Esbonio arolygu (rhieni a gofalwyr)


A group of children in blue uniforms sitting around a table, working on activities. A man in a suit with a name tag is observing them. The classroom is decorated with drawings and educational posters.

Rydym wedi ateb rhai o’ch cwestiynau allweddol isod am y broses o arolygu ag am ganlyniadau arolygiad.


Y broses o arolygu

Pa mor aml y mae ysgolion ac undedau cyfeirio disgyblion (UCDau) yn cael eu harolygu?

Bydd ysgolion a gynhelir ac UCDau yn cael arolygiad craidd ac ymweliad interim yn y cyfnod arolygu 6 blynedd. Bydd yr ymweliad interim hwn yn cael ei arwain gan AEF bob tro.

Beth gall dysgwyr ei ddisgwyl yn ystod arolygiad?

Mae safbwyntiau a phrofiadau dysgwyr yn chwarae rhan bwysig yn ein proses arolygu. Mae ein timau arolygu’n treulio amser yn siarad â staff a dysgwyr mewn ystafelloedd dosbarth, neuaddau cinio, ar y buarth ac o amgylch y safle i ddarganfod beth mae dysgwyr yn ei feddwl a’i deimlo am eu lleoliad addysg a’u profiad dysgu.

Cyn i’r arolygwyr gyrraedd, mae cyfle i ddysgwyr rhoi adborth trwy holiadur ar-lein ac, yn yr un modd, caiff rhieni a gofalwyr eu gwahodd i rannu eu safbwyntiau trwy holiadur a thrwy gyfarfod rhieni wyneb-yn-wyneb ag arolygwyr.  

Pa feini prawf sy’n cael eu ddefnyddio yn ystod arolygiad?

Yn ystod arolygiad, rydym yn edrych ar 3 prif faes: addysgu a dysgu; lles, gofal, cymorth ac arweiniad; arwain a gwella

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng arolygiad craidd ac ymweliad interim?

Nid yw ymweliadau interim wedi’u bwriadu i ddod i gasgliadau cyffredinol am effeithiolrwydd yr ysgol, ond byddant yn cynorthwyo arweinwyr i adolygu cynnydd ers yr arolygiad craidd diwethaf ac ystyried eu camau nesaf ar gyfer gwella. 


Canlyniadau arolygiad

Sut mae canlyniadau’n cael eu rannu gyda rhieni a gofalwyr?

Cyhoeddir ein hadroddiadau arolygu ar ein gwefan 45 niwrnod ar ôl i’r arolygiad ddechrau. Mae hyn yn rhoi trosolwg o ganfyddiadau’r tîm arolygu ac yn amlygu cryfderau yn ogystal â meysydd i’w gwella. Nid ydym yn rhoi graddau crynodol cyffredinol fel ‘Rhagorol’, ‘Da’, ‘Digonol’ neu ‘Anfoddhaol’ mwyach, ond mae ein hadroddiadau’n cynnwys crynodeb o ganfyddiadau allweddol. Rydym hefyd yn cyhoeddi adroddiad mwy cryno yn benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr ochr yn ochr â’r adroddiad arolygu llawn.

 Ar ôl ymweliad interim, byddwn yn rhoi adborth i’r pennaeth ac yn cyhoeddi llythyr byr ar ein gwefan yn crynhoi deilliannau’r ymweliad ac yn rhoi rhywfaint o adborth i helpu â’r camau nesaf yn y broses wella.

Beth sydd yn digwydd os yw ysgol neu UCD angen gweithgarwch dilynol?

Yn ystod arolygiadau craidd, bydd y tîm arolygu yn ystyried a oes angen unrhyw weithgarwch dilynol ar yr ysgol neu’r UCD. Mae dau fath o weithgarwch dilynol:

  1. Mesurau arbennig
  2. Gwelliant sylweddol

Mae mesurau arbennig a gwelliant sylweddol yn gofyn am weithgarwch monitro gan arolygwyr Estyn, a fydd yn ymweld â’r ysgol neu’r UCD i arfarnu’r cynnydd. Ar hyn o bryd nid ydym yn cyhoeddi manylion gweithgareddau monitro interim yn ystod gweithgarwch dilynol. Mae hyn oherwydd bod natur yr ymweliadau hyn yn ddatblygiadol. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad unwaith y bydd ysgol neu UCD allan o weithgarwch dilynol, neu os byddant yn symud o un gweithgaredd dilynol i’r llall.

Mae gan sectorau eraill drefniadau dilynol gwahanol i ysgolion a gynhelir ac UCDau. Gall y rhain gynnwys monitro dilynol statudol ac anstatudol.