Gweithio i ni

Share this page

Isod, fe gewch fanylion am ein swyddi cyfredol ar gyfer Arolygwyr Ei Fawrhydi (AEF) a staff gwasanaethau proffesiynol
Diweddarwyd y dudalen hon ar 24/06/2024
Publication date

Swyddog Dilysu Cynllunio Data - (Gradd EO)

Swyddog Dilysu Cynllunio Data - (Gradd EO)

Mae gan ein Swyddogion Cynllunio rôl bwysig mewn creu a diweddaru rhaglen waith Estyn, rheoli data cynllunio yn weithredol, cynllunio arolygu ac aildrefnu staff ac adnoddau arolygu allanol. 

Mae gan ein Swyddogion Cynllunio rôl bwysig mewn creu a diweddaru rhaglen waith Estyn, rheoli data cynllunio yn weithredol, cynllunio arolygu ac aildrefnu staff ac adnoddau arolygu allanol. 

O fewn y tîm, bydd y rôl hon yn cynnwys ffocws penodol ar wella’r cysylltiadau rhwng ein system data cynllunio â’n systemau data eraill (fel ein cronfa ddata Adnoddau Dynol ac apwyntiadau calendr Outlook) i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei rhannu’n effeithlon ac fel mater o drefn. 

Bydd y swyddog hwn yn gweithio’n agos gyda’n Peiriannydd Data i fonitro a gwella ansawdd a chysondeb ein data cynllunio, ynghyd â pharatoi gwybodaeth reoli o’n system.

 

Mae tasgau allweddol yn cynnwys:

  • Trefnu a chynllunio gwaith arolygu craidd a dilynol, gan gynnwys yr holl waith cysylltiedig nad yw’n ymwneud ag arolygu.

  • Rheoli data cynllunio yn weithredol, gan gynnwys rhaglen waith AEF, ac aildrefnu adnoddau i fodloni gofynion sy’n newid.

  • Rhoi cyngor a chymorth i Gyfarwyddwyr Cynorthwyol ar faterion adnoddau arolygu.

  • Defnyddio adnoddau staff, gan gynnwys datrys gwrthdaro o ran adnoddau a bodloni gofynion sy’n newid.

  • Nodi gofynion contractio i gefnogi cyflwyno arolygiadau.

  • Hyfforddi staff mewn defnyddio a datblygu ein system data cynllunio.

  • Nodi gwelliannau i systemau, manylebau a Phrofi Derbynioldeb datblygiadau newydd i’r Defnyddiwr.

  • Datblygu a chymhwyso systemau sicrhau ansawdd.

  • Cefnogi a chyflenwi dros aelodau’r tîm, lle mae angen.

  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel y gallai fod yn rhesymol ofynnol gan reolwyr.

 

Teitl y Swydd: Swyddog Dilysu Data Cynllunio                                                     

Hyd: Parhaol 

Cyflog: £28,245 - £32,141 y flwyddyn (Sylwer y bydd cyflog cychwynnol fel arfer yn cael ei gynnig ar ran isaf y band)

Y Gymraeg: Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd, ac mae llawer o’n rhanddeiliaid yn ddwyieithog. Mae medrau Cymraeg (ysgrifenedig a llafar) yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn.  

Lleoliad: Mae’r rôl wedi’i lleoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd: Llys Angor, Heol Keen, Caerdydd, CF24 5JW

Dyddiad cau:  10am, dydd Iau, 11 Gorffennaf 2024.

Rhaglen Arweinwyr o Leiafrifoedd Ethnig

Ynglŷn â’r rhaglen

Nod ein rhaglen arweinyddiaeth yw helpu dileu rhwystrau rhag dilyniant gyrfa ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, er mwyn i ni allu creu gweithlu addysg mwy cynrychioliadol a chynhwysol yng Nghymru.

 Bydd y rhaglen yn ein helpu i gynyddu amrywiaeth ymhlith ein harolygwyr ac ehangu profiadau ymgeiswyr, gan felly helpu magu profiad i gefnogi dilyniant gyrfa yn y dyfodol. 

