Mae pobl ifanc, Llywodraeth Cymru a llawer o sefydliadau wedi rhannu eu pryderon yn gyhoeddus am fynychter honedig aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru. Dywed disgyblion wrthym ni fod hyn yn digwydd wyneb yn wyneb yn ystod oriau ysgol, ond dywedant hefyd fod hyn yn digwydd mwy ar-lein ac ar ôl yr ysgol.
Mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, yn cynnwys aflonyddu rhywiol ar-lein, yn broblem gymdeithasol sy’n gyffredin ym mywyd oedolion hefyd. Mae nifer yr oedolion, yn enwedig menywod sydd wedi profi rhyw fath o aflonyddu rhywiol mewn gofod cyhoeddus neu ar-lein yn eithriadol o uchel, yn enwedig ymhlith pobl 18-24 mlwydd oed. Canfu adroddiad diweddar yn dwyn y teitl ‘Prevalence and reporting of sexual harassment in public places’ gan Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar gyfer UN Women UK fod 71% o fenywod o bob oedran yn y Deyrnas Unedig wedi profi rhyw fath o aflonyddu rhywiol mewn gofod cyhoeddus. Dywedodd cynifer ag 86% o fenywod 18-24 mlwydd oed eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol. Fodd bynnag, mae nifer y menywod a roddodd wybod i’r heddlu am y digwyddiad yn frawychus o isel. Dyma’r ddau brif reswm a ddyfynnwyd gan fenywod o bob oedran am beidio â rhoi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiadau:
Doeddwn i ddim yn meddwl bod y digwyddiad yn ddigon difrifol i roi gwybod i’r heddlu (55%) a
Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai rhoi gwybod am y digwyddiad yn helpu (45%). (APPG for UN Women UK, 2021, t.6)
Fodd bynnag, cytunodd 44% o fenywod y byddent yn cael eu hannog i roi gwybod i’r heddlu am y digwyddiad pe bai hyn yn ei atal rhag digwydd eto.
Ers Mehefin 2021, mae’r mudiad gwrth-dreisio cymunedol ‘Everyone’s Invited’ (dim dyddiad) wedi gwahodd pobl sydd wedi goroesi treisio ac aflonyddu rhywiol i rannu eu storïau ar y wefan gyda’r nod o ddadorchuddio diwylliant treisiol drwy sgwrsio, addysg a chefnogaeth. Mae dros 15,000 o dystiolaethau dienw wedi cael eu cyflwyno a’u rhannu ar y wefan. Ar adeg y cynllunio ar gyfer y gwaith hwn, roedd y wefan yn cynnwys tystiolaethau gan ddisgyblion neu gyn-ddisgyblion am aflonyddu rhywiol honedig rhwng cyfoedion mewn 84 o ddarparwyr addysg yng Nghymru. Mae’r ysgolion a enwyd yn cynnwys ysgolion uwchradd ac annibynnol prif ffrwd ac ychydig iawn o ysgolion cynradd. Mae’r wefan yn cynnwys tystiolaethau gan ddisgyblion mewn ychydig iawn o golegau addysg bellach yng Nghymru hefyd.
Mae cefnogaeth ar gyfer diwygio a newid agweddau tuag at aflonyddu a cham-drin rhywiol, yn enwedig tuag at fenywod, wedi cynyddu’n sylweddol dros y tair blynedd ddiwethaf trwy weithgareddau gan sefydliadau fel ‘mudiad ‘Me Too’ (2021) (mudiad cymdeithasol yn erbyn cam-drin rhywiol ac aflonyddu rhywiol lle mae unigolion yn rhoi cyhoeddusrwydd i honiadau o droseddau rhywiol. Nod y mudiad yw grymuso dioddefwyr i siarad, a chael empathi a chydgefnogaeth gan bobl eraill). Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos nad yw menywod a dynion sy’n profi aflonyddu rhywiol yn bwrw ymlaen â’u cwynion trwy’r llysoedd mewn llawer o achosion.
Trwy ein gwaith gyda disgyblion yn ystod ymweliadau ag ysgolion, gwelwn fod problem debyg yn bodoli mewn ysgolion uwchradd[1]. Nid yw disgyblion yn dweud wrth eu hathrawon yn systematig am aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Mae hyn yn digwydd am nifer o resymau, sef:
- mae pobl ifanc yn teimlo bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion wedi cael ei normaleiddio a bron i’w ddisgwyl
- caiff eu hymddygiadau a’u hagweddau eu dylanwadu’n sylweddol gan yr hyn maent yn ei weld yn digwydd ar gyfryngau cymdeithasol
- mae plant a phobl ifanc yn troi yn fwy at y rhyngrwyd am gymorth ac arweiniad yn hytrach nag ymgynghori â rhieni neu oedolion eraill
- dywed disgyblion nad yw athrawon yn cymryd aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn ddigon difrifol
[1] Pan gyfeirir at ysgolion uwchradd, rydym yn cynnwys disgyblion oedran ysgolion uwchradd mewn ysgolion pob oed.