Esbonio arolygu

Mae Estyn yn cynnal arolygiadau gyda’r nod o wella ansawdd addysg a hyfforddiant i bob dysgwr yng Nghymru.
Mae gennym ddull newydd o arolygu ledled Cymru a bydd ein hadroddiadau yn manylu ar ba mor dda y mae darparwyr yn helpu dysgwyr i ddysgu.
Dysgwch fwy am arolygu yn ein hadrannau isod.

Beth yw pwrpas arolygu?
Dyma’r prif resymau dros arolygu.
- Er mwyn gwerthuso ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant
- Er mwyn nodi cryfderau a meysydd i wella
- Er mwyn cefnogi darparwyr ar eu taith tuag at ragoriaeth
- Er mwyn hysbysu rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach am ansawdd yr addysg a ddarperir
Beth yw cyfnodau allweddol yr arolwg?
Mae 6 chyfnod allweddol o arolygu, darllenwch amdanynt yma.
Ein meddylfryd
Dysgwch fwy am ein meddylfryd a’n hegwyddorion arolygu.
Cwestiynau cyffredin
Darllenwch ein casgliad o gwestiynau cyffredin am bob sector.
Beth a Sut rydym ni’n Arolygu
Isod gallwch ddarganfod ein llawlyfrau arweiniad diweddaraf “Sut rydym yn arolygu” a “Beth rydym yn ei arolygu” ar gyfer pob sector wrth baratoi ar gyfer ein trefniadau arolygu newydd a fydd ar waith o fis Medi 2024.
Rhagor o adnoddau
Mae gennym ystod o adnoddau i gefnogi’r rhai sy’n gweithio ym myd addysg i godi safonau i ddysgwyr. Isod mae canllaw cyflym i’n hadnoddau gwella.