Ein Hymagwedd – Ysgolion arbennig a gynhelir


A teacher helps a young boy with Down syndrome use a tablet in a classroom."

Rydym yn ymweld â phob ysgol arbennig a gynhelir yng Nghymru o leiaf ddwywaith yn ystod cylch arolygu chwe blynedd. O fis Medi 2024, byddwn yn cynnal arolygiad craidd ac ymweliad interim byrrach ym mhob ysgol.

Mae rhagor o fanylion yn ein hadnoddau arweiniad arolygu isod.

Mae’r animeiddiad isod yn amlinellu ein proses arolygu.

Ar ôl pob arolygiad neu ymweliad interim, rydym yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar ein gwefan. Nid ydym yn cynnwys graddau crynodol o fewn yr adroddiadau hyn mwyach, ond yn canolbwyntio yn hytrach ar gryfderau a meysydd i’w gwella.

Os ydych chi’n rhan o ffederasiwn, byddwch yn cael arolygiad yn unol â threfniadau ar gyfer y sector ysgolion arbennig a gynhelir. Mae hyn yn golygu y bydd eich arolygiadau’n cael eu cynnal ar yr un pryd. 

Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol PAEF. Mae hwn yn cynnwys crynodeb o’n canfyddiadau arolygu, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer effeithiol a meysydd i’w datblygu o fewn y sector.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystod o adroddiadau ac offer i gefnogi datblygiad yn y sector.