Ein Hymagwedd: Prentisiaethau
Rydym yn arolygu pob darparwr prentisiaethau dysgu yn y gwaith o leiaf unwaith yn ystod cylch arolygu chwe blynedd. Yn ychwanegol, byddwn yn cynnal ymweliadau cyswllt rheolaidd â darparwyr sy’n cynnig cyfle arall i ymgysylltu â ni. Bwriad yr ymweliadau hyn yw cefnogi gwelliant parhaus o fewn y sector.
Mae rhagor o fanylion yn ein hadnoddau arweiniad arolygu isod.
Ar ôl pob arolygiad, rydym yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar ein gwefan. Nid ydym yn cynnwys graddau crynodol o fewn yr adroddiadau hyn mwyach, ond yn canolbwyntio yn hytrach ar gryfderau a meysydd i’w gwella.
Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol PAEF. Mae hwn yn cynnwys crynodeb o’n canfyddiadau arolygu, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer effeithiol a meysydd i’w datblygu o fewn y sector.
Rydym hefyd yn cynnal gweithgarwch arolygu rhaglen cyflogadwyedd ieuenctid Twf Swyddi Cymru+.
Rydym hefyd yn cyhoeddi ystod o adroddiadau ac offer i gefnogi datblygiad yn y sector.