Ein Hymagwedd: Ysgolion annibynnol
Byddwn yn ymweld â phob ysgol annibynnol yng Nghymru o leiaf ddwywaith yn ystod cylch arolygu chwe blynedd. O fis Medi 2024, byddwn yn cynnal arolygiad craidd ac arolygiad monitro ym mhob ysgol.
Bydd pob arolygiad hefyd yn gwerthuso cydymffurfiad â Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2024.
Rydym yn cynnig cyngor Llywodraeth Cymru yn ymwneud â cheisiadau ar gyfer cofrestriadau ysgol newydd neu newidiadau sylweddol i gofrestriadau o fewn y sector.
Ar ôl pob arolygiad, rydym yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar ein gwefan. Nid ydym yn cynnwys graddau crynodol o fewn yr adroddiadau hyn mwyach, ond yn canolbwyntio yn hytrach ar gryfderau a meysydd i’w gwella.
Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol PAEF. Mae hwn yn cynnwys crynodeb o’n canfyddiadau arolygu, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer effeithiol a meysydd i’w datblygu o fewn y sector.
Rydym hefyd yn cyhoeddi ystod o adroddiadau ac offer i gefnogi datblygiad yn y sector.