Ein Hymagwedd: Meithrinfeydd nas cynhelir - Estyn

Ein Hymagwedd: Meithrinfeydd nas cynhelir


A young boy in a red school jumper playing enthusiastically with a wooden toy train set in a colorful classroom.

Rydym yn arolygu’r holl leoliadau meithrin nad ydynt yn cael eu rheoli gan ysgolion ac sy’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar ran-amser ar gyfer plant tair a phedair oed.

Rydym yn cynnal yr arolygiadau hyn ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac rydym yn eu harolygu o leiaf unwaith yn ystod cylch arolygu chwe blynedd.

Ar ôl pob arolygiad, rydym yn cyhoeddi ein canfyddiadau mewn adroddiad ar y cyd ar ein gwefan.

Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol PAEF. Mae hwn yn cynnwys crynodeb o’n canfyddiadau arolygu, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer effeithiol a meysydd i’w datblygu o fewn y sector.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystod o adroddiadau ac offer i gefnogi datblygiad yn y sector.