Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer ymgeiswyr am swydd Hydref 2024
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn ar gyfer ymgeiswyr yn amlinellu’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol, ynghyd â manylion am sut a phryd rydym ni’n ei chasglu a sut rydym ni’n ei defnyddio.
Hefyd, mae’n amlinellu gwybodaeth am ba hawliau sydd gan unigolion yn gysylltiedig â’u gwybodaeth bersonol o dan gyfraith diogelu data a beth i’w wneud os oes ganddynt adborth neu gŵyn. Hefyd, rydym yn darparu manylion am sut y gallant gysylltu â ni neu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am ragor o wybodaeth.