Dogfennau sydd eu hangen cyn arolygiad mewn lleoliadau ôl-16 - Estyn

Dogfennau sydd eu hangen cyn arolygiad mewn lleoliadau ôl-16


Dogfennau sydd eu hangen cyn arolygiad mewn lleoliadau ôl-16

Mewn arolygiad yn y sector ôl-16, gofynnir i chi lanlwytho’r dogfennau canlynol i’r ystafell arolygu rithwir:

Sector ôl-16

  • Ffurflen Cyswllt Cychwynnol (FfCC)
  • Gwybodaeth am gamau gweithredu i ymateb i argymhellion arolygiad blaenorol
  • Adroddiad Hunanwerthuso (AHA) mewn fformat Word – ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, dylai hyn fod ar gyfer y bartneriaeth. 
  • Cynllun Gwella Ansawdd (CGA) – ar gyfer dysgu yn y gwaith, dylai hyn fod ar gyfer y bartneriaeth
  • Polisi diogelu
  • Polisi Atal
  • AHA Diogelu cyflawn (gan ddefnyddio templed Estyn sydd ar gael yn yr YAR) 
  • Rhestr o wiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd y staff (y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) gyda rhif y gwiriad, y dyddiad cyhoeddi a lefel y gwiriad a gwblhawyd, e.e. estynnir â rhestr wahardd

Bydd angen dogfennau ychwanegol ar gyfer y sectorau a amlinellir isod: 

Dysgu Oedolion yn y Gymuned

  • Trosolwg o strwythur y bartneriaeth yn dangos yr holl bartneriaid cyflwyno.
  • Strwythurau rheoli perthnasol o fewn y bartneriaeth (rolau / cyfrifoldebau)
  • Amserlen ddrafft y cyfarfodydd (rhwng prynhawn dydd Llun a bore dydd Iau ar gyfer y tîm arolygu). Amlygwch unrhyw gyfarfodydd y trefnwyd eu cynnal trwy blatfformau ar-lein, a chynnwys manylion am sut gellir mynd at y rhain 
  • Enwau unigolion cyswllt ansawdd gan brif bartneriaid
  • Brîff iechyd a diogelwch ynghylch unrhyw faterion a allai effeithio ar y tîm arolygu
  • Data perfformiad dysgwyr y bartneriaeth ei hun. (Bydd y tîm arolygu’n defnyddio hyn yn unol â’n harweiniad cyhoeddedig am ddefnyddio data yn ‘Beth rydym yn ei arolygu’)
  • Amserlenni cyrsiau / sesiynau ar gyfer pob un o’r darparwyr yn y bartneriaeth am gyfnod yr arolygiad. Mae angen y wybodaeth hon arnom i gynllunio amserlenni arsylwi i wneud yn siŵr ein bod yn arsylwi cyfran ac amrywiaeth deg o ddarpariaeth. Rydym yn darparu fformat i helpu cyflwyno’r amserlenni mewn ffurf hygyrch 

Addysg Bellach

  • Lleoliadau a mapiau safleoedd coleg
  • Dadansoddiad o niferoedd y dysgwyr, yn cynnwys yn ôl campws, maes dysgu a chwrs 
  • Y data diweddaraf heb ei wirio ar berfformiad coleg
  • Cynlluniau strategol a gweithredol coleg
  • Prosbectws (neu hyperddolen ato ar y we) 
  • Amserlenni cyrsiau a staff (yn ôl campws, lle mae coleg â sawl safle, yn cynnwys ystafelloedd a chyflwyno ar-lein, lle bo’n berthnasol)
  • Amserlen cyfarfodydd ar gyfer pob maes arolygu
  • Strwythur a chyfrifoldebau’r UDRh
  • Strwythur a chyfrifoldebau meysydd dysgu
  • Dogfennau a chynlluniau polisi perthnasol
  • Cynlluniau Datblygu Adrannau (fel y bo’n berthnasol)

Prentisiaethau dysgu yn y gwaith

  • Rhestr o is-gontractwyr a phartneriaid eraill
  • Manylion cyswllt a lleoliadau is-gontractwyr / partneriaid
  • Ar gyfer pob darparwr, niferoedd dysgwyr ym mhob maes dysgu a lefel 
  • Cynlluniau strategol a busnes neu debyg
  • Amserlen yr holl weithgareddau dysgwyr, hyfforddiant ac asesu am gyfnod yr arolygiad, yn cynnwys manylion am yr holl weithgareddau hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith, y trefnwyd eu cynnal, a’u lleoliad 
  • Ymweliadau dysgwyr ar gyfer arolygwyr yn ystod y cyfnod gweithgarwch pum niwrnod rhwng prynhawn dydd Llun a dydd Iau
  • Rhestrau staff a strwythur rheoli, yn cynnwys cyfrifoldebau ar gyfer pob partner a’r darparwr arweiniol 
  • Data heb ei wirio ar berfformiad dysgwyr am y cyfnod contract presennol
  • Cwblhau data yn amserol
  • Dogfennau allweddol a gwybodaeth benodol ar gyfer pob maes arolygu y credwch fydd o fudd i arolygwyr

Colegau Arbenigol Annibynnol: 

  • Copi o gynllun gwella diweddaraf y coleg
  • Copi o bolisi diogelu / amddiffyn plant y coleg
  • Copi o adroddiad hunanwerthuso diogelu’r coleg
  • Dadansoddiad o gynnydd dysgwyr dros y tair blynedd diwethaf, gan gynnwys manylion am yr asesiadau gwaelodlin a ddefnyddiwyd  
  • Manylion am amserlenni’r coleg ar gyfer cyfnod yr arolygiad, gan gynnwys unrhyw godau a’u hystyr 
  • Gwybodaeth am staff (enwau, cyfrifoldebau a chymwysterau, gan gyfeirio’n benodol at gyfrifoldebau uwch aelodau staff i gynorthwyo wrth gynllunio cyfarfodydd)
  • Rhestr o wiriadau DBS staff gyda rhifau’r gwiriadau, y dyddiad cyhoeddi a lefel y gwiriad a gwblhawyd e.e. manylach â’r rhestr gwahardd
  • Gwybodaeth am gamau gweithredu i fynd i’r afael ag argymhellion o adroddiadau blaenorol   
  • Cyfarwyddiadau a map/cynllun o leoliadau amrywiol, yn ôl yr angen