Ein Hymagwedd: Darpariaeth Trochi yn y Gymraeg - Estyn

Ein Hymagwedd: Darpariaeth Trochi yn y Gymraeg


A group of adults sitting around a table, engaged in a discussion during a meeting or study session."

Rydym yn arolygu darpariaeth yr awdurdod lleol ar gyfer trochi yn y Gymraeg o leiaf unwaith yn ystod cylch arolygu chwe blynedd.

Mae rhagor o fanylion yn ein hadnoddau arweiniad arolygu isod.

Ar ôl pob arolygiad, rydym yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar ein gwefan. Nid ydym yn cynnwys graddau crynodol o fewn yr adroddiadau hyn mwyach, ond yn canolbwyntio yn hytrach ar gryfderau a meysydd i’w gwella.

Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol PAEF. Mae hwn yn cynnwys crynodeb o’n canfyddiadau arolygu, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer effeithiol a meysydd i’w datblygu o fewn y sector.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystod o adroddiadau ac offer i gefnogi datblygiad yn y sector.