Arweiniad atodol: gwrando ar ddysgwyr mewn arolygiad - Medi 2021

Share document

Share this

Paru’r arddull gyfathrebu gydag anghenion y dysgwyr

Share document

Share this

Page Content

Mae’n bwysig ystyried y ffaith na fydd oedran datblygiadol rhai dysgwyr yn cyfateb i’w hoedran cronolegol ac i’w cyfnod addysg. Mae hyn yn fwyaf tebygol o ddigwydd ymhlith dysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig, y rhai sydd angen cymorth ychwanegol neu’r rhai sydd wedi dychwelyd i ddysgu yn ddiweddar. Yn yr achosion hyn, mae’n bwysig bod y cwestiynau o hyd yn briodol i oedran. Dylai’r ffordd o’u cyflwyno fod wedi’i gwahaniaethu, er enghraifft, trwy osgoi defnyddio jargon, a gall defnyddio symbolau gweledol fod yn ddefnyddiol ar gyfer cofnodi’r hyn sy’n well gan unigolion a gwneud dewisiadau. Mae defnyddio wynebau sy’n gwenu neu sy’n drist, symbolau Makaton , symbolau goleuadau traffig, ticiau a chroesau, defnyddio TG neu gymorth gweithiwr cymorth o ddewis yr unigolyn oll yn gallu cynorthwyo â gwrando ar ddysgwyr. Mae Makaton yn ddull o gyfathrebu gan ddefnyddio arwyddion a symbolau ac mae’n aml yn cael ei ddefnyddio fel proses gyfathrebu ar gyfer pobl sydd ag anawsterau dysgu.

Bydd rhai dysgwyr yn gallu cyfleu eu barnau eu hunain pan fyddant wedi cael ychydig o amser i feddwl. Gall trafodaeth ffurfiannol wedi’i threfnu gynnwys amser ar gyfer llunio a mynegi barnau. Yn achos dysgwyr penodol, bydd digon o rybudd ymlaen llaw ac amser i baratoi yn eu helpu nhw i gyfrannu’n ystyrlon. I bobl eraill, mae’n bosibl y bydd angen i’w dewis gyfathrebwr gymryd rhan. Byddai awyrgylch sy’n rhydd rhag pethau sy’n tynnu sylw, gan ofyn cwestiynau dros gyfres o sesiynau byr, o fudd o dan rai amgylchiadau. 

Mae’r tabl canlynol yn dangos sut gallai’r cyd-destun a’r arddull gyfathrebu gael eu haddasu fel eu bod yn cyfateb i oedran a cham datblygu’r dysgwyr. 

Cyfnod

Lleoliadau

Dulliau

Nodweddion sy’n gysylltiedig ag oeran

Y Cyfnod Sylfaen (o dan 5 oed)

Lleoliad cyfarwydd gan gynnwys dan do, yn yr awyr agored ac amser cinio.

  • siarad, gan ofalu bod y plant tawelach yn cael eu cynnwys, a pharu geirfa â dealltwriaeth

  • arsylwi ar sut mae plant yn ymddwyn

  • tynnu lluniau

  • rhannu llyfr

  • ymuno â chwarae plant

 

Fel arfer maent yn fodlon gydag oedolion ymweliadol mewn lleoliad cyfarwydd. Mae eu geirfa’n gyfyngedig felly maent yn dehongli ymddygiad hefyd.

Byddant ond yn dechrau dysgu sut i fynegi eu teimladau ar lafar.

Gallant ymateb i gwestiynau gan ddweud yr hyn y maent yn meddwl y byddwch yn dymuno’i glywed.

Gallant siarad am eu profiadau presennol neu fwyaf diweddar pan ofynnir iddynt ‘Beth ydych chi’n fwyaf hoff o’i wneud?’

Y Cyfnod Sylfaen (o 5 i 7 mlwydd oed)

Yn yr ystafell ddosbarth dan do ac yn yr awyr agored, yr ardal chwarae neu amser cinio.

  • siarad, gan ofalu bod y plant tawelach yn cael eu cynnwys, a pharu geirfa â dealltwriaeth

  • rhannu llyfrau a gwrando ar blant yn darllen

  • siarad ag unigolion wrth edrych ar eu gwaith yn yr ystafell ddosbarth

  • ymuno ag amser cylch

Fel arfer, byddant yn fodlon siarad ag ymwelwyr â’r darparwr.

Efallai y byddant yn deall bod arolygu’n bwysig i’r darparwr ac i’w hathro/hathrawes.

