Ein Hymagwedd: Addysg Bellach


Two students sitting at a round table in a computer lab. One is wearing a green sweater, and the other is reading a document while wearing a light brown fleece.

Rydym yn arolygu pob darparwr Addysg Bellach o leiaf unwaith yn ystod cylch arolygu chwe blynedd. Yn ychwanegol, byddwn yn cynnal ymweliadau cyswllt rheolaidd â darparwyr sy’n cynnig cyfle arall i ymgysylltu â ni. Bwriad yr ymweliadau hyn yw cefnogi gwelliant parhaus o fewn y sector.

Ar ôl pob arolygiad, rydym yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar ein gwefan. Nid ydym yn cynnwys graddau crynodol o fewn yr adroddiadau hyn mwyach, ond yn canolbwyntio yn hytrach ar gryfderau a meysydd i’w gwella.

Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol PAEF. Mae hwn yn cynnwys crynodeb o’n canfyddiadau arolygu, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer effeithiol a meysydd i’w datblygu o fewn y sector.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystod o adroddiadau ac offer i gefnogi datblygiad yn y sector.