Addysg Drochi Cymraeg - Strategaethau a dulliau i gefnogi dysgwyr 3-11 mlwydd oed

Share document

Share this

Background

Share document

Share this

Defnydd o’r term ‘addysg drochi’

Defnyddiwyd y term 'addysg drochi' gyntaf yng Nghanada yn y 1960au yn ôl Baker a Wright (2021) sy'n cyfeirio at arbrofion addysgol a oedd yn anelu at blant i ddod yn ddwyieithog (a deuddiwylliannol) yn Saesneg a Ffrangeg. Maent yn awgrymu bod 'addysg drochi' yn derm ymbarél. Er bod pwyslais cyffredin ar gyflwyno iaith newydd (neu iaith darged), gall dulliau addysg drochi amrywio mewn sawl ffordd yn rhyngwladol. Er enghraifft, gall canran yr addysgu drwy gyfrwng yr iaith darged neu'r oedran y cyflwynir yr iaith darged fod yn wahanol.

Gall ystyried 'addysg iaith treftadaeth' fod o gymorth wrth ystyried y cyd-destun Cymreig. Yn ôl Baker a Wright (2021, t.237), mae’n derm sy’n cyfeirio at ystod eang o raglenni sy’n anelu at ddarparu cyfle i ddysgwyr ddatblygu lefel hyfedredd uwch mewn iaith leiafrifol. Mae gan 'addysg iaith treftadaeth' ffocws ar warchod ac adfywio ieithoedd lleiafrifol ac mae'n tueddu i dargedu'r rhai sydd eisoes yn siarad yr iaith honno. Noda Redknap (2006) a Lewis (2006, 2011) bod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn aml yn addysgu dysgwyr o gartrefi Cymraeg eu hiaith a chartrefi di-Gymraeg yn yr un dosbarth. Mae hyn yn golygu bod athroniaeth 'addysg drochi' ac 'addysg iaith treftadaeth' yn aml yn cael eu huno mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru. Hynny yw, mae addysg drochi yng Nghymru fel arfer yn gyfuniad o’r hyn a adnabuwyd yn rhyngwladol fel ‘addysg drochi’ ac ‘addysg iaith treftadaeth’.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru waith ymchwil ar ‘Addysg cyfrwng Cymraeg drwy drochi hwyr: mapio’r ddarpariaeth yng Nghymru’ ym mis Hydref 2021. Mae’n darparu gwybodaeth gefndirol defnyddiol ynglŷn a dulliau trochi ar gyfer hwyrddyfodiaid mewn 10 awdurdod lleol yng Nghymru.

Y tu allan i gylchoedd academaidd, mae'r derminoleg a ddefnyddir i ddisgrifio 'addysg drochi' yn amrywio. Yn ein hadroddiad ar gaffael y Gymraeg, rydym yn disgrifio trochi yn y Gymraeg fel a ganlyn:

‘Mae’r dull trochi yn ffordd o weithio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio’r Gymraeg fel yr unig gyfrwng addysgu a dysgu, gan ddefnyddio technegau ymarferol a gweledol i gynorthwyo dysgwyr i ddatblygu geirfa a chystrawen' (Estyn, 2021, t.63)

Mae Llywodraeth Cymru yn disgrifio addysg drochi cyfrwng Cymraeg drwy esbonio:

‘Mae ysgolion sy'n darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn defnyddio'r Gymraeg i gyflwyno'r cwricwlwm. Daw dysgwyr yn yr ysgolion hyn o amrywiaeth o gefndiroedd ieithyddol, rhai o gartrefi lle siaredir y Gymraeg ac eraill lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad. Mae dysgwyr sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac nad ydynt yn siarad Cymraeg gartref yn cael proses o drochi iaith. Addysgir dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn yr un ystafell ddosbarth, p'un a ydynt yn siarad Cymraeg gartref ai peidio. Gellir dod o hyd i enghreifftiau o ysgolion sy'n ymarfer trochi ledled y byd. Mae model Canada ar gyfer gweithredu trochi wedi'i ddogfennu'n eang. Mae'n dangos bod angen trochi cychwynnol am ddwy neu dair blynedd yn yr iaith darged er mwyn sicrhau bod cymhwysedd iaith plentyn yn cael ei ddatblygu’n ddigonol i ddysgu drwy’r ail iaith honno. Yna fe gyflwynir iaith arall. Dyma’r model yr ydym yn ei ddefnyddio yng Nghymru ac mae’n golygu ein bod yn addysgu'r plant hynny yn Gymraeg yn unig hyd at a chan gynnwys y flwyddyn ysgol y mae mwyafrif y dysgwyr yn troi'n 7 oed. Ar ôl hynny, yr ydym yn cyflwyno Saesneg fel pwnc, ac i wahanol raddau fel cyfrwng addysgu. Cymraeg yw prif iaith yr ystafell ddosbarth o hyd. (Llywodraeth Cymru, 2021b, t.6-7)

