Ein blaenoriaethau - Estyn

Ein blaenoriaethau


Cenhadaeth a gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw gwella ansawdd addysg a hyfforddiant, a deilliannau i bob dysgwr yng Nghymru.

Ein cenhadaeth yw cynorthwyo darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu diwylliant o hunanwella a dysgu trwy ein cyngor, arolygu a meithrin gallu. 

Amcanion strategol

  • Rydym yn darparu atebolrwydd cyhoeddus i ddefnyddwyr gwasanaeth ar ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru
  • Rydym yn llywio datblygiad polisi cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru
  • Rydym yn meithrin y gallu i wella’r system addysg a hyfforddiant yng Nghymru

Gwerthoedd

  • Rydym yn rhoi dysgwyr wrth wraidd ein gwaith 
  • Rydym yn gwrando, dysgu a chydweithio â phobl eraill 
  • Rydym yn gweithredu’n ddidwyll, yn deg ac ag uniondeb 
  • Rydym yn dangos arweinyddiaeth a gwaith tîm effeithiol 
  • Rydym yn hybu iechyd, lles a chydraddoldeb ym mhopeth a wnawn
  • Rydym yn gwerthfawrogi a pharchu pobl a’u gwaith
  • Rydym yn annog cyfrifoldeb, blaengaredd ac arloesedd

Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid 2020-2023

Darllenwch ein strategaeth ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Darllenwch yma
Grŵp o blant ifanc yn eistedd gyda'i gilydd, yn gwisgo gwisgoedd ysgol coch, gydag un plentyn yn codi ei ddwylo ac yn edrych yn gyffrous.