Beth yw Bwrdd Lleol Diogelu Plant (BLlDP)?

Yn dilyn ymchwiliad yr Arglwydd Laming i farwolaeth Victoria Climbie, fe’i gwnaed yn ofynnol gan Ddeddf Plant 2004 i bob Awdurdod Lleol ledled Cymru a Lloegr sefydlu Bwrdd Lleol Diogelu Plant (BLlDP). Tasg pob BLlDP yw diogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc yn eu hardal.

Mae cwmpas y dasg ddiogelu ar gyfer BLlDPau yn ehangach na chylch gwaith amddiffyn plant y Pwyllgorau Ardal Amddiffyn Plant blaenorol. Nodir tri maes gweithgarwch bras:

  • gweithgarwch sy’n anelu at nodi ac atal camdriniaeth neu niwed i iechyd a datblygiad
  • gwaith rhagweithiol, sy’n targedu grwpiau penodol o blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed
  • gwaith ymatebol i amddiffyn plant sy’n dioddef, neu mewn perygl o ddioddef niwed

Busnes craidd y BLlDP yw sicrhau bod atebolrwydd ar y cyd am y plant a’r bobl ifanc hynny sy’n destun prosesau amddiffyn plant o dan Adran 47 Deddf Plant 1989.

Rhaid i BLlDPau hefyd ddiogelu a hyrwyddo lles plant sy’n dod y tu allan i’r grŵp hwn y dangoswyd bod gormod o gynrychiolaeth ohonynt ledled y DU mewn achosion sy’n arwain at Adolygiad Achos Difrifol.

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 1 Mai 2014.

Mae Adran 135 yn sefydlu’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol a’i ddyletswyddau yw darparu cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol. Byddant hefyd yn adrodd ar ba mor ddigonol ac effeithiol yw trefniadau i ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru, ac yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynglŷn â sut y gellid gwella’r trefniadau hynny.

Mae Adran 134 yn amlinellu gofynion am i Fyrddau Diogelu gael eu sefydlu mewn ardaloedd ledled Cymru. Nid yw’r Ddeddf yn diffinio’r ardaloedd hyn. Mae’r Ddeddf yn sefydlu Byrddau Diogelu Plant a Byrddau Diogelu Oedolion. Mewn rhai ardaloedd, gallai’r rhain ymuno’n un Bwrdd Diogelu.

Mae Adran 126 yn diffinio oedolyn sy’n wynebu risg fel unrhyw un 18 oed neu hŷn:

  • sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso
  • y mae arno anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod lleol yn diwallu’r rhain ai peidio)
  • nad yw’n gallu amddiffyn ei hun rhag cael, neu’r risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, o ganlyniad i’r anghenion hyn

Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014