Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer staff Estyn Hydref 2024 - Estyn

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer staff Estyn Hydref 2024


Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn ar gyfer staff yn amlinellu’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol,ynghyd â manylion am sut a phryd rydym ni’n ei chasglu a sut rydym ni’n ei defnyddio.

Hefyd, mae’n amlinellu gwybodaeth am ba hawliau sydd gan unigolion yn gysylltiedig â’u gwybodaeth bersonol o dan gyfraith diogelu data a beth i’w wneud os oes ganddynt adborth neu gŵyn. Hefyd, rydym yn darparu manylion am sut y gallant gysylltu â ni neu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am ragor o wybodaeth.