Ein Hymagwedd: Unedau cyfeirio disgyblion


Two teenage girls studying together at an outdoor picnic table.

Byddwn yn ymweld â phob uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru o leiaf ddwywaith yn ystod cylch arolygu chwe blynedd. O fis Medi 2024, byddwn yn cynnal arolygiad craidd ac ymweliad interim byrrach ym mhob ysgol.  

Mae rhagor o fanylion yn ein hadnoddau arweiniad arolygu isod.

Ar ôl pob arolygiad neu ymweliad interim, rydym yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar ein gwefan. Nid ydym yn cynnwys graddau crynodol o fewn yr adroddiadau hyn mwyach, ond yn canolbwyntio yn hytrach ar gryfderau a meysydd i’w gwella. 

Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol PAEF. Mae hwn yn cynnwys crynodeb o’n canfyddiadau arolygu, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer effeithiol a meysydd i’w datblygu o fewn y sector.  

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystod o adroddiadau ac offer i gefnogi datblygiad yn y sector.