Gweithio ar y cyd yng Nghymru a thu hwnt


Mae cydweithio yn y modd hwn hefyd yn datblygu ein hymagweddau ein hunain at arolygu a gwaith thematig, yn cefnogi ein cyngor i Lywodraeth Cymru ac yn cefnogi’r gwaith o weithredu polisi’r llywodraeth. Rydym yn cydweithio ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Archwilio Cymru. Gyda’n gilydd, ni yw Arolygu Cymru, sef menter ar y cyd rhwng y pedwar prif gorff arolygu, archwilio ac adolygu yng Nghymru.

Rydym yn arolygu darpariaeth addysg a hyfforddiant yn y sector cyfiawnder trwy gydweithio ag:

  • AGC, yn achos cartrefi plant diogel
  • Arolygiaeth Carchardai EF, yn achos carchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc
  • Arolygiaeth Prawf EF, yn achos Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid.

Rydym hefyd yn arolygu darpariaeth i ddysgwyr yn Lloegr sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n mynychu colegau arbennig annibynnol, cyrsiau dysgu yn y gwaith a darpariaeth i bobl ifanc mewn timau troseddau ieuenctid. 

Fel rhan o’n hymrwymiad i gefnogi gwelliant trwy weithio ar y cyd â’n cymheiriaid yn rhyngwladol, rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd ag Arolygiaethau’r DU ac Iwerddon ac arolygwyr addysg genedlaethol a rhanbarthol yn Ewrop sy’n aelodau o’r Gynhadledd Ryngwladol Sefydlog Arolygiaethau (SICI). Rydym yn elwa ar y gallu i ddysgu gan arolygiaethau eraill a’u prosesau, yn ogystal ag o’r cyfle i rannu a thrafod arfer â’n cymheiriaid ac ymgymryd â phrosiectau ar y cyd mewn amgylchedd sy’n rhydd rhag pwysau domestig neu wleidyddol.