Gallai’r datganiadau a’r cwestiynau canlynol fod yn ddefnyddiol ar gyfer gwirio a chadarnhau ystyr y dysgwr:
- Mae’n swnio fel petaech yn dweud bod…yn digwydd yma. Ydw i’n gywir am hynny?
- Mae’n ymddangos eich bod yn teimlo’n… am y sefyllfa. Ydw i wedi cael yr argraff gywir?
- Nid wyf yn siŵr fy mod i’n eich deall chi’n llwyr. Ydych chi’n dweud …? Ai dyna beth rydych chi’n ei olygu?
Hefyd, gall rhai ysgogiadau syml helpu siaradwr amharod i fynd yn ei flaen:
- Mae hynny’n swnio’n ddiddorol. Dwedwch fwy wrtha’ i
- Dywedwch wrtha’ i am amser arall pan fydd…yn digwydd
- Ewch ymlaen – mae hyn yn ddiddorol iawn
Mae’r rhain yn aml yn cael eu geirio fel gorchmynion yn hytrach na chwestiynau, er mwyn osgoi’r ateb ‘Na, galla’ i ddim’ i’r math ‘Allwch chi …?’ o gwestiwn.
Mae’n bwysig gofalu nad ydych yn aralleirio datganiadau’r dysgwyr mewn ffordd sy’n ‘arwain y tyst’.