Ein Hymagwedd: Dysgu yn y sector cyfiawnder

Rydym yn cyfrannu gwerthusiadau o addysg a hyfforddiant, arolygiadau ar y cyd dan arweiniad Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi, Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn y sector hwn.
Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol PAEF. Mae hwn yn cynnwys crynodeb o’n canfyddiadau arolygu, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer effeithiol a meysydd i’w datblygu o fewn y sector.
Rydym hefyd yn cyhoeddi ystod o adroddiadau ac offer i gefnogi datblygiad yn y sector.