Ein hymagwedd: Pob oed


Two young children playing with shaving foam on a table in a classroom, wearing colorful aprons.

Rydym yn ymweld â phob ysgol bob oed yng Nghymru o leiaf ddwywaith yn ystod cylch arolygu chwe blynedd. Byddwn yn cynnal arolygiad craidd ac ymweliad interim byrrach ym mhob ysgol.

Mae rhagor o fanylion yn ein hadnoddau arweiniad arolygu isod.

Ar ôl pob arolygiad neu ymweliad interim, rydym yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar ein gwefan. Nid ydym yn cynnwys graddau crynodol o fewn yr adroddiadau hyn mwyach, ond yn canolbwyntio yn hytrach ar gryfderau a meysydd i’w gwella.

Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol PAEF. Mae hwn yn cynnwys crynodeb o’n canfyddiadau arolygu, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer effeithiol a meysydd i’w datblygu o fewn y sector.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystod o adroddiadau ac offer i gefnogi datblygiad yn y sector.