Esbonio adnoddau gwella

Pa adnoddau sydd ar gael?
Mae gennym ystod o adnoddau i gefnogi’r rhai sy’n gweithio ym myd addysg i godi safonau i ddysgwyr.
Pan yn chwilio, gallwch hidlo yn ôl sector, awdurdod lleol, tagiau, math o adnodd a blwyddyn.
Isod mae canllaw cyflym i’n hadnoddau gwella.

Arfer effeithiol
Pan welwn arfer ddiddorol ac arloesol yn ystod arolygiad, rydym bob amser yn awyddus i’w rhannu.
Rydym yn gwahodd ysgolion a darparwyr eraill i ysgrifennu astudiaethau achos pan fyddwn yn meddwl bod ganddynt rywbeth pwysig i’w rannu.
Adroddiadau thematig
Bob blwyddyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gofyn i’n Prif Arolygydd am gyngor ar ystod o themâu mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant
Mae ein hadroddiadau thematig yn helpu i lywio datblygiad polisi ac i fonitro cynnydd.
I gael mynediad at adroddiadau thematig sydd wedi’u cyhoeddi cyn 2016, cysylltwch â .
Adroddiadau blynyddol
Bob blwyddyn, byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol sy’n llawn adnoddau defnyddiol, adroddiadau thematig, a myfyrdod ar ein sectorau yng Nghymru.
Canllawiau atodol
Caiff ein gweithgarwch arolygu ei arwain gan y llawlyfrau arolygu ar gyfer pob sector. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cynhyrchu canllawiau atodol i helpu i ystyried agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant ymhellach.
Gallai canllawiau atodol fod yn ddefnyddiol i arolygwyr a darparwyr gefnogi myfyrdodau/ymchwiliadau i themâu penodol neu feysydd ffocws sy’n codi yn ystod arolygiad neu gyflwyno o ddydd i ddydd.