CA2

Yn yr ystafell ddosbarth, yr ardal chwarae neu amser cinio. Gallai grwpiau bach gyfarfod yn y llyfrgell neu mewn ystafell gyfarfod dawel.

  • senarios fel: ‘crëwch ysgol ddelfrydol. A yw’r ysgol hon yn debyg i’ch creadigaeth chi?’

  • trafodaeth strwythuredig ar ystod o bynciau a ddaw o’r fframwaith arolygu

  • siarad ag unigolion wrth edrych ar waith yn y dosbarth a gwrando ar blant yn darllen

  • arsylwi yn y dosbarth ac amser chwarae

  • ymuno â’r plant amser cinio

 

Maent yn debygol o ddeall pwysigrwydd arolygiad.

Mae’n bosibl y byddant yn poeni am fynegi barnau negyddol.

Maent yn debygol o fod yn gyfforddus ac yn fwy parod i siarad mewn grŵp bach y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

CA3 ac CA4

Mewn ystafelloedd dosbarth.

Gallai grwpiau bach gyfarfod yn llyfrgell y darparwr neu mewn ystafell gyfarfod.

Cyfarfod cyngor y darparwr/Eco-ysgolion/grŵp ffocws.

  • trafodaeth strwythuredig ar ystod o bynciau a ddaw o’r trywydddau ymholi

  • siarad ag unigolion wrth edrych ar waith yn y dosbarth

  • darllen cofnodion cyngor y darparwr/pwyllgor eco/grwpiau ffocws ac ati

  • siarad â chynrychiolwyr cyngor y darparwr/grŵp ffocws a gofyn sut maent yn ymgynghori â’u cymheiriaid a beth fuodd eu heffaith ar y darparwr

  • y mewnbwn y mae’r dysgwyr wedi’i gael i’r adroddiad hunanarfarnu

 

Byddant yn deall pwysigrwydd yr arolygiad.

Efallai y bydd rhai yn dioddef o ddiffyg hyder ac yn amharod i siarad mewn grŵp mawr.

Bydd llawer yn hyderus yn sgil cael eu cynnwys mewn ymgynghoriad ac efallai y bydd angen eu hannog i wrando ar farn pobl eraill.

Maent yn debygol o fod yn gyfforddus ac yn fwy parod i siarad mewn grŵp bach y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

16-19 oed ac oedolion

Lleoliad gwaith arferol, ystafelloedd cyffredin y myfyrwyr, clybiau ieuenctid, prosiectau ieuenctid, ystafelloedd cyfarfod, undeb y myfyrwyr, canolfan ddysgu gymunedol.

  • trafodaeth strwythuredig ar ystod o bynciau a ddaw o’r trywyddau ymholi

  • defnyddio cwestiynau syml sy’n delio ag un mater ar y tro

  • siarad ag unigolion wrth edrych ar waith, naill ai mewn lleoliad dysgu yn y gwaith neu mewn dosbarth

  • darllen cofnodion undeb y myfyrwyr /pwyllgor eco /grwpiau ffocws / cyngor dysgwyr sy’n oedolion, ac ati

  • siarad â chynrychiolwyr undeb y myfyrwyr/grwpiau ffocws a gofyn sut maent yn ymgynghori â chymheiriaid a pha effaith y maent wedi’i gweld, a pha broblemau sy’n dod i’r amlwg

  • dadansoddi holiaduron canfyddiadau dysgwyr mewn sefydliadau AB, dysgu yn y gwaith, cwmnïau gyrfaoedd, a darpariaeth ieuenctid ac oedolion awdurdodau lleol

  • gofyn i ddysgwyr am yr adborth y maent wedi’i gael o holiaduron

  • siarad am y mewnbwn y mae’r dysgwyr wedi’i roi i’r adroddiad hunanarfarnu

  • gofyn a yw unrhyw newidiadau wedi cael eu gwneud o ganlyniad i wrando ar eu barn

 

Mae’n bosibl na fydd dysgwyr bob amser yn hyderus i siarad mewn grŵp mawr ac mae’n bosibl y bydd angen help ar rai dysgwyr i strwythuro’u hatebion.

Mae’n bosibl y bydd angen mwy o gymorth ar grwpiau agored i niwed a’r rhai sydd wedi dychwelyd i ddysgu yn dilyn bwlch hir. Fel arall, bydd cyfathrebu yn ôl oedran cronolegol y dysgwyr yn effeithiol.

 

Share document

Share this