganddynt weithdrefnau cadarn i nodi pa rai o’u disgyblion/dysgwyr sydd â rôl ofalu
- A2 Cael aelod o staff enwebedig sydd â chyfrifoldeb arweiniol am ofalwyr ifanc, sy’n gweithredu fel unigolyn cyswllt ar gyfer gofalwyr ifanc, ac yn hyrwyddo eu hanghenion
- A3 Codi ymwybyddiaeth staff am anghenion gofalwyr ifanc
- A4 Ymgysylltu â gwasanaethau arbenigol i adolygu a gwella eu darpariaeth i ddiwallu anghenion gofalwyr ifanc
- A5 Olrhain a monitro cynnydd a deilliannau ar gyfer gofalwyr ifanc, yn unol â’r drefn ar gyfer grwpiau eraill o ddysgwyr sy’n agored i niwed
- A6 Gwerthuso eu darpariaeth ar gyfer gofalwyr ifanc gan gyfeirio at y rhestr wirio yn Atodiad 1 neu becynnau cymorth sydd ar gael.
Dylai awdurdodau lleol:
- A7 Ganolbwyntio strategaethau gofalwyr ar gynyddu capasiti ysgolion, colegau ac UCDau i nodi a diwallu anghenion gofalwyr ifanc
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A8 Lunio data dibynadwy a gesglir yn genedlaethol i helpu nodi gofalwyr ifanc