Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer arolygwyr allanol Hydref 2024
Croeso i hysbysiad preifatrwydd Estyn ar gyfer arolygwyr allanol. Rydym yn ymrwymo i amddiffyn preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol.
Estyn yw arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru. Wrth gyflawni ein rôl fel arolygiaeth, rydym yn casglu ac yn cael gwybodaeth bersonol am unigolion; hefyd, rydym yn casglu ac yn cael gwybodaeth bersonol am ymwelwyr â’n gwefan neu bobl sy’n anfon ymholiadau atom ni neu’n cysylltu â ni am wybodaeth.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn amlinellu’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol, ynghyd â manylion am sut a phryd rydym ni’n ei chasglu a sut rydym ni’n ei defnyddio.