Mae’n cefnogi tegwch a chydraddoldeb mewn addysg – yn enwedig hawl dysgwyr i fod yn barod ar gyfer bywyd mewn byd amrywiol, a’u bod yn gallu adnabod eu hunain a’u profiadau yn eu modelau rôl. 

Ar gyfer pwy mae’r rhaglen? 

Nid yw ar gyfer uwch arweinwyr yn unig, mae ar gyfer arweinwyr canol hefyd. Hoffem glywed gan y gweithwyr addysg proffesiynol o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig sy’n gweithio yn y lleoliadau canlynol: 

  • Cynradd 
  • Uwchradd 
  • Colegau addysg bellach 
  • Addysg gychwynnol athrawon 

Ar y rhaglen hon, rydym yn cynnig 4 lle ar gyfer ymgeiswyr o bob un o’r sectorau uchod. Bydd angen i chi fodloni’r meini prawf canlynol: 

  • byddwch yn gweithio mewn ysgol gynradd a gynhelir, ysgol uwchradd neu ysgol bob oed, coleg AB neu ddarparwr addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru ar hyn o bryd; 
  • bydd gennych o leiaf 5 mlynedd o brofiad addysgu; 
  • bydd gennych gyfrifoldeb addysgu, dysgu neu les (am dâl neu heb dâl); 
  • bydd gennych gefnogaeth eich Pennaeth i’ch galluogi i fynychu sesiynau wyneb yn wyneb a gweithgarwch arolygu. 

Beth fydd y rhaglen yn ymdrin ag ef? 

Mae’n gyfle gwych i ddeall mwy am arolygu, datblygu medrau gwerthuso, gweld arfer effeithiol lle mae’n digwydd bob dydd, a mynd â’r profiadau hyn yn ôl i’ch darparwr i gefnogi gwelliant. 

Byddwch: 

  • yn ennill profiad o arolygu a gwerthuso, gan ddatblygu medrau cysylltiedig; 
  • yn mynychu gweithgarwch arolygu neu adolygiadau thematig lle gallwch ddyfnhau eich dealltwriaeth o arweinyddiaeth effeithiol; 
  • yn cwblhau tasgau myfyrio yn gysylltiedig â’ch hyfforddiant a’ch blaenoriaethau datblygu eich hun; 
  • yn cael eich mentora / hyfforddi gan AEF profiadol;  
  • yn mynychu gweithdai ar gyfathrebu ac arweinyddiaeth;  
  • yn derbyn mentora parhaus gan uwch arweinwyr mewn swydd ar hyn o bryd yng Nghymru ar ôl diwedd y rhaglen. 

Sut i wneud cais 

I gael mwy o wybodaeth am y rôl, lawrlwythwch y pecyn cais. 

Gwnewch gais erbyn 5pm ar 22 Gorffennaf 2024.

Swyddi gwag

Cofrestrwch am ddiweddariadau i gael gwybod am gyfleoedd newydd.

Mae Estyn wedi’i achredu yn sefydliad Buddsoddwr mewn Pobl er 1999. Rydym yn cydnabod bod pob unigolyn yn cynnig medrau a phrofiad gwahanol i’n sefydliad, ac rydym yn annog pob un o’r staff i ddatblygu eu doniau. Ar yr un pryd, rydym yn croesawu amrywiaeth ac yn gwerthfawrogi gwahaniaethau.

 

Ymholiadau

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynglŷn â gweithio i ni, cysylltwch â:

Adnoddau Dynol
02920 446336
[email protected]

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynglŷn â hyfforddiant i fod yn Arolygydd Cymheiriaid, Arolygydd Cofrestredig neu Arolygydd Ychwanegol cysylltwch â:

Digwyddiadau
02920 446510
[email protected]


Mae Estyn yn croesawu galwadau ffôn yn y Gymraeg.
 

Y Gwasanaeth Sifil

Trowch at wefan Swyddi’r Gwasanaeth Sifil i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gyrfaol yn y Gwasanaeth Sifil.   

Manteision gweithio i ni
 

pptx, 59.54 KB

pdf, 268.81 KB

Graddfeydd cyflog

Rhan o Gweithio i ni