Ein Hymagwedd: Cymraeg i Oedolion

Cyflwynir cyrsiau Cymraeg i oedolion gan rwydwaith o ddarparwyr Dysgu Cymraeg ar ran Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Rydym yn arolygu’r ganolfan genedlaethol o leiaf unwaith yn ystod cylch arolygu chwe blynedd, yn ogystal â sampl o ddarparwyr Dysgu Cymraeg. Rydym hefyd yn cynnal arolygiadau blynyddol â thema ac adolygiadau o ddarparwyr Dysgu Cymraeg bob tair blynedd.
Mae rhagor o fanylion yn ein hadnoddau arweiniad arolygu isod.
Ar ôl pob arolygiad, rydym yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar ein gwefan. Nid ydym yn cynnwys graddau crynodol o fewn yr adroddiadau hyn mwyach, ond yn canolbwyntio yn hytrach ar gryfderau a meysydd i’w gwella.
Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol PAEF. Mae hwn yn cynnwys crynodeb o’n canfyddiadau arolygu, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer effeithiol a meysydd i’w datblygu o fewn y sector.
Rydym hefyd yn cyhoeddi ystod o adroddiadau ac offer i gefnogi datblygiad ar draws lleoliadau addysg.