Gweithio i Estyn - Estyn

Gweithio i Estyn


Yn Estyn, rydym yn cydnabod mai ein pobl yw ein hadnodd mwyaf gwerthfawr.

Fel sefydliad sy’n cael ei osod ymhlith sefydliadau gorau’r Gwasanaeth Sifil yn gyson yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil, ac fel sefydliad Buddsoddwr Mewn Pobl (Aur), gwyddom fod ein pobl
yn hynod ymroddedig i’n gwaith.

Trwy ddewis gweithio i ni, byddwch yn rhan o sefydliad sy’n cynnig profiad unigryw i’r gweithiwr, yn cynnwys:

  • Balchder wrth gefnogi ein cenhadaeth, sef cynnig atebolrwydd i’r cyhoedd am ansawdd a
    safonau darpariaeth addysg a hyfforddiant
  • Cyfleoedd i lywio datblygiad polisïau cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru
  • Boddhad eich bod yn helpu i feithrin gallu i wella’r system addysg a hyfforddiant yng
    Nghymru

Bydd Estyn yn cynnig:

  • Arweinyddiaeth a gwerthoedd cadarn
  • Cyfathrebu agored ac ymrwymiad i welliant parhaus
  • Buddsoddiad sylweddol yn eich datblygiad personol a phroffesiynol