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod dau brif gategori o addysg drochi, y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer gweddill yr adroddiad hwn:

icon

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r term 'addysg drochi cynnar' i gyfeirio at addysg drochi yn y cyfnod sylfaen (Llywodraeth Cymru, 2021a, t.6). Mae hyn yn cynnwys profiadau dysgwyr mewn lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn ôl eu diffiniad o ysgolion yn y categori cyfrwng Cymraeg, addysgir dysgwyr yn llawn drwy'r Gymraeg tan ddiwedd y cyfnod sylfaen yn y darparwyr hyn. Byddwn yn defnyddio’r term ‘trochi cynnar’ ar gyfer gweddill yr adroddiad hwn.

 

icon

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r term 'addysg drochi hwyr' i gyfeirio at addysg drochi sy'n targedu 'hwyrddyfodiaid' (neu 'newydd-ddyfodiaid') i addysg cyfrwng Cymraeg (er eu bod yn cydnabod bod academyddion yn defnyddio termau ychwanegol fel ‘addysg drochi canolig’) (Llywodraeth Cymru, 2021a, t.3-4). Maent yn diffinio 'hwyrddyfodiaid' fel ‘plant (sy’n 7 oed neu drosodd) nad ydynt yn siarad Cymraeg ond sy’n dymuno cael addysg cyfrwng Cymraeg ar ôl diwedd y cyfnod sylfaen. Byddwn yn defnyddio’r term ‘trochi .

 

 

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried ‘trochi cynnar’ mewn lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mewn ffrydiau Cymraeg mewn ysgolion dwyieithog. Wrth ystyried 'trochi hwyr', mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r ddarpariaeth sydd ar gael i gefnogi dysgwyr 7-11 oed. Gellir cynnig cymorth o'r fath mewn ysgolion cynradd, mewn canolfannau trochi iaith, neu fel rhan o raglen bontio ar y cyd ag ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio sawl term gwahanol i gyfeirio at y canolfannau hyn, gan gynnwys ‘canolfan trochi iaith’, ‘uned iaith Gymraeg’ a ‘chanolfan trochi Cymraeg’. Yn yr adroddiad hwn, defnyddir y term 'canolfan trochi iaith’ oni bai ein bod cyfeirio at ddarparwr penodol. Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu cefnogaeth trochi hwyr yng nghyfnod allweddol 3, fodd bynnag ni wnaethom ymweld ag ysgolion uwchradd fel rhan o’r adolygiad thematig yma.

O'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, mae 10 yn cynnal canolfannau trochi iaith i ddarparu rhaglen 'trochi hwyr' dwys i hwyrddyfodiaid. Yn y 10 awdurdod sy’n cynnal canolfannau trochi iaith, mae cyfanswm o 21 canolfan. Mae llawer o’r canolfannau hyn yn tueddu i fod yn yr awdurdodau lleol sydd â chyfran uchel o siaradwyr Cymraeg, ac mewn rhai o'r awdurdodau mae addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn fwy cyffredin nag addysg cyfrwng Saesneg. Maent yn aml wedi'u lleoli mewn ysgolion 'lletyol' (host) ond maent yn rhan o ddarpariaeth y gwasanaeth addysg llywodraeth leol. Gweler atodiad 1 am restr o ganolfannau trochi iaith Cymru yn nhymor yr hydref, 2021. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ariannu canolfannau trochi iaith mewn nifer o awdurdodau lleol sydd ar hyn o bryd heb y ddarpariaeth[TR1] .

Ffigur 1: Lleoliad canolfannau trochi iaith yng Nghymru

 

 

 

National priorities

 

 

Mae addysg drochi yn cydblethu gyda nifer o flaenoriaethau cenedlaethol. Mae atodiad 2 yn egluro perthnasedd y ddogfennaeth canlynol i’r maes addysg drochi.

Yn ystod y cyfnod y gwnaethom gysylltu ag awdurdodau lleol, sef tymor yr Hydref 2021, roedd bron pob un ohonynt yn gweithio tuag ar baratoi neu eisoes yn ymgynghori ar gynnwys eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd. O ganlyniad, mae llawer o awdurdodau wedi diwygio eu gweledigaeth ar gyfer addysg drochi Cymraeg yn ddiweddar ac roeddent yn parhau i addasu eu cynlluniau yng ngoleuni adborth o’r ymgynghoriadau.

 

Share document

Share this