Estyn yn Fyw: Pontio a Chynnydd Disgyblion

Dyddiad: 15:45, 29 Ionawr 2025
Ymunwch â ni’n fyw arlein ar 29 Ionawr 2025 am drafodaeth ynglŷn ag arfer effeithiol a chanfyddiadau allweddol o’n hadroddiad thematig diweddar: Adroddiad Thematig: Pontio a chynnydd disgyblion – Estyn Bydd awdur yr adroddiad, Andrew Thorne AEF yn cael cwmni cynrychiolwyr o Ysgol Llywelyn ac Ysgol Uwchradd Rhyl i rannu eu profiadau. Bydd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau ynglŷn â’r adroddiad, neu’r pwnc yn ehangach.
Cofrestrwch i ymuno: Estyn yn fyw | Estyn Live