Hygyrchedd


Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.estyn.llyw.cymru

Estyn sy’n cynnal y wefan hon. Rydym ni eisiau cynifer o bobl â phosibl i allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo mewn i hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar ochrau’r sgrin
  • symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Hefyd, rydym wedi gwneud i destun y wefan fod mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae hygyrchedd ar y wefan hon yn cael ei arwain gan safonau’r llywodraeth a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG). Derbynnir WCAG yn eang fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.

Os ydych yn cael unrhyw broblem hygyrchedd ar y wefan hon neu os oes gennych unrhyw sylwadau, cysylltwch â ni.

Adborth a gwybodaeth cysylltu

Os bydd angen gwybodaeth arnoch o’r gwefannau hyn mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu Braille, cysylltwch â ni yn y lle cyntaf a byddwn yn trosglwyddo’ch cais i’r tîm perthnasol. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 10 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Estyn wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon wedi’i phrofi yn unol â fersiwn 2.2 safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.

Rydym yn gweithio’n gyson ar wella hygyrchedd y wefan a diweddaru’r integreiddio gyda’r offer diweddaraf.

Cynnwys anhygyrch

Mae unrhyw eithriadau cynnwys anhygyrch wedi’u rhestru isod gydag esboniad. Cysylltwch â ni gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am y canfyddiadau hyn.

Rydym yn ymwybodol o ddogfennau PDF hanesyddol nad ydynt o bosibl yn gwbl hygyrch. Mae’r rhain yn cael eu diweddaru cyn gynted â phosibl.
Rydym yn croesawu adborth yn ymwneud â meddalwedd 3ydd parti nad yw o bosibl wedi’i gynnwys yn y profion gwreiddiol neu sydd wedi’i rhyddhau ar ôl y dyddiad profi diweddaraf.

Baich anghymesur

Gwnaed pob ymdrech i brofi’r wefan ar ystod o offer hygyrchedd a rhaglenni trydydd parti.

Mae’r wefan ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gall fod gwallau ac anghysondebau yn y cyfieithiadau neu wrth ddefnyddio darllenwyr sgrin. Mae’n bosibl na fydd rhai darllenwyr sgrin yn darllen iaith heblaw iaith y darllenwr sgrin. Er enghraifft, gall darllenydd sgrîn Saesneg sy’n ceisio darllen y cynnwys Cymraeg ar y wefan ddychwelyd gwallau.

Os canfyddir nad yw unrhyw offeryn neu raglen yn gweithio’n gywir wrth ddefnyddio’r wefan, cysylltwch â ni gyda’r wybodaeth berthnasol.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gweithio’n gyson i wella hygyrchedd ar y wefan ac am i hygyrchedd fod yn ystyriaeth gydag unrhyw ddatblygiad a wneir ar y wefan. Os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â ni.

Rydym yn parhau i gynnal archwiliadau a phrofion hygyrchedd rheolaidd, yn ogystal ag ymdrechu i sicrhau bod y wefan yn gweithio ar ystod eang o offer a chymwysiadau trydydd parti.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Lefel adolygu: WCAG 2.2 [AA]
Gwiriad gwefan llawn: Mae pob tudalen ac adran wedi’u profi.
Dull adolygu: Cymysgedd o wiriadau â llaw ac awtomataidd.
Dewis tudalennau sampl: Dewiswyd unrhyw dudalennau sampl yn ôl WCAG-EM. Rhoddwyd y ffocws ar y tudalennau a ddefnyddir fwyaf ar y wefan.

Enghraifft o offer gwerthuso a ddefnyddiwyd i gefnogi canfyddiadau:

  • WCAG 2.2 Lefel AA https://app.powermapper.com/ [Cyhoeddwyd: 2007]
  • WCAG 2.2 Lefel AA – webaccessibility.com [Cyhoeddwyd: 2014-Mai-28]
  • Dilyswr Hygyrchedd Cyferbyniad Lliw (a11y.com) [Fersiwn: 5.8, Rhyddhawyd: 2017-Rhag-17]
  • Offeryn Gwerthuso Hygyrchedd Gwe WAVE (webaim.org) [Cyhoeddwyd: 2001]
  • A+ FontSize Changer [Cyhoeddwyd: 2018]
  • High Contract [Fersiwn: 0.9.3, Diweddarwyd 2016]

Cyfeiriadau

Trosolwg o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).
https://www.w3.org/WAI/intro/wcag

Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.1
https://www.w3.org/TR/WCAG21/

Technegau ar gyfer WCAG 2.2
https://www.w3.org/WAI/WCAG22/Techniques/

Adnoddau Gwerthuso Hygyrchedd
http://www.w3.org/WAI/eval/

Rhestr Offer Gwerthuso Hygyrchedd Gwe
https://www.w3.org/WAI/ER/tools/

Defnyddio Arbenigedd Cyfunol i Werthuso Hygyrchedd Gwe
https://www.w3.org/WAI/eval/reviewteams