Arweiniad atodol: gwrando ar ddysgwyr mewn arolygiad - Medi 2021

Share document

Share this

Cyfathrebu â dysgwyr agored i niwed

Share document

Share this

Page Content

Mae’n hanfodol sicrhau bod barnau dysgwyr agored i niwed, sef y dysgwyr hynny y mae eu hanghenion a’u barnau’n gallu bod yn wahanol i fwyafrif eu cymheiriaid, yn cael eu cynnwys. Er mwyn cael gwybod sut brofiad y mae’r grwpiau hyn o ddysgwyr yn ei gael o ran addysg neu hyfforddiant, mae siarad â nhw’n breifat mewn grwpiau bychain o ryw dri neu bedwar dysgwyr yn aml yn ddefnyddiol.

Mae dysgwyr agored i niwed yn cynnwys y grwpiau canlynol:

Gall plant ifanc iawn ei chael hi’n anodd cael eu barnau eu hunain, ac nid oes ganddynt fodd o fynegi eu barn. Mae’n debygol y byddant yn fwy cyffyrddus yn siarad ag arolygydd fel rhan o grŵp bach yn eu lleoliad arferol ac maent yn debygol o fod angen cael oedolyn cyfarwydd gyda nhw. Bydd hyn yn ddefnyddiol pan fydd iaith fynegiannol y plant yn gyfyngedig neu pan fyddant yn swil yng nghwmni dieithriaid.

Gall dysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig neu’r rhai sydd angen cymorth ychwanegol fod yn fwy tebygol o gael anhawster yn defnyddio iaith lafar i gyfleu eu barnau ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid iddynt ddibynnu ar bobl eraill i gyfleu eu hymatebion. I rai, ni fydd eu hoedran gwirioneddol yn cyfateb i’w hoedran datblygiadol. Mae’n debygol na fydd y rhai sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol neu iechyd meddwl yn meddu ar yr ymddiriedaeth a’r hyder mewn pobl eraill sy’n hanfodol i gyfathrebu’n effeithiol. 

Yn achos dysgwyr sydd ag anghenion cyfathrebu ychwanegol neu wahanol, bydd angen i arolygwyr gael help arbenigol gan y bobl hynny sy’n gallu defnyddio’r dull priodol o gyfathrebu. Er enghraifft, gall hyn fod yn un o’r iaith arwyddion neu’r systemau lluniau, offer TGCh neu Braille.

Mae dysgwyr sydd ag anawsterau iechyd corfforol yn dibynnu ar bobl eraill am eu gofal a’u lles, ac sy’n gorfod rhoi gofal meddygol yn flaenoriaeth uwch na dysgu ac sy’n debygol o ddioddef tarfu i’w rhaglenni addysg neu hyfforddiant. 

Plant sy’n cael eu gwahardd o’r ysgol nad oes ganddynt lais yn y broses wahardd ac sy’n gallu dioddef tarfu sylweddol i’w haddysg, cyn ac ar ôl y gwaharddiad. Maent yn debygol o ddiflannu o addysg a hyfforddiant, ond gallant ailymddangos yn y systemau iechyd meddwl neu gyfiawnder troseddol. 

Plant sy’n derbyn gofal a phlant sydd ar y gofrestr risg y mae’n hysbys bod eu deilliannau addysg, cymdeithasol, iechyd a gyrfaol yn llawer gwaeth na deilliannau eu cymheiriaid. Maent yn fwy tebygol o gael anghenion dysgu, cymdeithasol neu emosiynol ychwanegol ac i roi’r gorau i’w haddysg neu eu hyfforddiant yn gynnar. Maent hefyd yn fwy tebygol o ddiflannu o addysg a hyfforddiant ac ailymddangos yn y systemau iechyd meddwl neu gyfiawnder troseddol. 

Plant a phobl ifanc mewn darpariaeth addysgol breswyl sy’n debygol o fod ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’n debygol y bydd rhai o’r plant a’r bobl ifanc hyn hefyd yn blant sy’n derbyn gofal. Mae’n bosibl y byddant yn bell o’u cartref ac angen sylw penodol i’w gofal, eu lles a’u hamddiffyn rhag niwed.

Aelodau grwpiau ethnig lleiafrifol a ffydd sy’n gallu wynebu rhwystrau diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol rhag cyfleu eu barnau fel dysgwyr ac a all ddioddef hiliaeth. Efallai nad oes ganddynt yr ymddiriedaeth na’r hyder bod eu barnau o bwys. 

Dysgwyr sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol ac sydd efallai angen cymorth er mwyn cyfathrebu ag arolygwyr. 

Mae profiadau addysg teithwyr yn aml yn wahanol iawn i brofiadau mwyafrif eu cymheiriaid ac maent yn fwy tebygol o ddioddef allgáu cymdeithasol. Efallai nad oes ganddynt yr ymddiriedaeth na’r hyder bod eu barnau o bwys.

Gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches wynebu rhwystrau diwylliannol, crefyddol ac ieithyddol rhag cyfleu eu barnau fel dysgwyr a gallant ddioddef hiliaeth. Byddant wedi cael profiadau addysgol gwahanol iawn i’r rhan fwyaf o’u cymheiriaid ac mae’n bosibl y byddant wedi dioddef trawma. 

Efallai bydd angen cymorth ar lawer o’r dysgwyr hyn er mwyn cyfathrebu ag arolygwyr.

Share document

Share this