Ein Hymagwedd: Colegau arbenigol annibynnol


A woman assisting a young person with visual impairment as they walk through a modern library.

Rydym yn arolygu pob coleg arbenigol annibynnol o leiaf unwaith yn ystod cylch arolygu chwe blynedd. Yn ychwanegol, byddwn yn cynnal ymweliadau cyswllt rheolaidd â darparwyr sy’n cynnig cyfle arall i ymgysylltu â ni. Bwriad yr ymweliadau hyn yw cefnogi gwelliant parhaus o fewn y sector.   

Mae rhagor o fanylion yn ein hadnoddau arweiniad arolygu isod.

Mae’r animeiddiad isod yn amlinellu ein proses arolygu.

Ar ôl pob arolygiad, rydym yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar ein gwefan. Nid ydym yn cynnwys graddau crynodol o fewn yr adroddiadau hyn mwyach, ond yn canolbwyntio yn hytrach ar gryfderau a meysydd i’w gwella.  

Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol PAEF. Mae hwn yn cynnwys crynodeb o’n canfyddiadau arolygu, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer effeithiol a meysydd i’w datblygu o fewn y sector.  

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystod o adroddiadau ac offer i gefnogi datblygiad yn y sector.