Gweithdrefn ar gyfer delio â chwynion
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid. Rydym yn ystyried adborth a chwynion o ddifri ac yn defnyddio’r wybodaeth y maent yn ei darparu i’n helpu i wella’r gwasanaethau yr ydym yn eu cyflwyno i chi.
Os oes rhywbeth wedi mynd o’i le neu os ydych yn anhapus ynglŷn â’n gwaith, rydym am i chi ddweud wrthym ni am hynny. Mae’r canllaw hwn yn sôn wrthych am ein gweithdrefn ar gyfer delio â chwynion a’r hyn y gallwch ei wneud os oes gennych gŵyn. Mae hefyd yn dweud wrthych am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym.