Ein Hymagwedd: Cynradd


Three students in school uniforms are sitting at desks, working on laptops with headphones on, focusing on their tasks.

Rydym yn ymweld â phob ysgol gynradd yng Nghymru o leiaf ddwywaith yn ystod cylch arolygu chwe blynedd. Rydym yn cynnal arolygiad craidd ac ymweliad interim byrrach ym mhob ysgol.

Mae rhagor o fanylion yn ein hadnoddau arweiniad arolygu isod.

Ar ôl pob arolygiad neu ymweliad interim, rydym yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar ein gwefan. Nid ydym yn cynnwys graddau crynodol o fewn yr adroddiadau hyn mwyach, ond yn canolbwyntio yn hytrach ar gryfderau a meysydd i’w gwella.

Os ydych chi’n rhan o ffederasiwn, byddwch yn cael arolygiad yn unol â threfniadau ar gyfer y sector cynradd. Mae hyn yn golygu y bydd eich arolygiadau’n cael eu cynnal ar yr un pryd.

Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol PAEF. Mae hwn yn cynnwys crynodeb o’n canfyddiadau arolygu, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer effeithiol a meysydd i’w datblygu o fewn y sector.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystod o adroddiadau ac offer i gefnogi datblygiad yn y sector.