Gweithio i ni

Gweithio i Estyn
Rydym yn cyflogi Arolygwyr Ei Fawrhydi ac yn contractio ystod o arolygwyr eraill â medrau a phrofiad penodol i gyflawni ein harolygiadau trwy gydol y flwyddyn.
Rydym hefyd yn recriwtio ar gyfer amryw rolau proffesiynol yn ein tîm gwasanaethau canolog sy’n cwmpasu ystod o swyddogaethau craidd fel adnoddau dynol, TG, cyfathrebiadau a digwyddiadau, cydlynu arolygiadau, ysgrifenyddiaeth, gwasanaethau swyddfa, ymchwil a chynllunio.

Swyddi gwag
Rydym yn recriwtio Arolygwyr Ei Fawrhydi (AEF) bob blwyddyn, fel arfer ym mis Rhagfyr.
Yn ogystal â hyn, rydym yn recriwtio ar gyfer swyddi amrywiol o fewn ein tîm gwasanaethau canolog wrth i angen busnes godi.
Edrychwch yn ôl ar y dudalen hon i gael diweddariadau neu gofrestru i gael rhybudd pan fydd ein hymgyrch recriwtio nesaf yn fyw.
Dod yn arolygydd
Rydym yn hyfforddi pobl sy'n gweithio ym maes addysg a hyfforddiant ar hyn o bryd a'r rhai sydd â phrofiad diweddar yn rheolaidd.

Ymholiadau
Adnoddau Dynol
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am weithio i ni:
Digwyddiadau
Ar gyfer ymholiadau am hyfforddiant i ddod yn Arolygydd Cymheiriaid, Arolygydd Cofrestredig neu Arolygydd Ychwanegol: