Addysgu hanes Cymru gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Share document

Share this

Atodiad 3

Share document

Share this

Page Content

Y cyfartaledd treigl cenedlaethol tair blynedd yn 2021 ar gyfer disgyblion o oed ysgol statudol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd yng Nghymru yw 21%. Ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru, mae 19% yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Mae gan 18% o ddisgyblion mewn ysgolion cynradd yng Nghymru ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig (AAA). Ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru, mae gan 20% o ddisgyblion ddarpariaeth AAA.

Daw data’r holl astudiaethau achos o gronfa ddata Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion Llywodraeth Cymru. Mae’r data diweddaraf ar gyfer Ionawr 2021.

Ysgol Gynradd Albany

Mae Ysgol Gynradd Albany yn ysgol cyfrwng Saesneg sydd wedi’i lleoli’n agos at ganol Caerdydd yn ardal amlddiwylliannol y Rhath. Ar hyn o bryd, mae 434 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw llawer o’r disgyblion o gefndir lleiafrifoedd ethnig ac mae mwyafrif y disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 28%.

Ysgol Gynradd Cogan

Mae Ysgol Gynradd Cogan wedi’i lleoli yn ardal Cogan ym Mhenarth, ym Mro Morgannwg. Mae 209 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae ychydig dros 14% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn wyn Prydeinig ac yn siarad Saesneg gartref. Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndir lleiafrif ethnig. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tuag 13%.

Ysgol Gynradd Llangrallo

Ysgol cyfrwng Saesneg yw Ysgol Llangrallo, sydd wedi’i lleoli ym mhentref Llangrallo ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n gwasanaethu’r pentref ei hun, ond mae nifer sylweddol o blant o’r ardal gyfagos yn mynychu’r ysgol. Ar hyn o bryd, mae 152 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 18 o ddisgyblion meithrin. Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndir lleiafrif ethnig, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn siarad Saesneg gartref. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 14%.

Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer

Mae Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer wedi’i lleoli ym Mhontnewynydd, ger Pont-y-pŵl. Yr awdurdod lleol yw Torfaen. Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol 258 o ddisgyblion ar y gofrestr. Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref, ac mae bron pob un o’r disgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig.

Mae gan yr ysgol gyfradd uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 38%.

Uned Cyfeirio Disgyblion Sir Ddinbych Ysgol Plas Cefndy

Mae UCD portffolio Sir Ddinbych yn uned cyfeirio disgyblion (UCD) pob oed i ddisgyblion sy’n wynebu anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Mae’r UCD yn gweithredu ar draws tri safle, ac mae ganddi strwythur rheolaeth linell integredig sy’n cael ei oruchwylio gan un pwyllgor rheoli. Mae’r prif safle yn Ysgol Plas Cefndy, Y Rhyl yn gartref i ddarpariaeth y cyfnod sylfaen hyd cyfnod allweddol 4 i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, a darpariaeth Milestones i grŵp bach o ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 3 a 4 sydd â lefelau uchel o orbryder. Nod yr UCD yw dychwelyd disgyblion i addysg brif ffrwd neu addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Roedd 67 o ddisgyblion ar y gofrestr yn 2019. Mae panel lleoliadau’r awdurdod lleol yn rheoli’r holl dderbyniadau i’r UCD. Mae gan fwyafrif y disgyblion gofrestriad deuol â’u hysgol brif ffrwd. Gall yr holl ddisgyblion fanteisio ar addysg amser llawn.

Ysgol Gynradd Dowlais

Mae Ysgol Gynradd Dowlais yn gwasanaethu cymuned Dowlais yn awdurdod lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae 191 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw lleiafrif o ddisgyblion o gefndir lleiafrif ethnig, ac ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tuag 21%.

Ysgol Gynradd Mount Stuart

Ysgol cyfrwng Saesneg sydd wedi’i lleoli yn Nhre-biwt, Caerdydd yw Ysgol Gynradd Mount Stuart. Ar hyn o bryd, mae 461 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw bron pob un o’r disgyblion o gefndir lleiafrif ethnig, ac mae llawer o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Dros y tair blynedd diwethaf, bu tua 27% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Ysgol Gynradd Gatholig y Forwyn a Sant Mihangel

Ysgol gynradd wirfoddol a gynorthwyir yw Ysgol Gynradd Gatholig y Forwyn a Sant Mihangel, sydd wedi’i lleoli yn y Fenni yn awdurdod lleol Sir Fynwy. Mae gan yr ysgol 187 o ddisgyblion ar y gofrestr. Daw lleiafrif o ddisgyblion o gefndir lleiafrif ethnig, ac ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 22%.

Ysgol Gynradd Gymunedol Doc Penfro

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Doc Penfro wedi’i lleoli ger canol tref Doc Penfro yn awdurdod lleol Sir Benfro. Mae 659 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 100 o ddisgyblion meithrin. Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig, ac ychydig iawn ohonynt sy’n siarad Cymraeg gartref. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 29%.

Ysgol Gynradd Pilgwenlli

Ysgol fawr amlethnig mewn ardal o ddifreintedd cymdeithasol uchel ym Mhilgwenlli, Casnewydd yw Ysgol Gynradd Pilgwenlli. Daw llawer o ddisgyblion o gefndir lleiafrif ethnig ac mae llawer ohonynt yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 36%.

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr Gwy

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr Gwy wedi’i lleoli ar gyrion Rhaeadr Gwy yng nghanolbarth Cymru. Mae gan yr ysgol 203 o ddisgyblion ar y gofrestr. Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 18%. Daw’r rhan fwyaf o’r disgyblion o gefndir gwyn Prydeinig. Mae’n ysgol dwy ffrwd a chaiff 65 o ddisgyblion eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tuag 20%.

Ysgol Stanwell

Mae Ysgol Stanwell yn ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg i’r rhai 11 i 19 oed, sydd wedi’i lleoli ym Mhenarth, Bro Morgannwg. Ar hyn o bryd, mae 1,998 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 474 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymunedau Penarth a Sili. Daw llawer o’r disgyblion o gefndir gwyn Prydeinig, ac ychydig iawn ohonynt sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 5%, sydd ymhell islaw’r cyfartaledd cenedlaethol.

Ysgol Gynradd St Woolos

Mae Ysgol Gynradd St Woolos wedi’i lleoli ger canol dinas Casnewydd yn awdurdod lleol Casnewydd. Mae 351 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr. Mae 51 o ddisgyblion yn mynychu’r dosbarth meithrin naill ai yn y bore neu’r prynhawn. Daw mwyafrif y disgyblion o gefndir lleiafrif ethnig ac mae ychydig dros hanner ohonynt yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 32%.

Ysgol Gynradd Talycopa

Mae Ysgol Gynradd Talycopa yn gwasanaethu cymuned Llansamlet ar gyrion Abertawe. Mae gan yr ysgol 223 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 38 o ddisgyblion rhan-amser yn y dosbarth meithrin. Daw’r rhan fwyaf o’r disgyblion o gefndir gwyn Prydeinig. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 19%.

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

Ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion rhwng 11 a 19 oed yw Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Mae’r ysgol wedi’i lleoli yng Nghaerfyrddin ac mae’r gwasanaethu’r dref, ynghyd â’r pentrefi a’r ardal wledig gyfagos.

Mae 928 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 185 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth. Daw llawer o’r disgyblion o gartrefi Cymraeg eu hiaith. Daw ychydig iawn o’r disgyblion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 4%.

Ysgol David Hughes

Ysgol gyfun ddwyieithog yw Ysgol David Hughes, sydd â 1,128 o ddisgyblion rhwng 11 a 18 oed ar y gofrestr, y mae 214 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae’r ysgol yn gwasanaethu dalgylch de-ddwyrain Ynys Môn, sef ardal amaethyddol a thwristiaeth yn bennaf, gyda rhywfaint o ddiwydiant ysgafn. Mae bron i 50% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref. Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n dod o gefndiroedd lleiafrif ethnig. Caiff dros 7 o bob 10 o ddisgyblion eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 10%.

Ysgol Gyfun Gŵyr

Ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion rhwng 11 a 19 oed yw Ysgol Gyfun Gŵyr. Mae’r ysgol wedi’i lleoli yn Nhre-gŵyr ac mae’n gwasanaethu gorllewin Abertawe. 

Mae 1,107 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 191 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth. Mae tuag 8% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Daw ychydig yn llai nag un o bob tri o’r disgyblion o gartrefi Cymraeg eu hiaith. Ychydig iawn o’r disgyblion sydd o gefndiroedd lleiafrif ethnig.

Ysgol Gynradd Talwrn

Mae Ysgol Gynradd Talwrn wedi’i lleoli ym mhentref Talwrn, tua thair milltir o Langefni ar Ynys Môn. Cymraeg yw prif gyfrwng bywyd a gwaith yr ysgol, a chaiff Saesneg ei chyflwyno i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 2. Mae 35 o ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed ar y gofrestr. Ychydig iawn o’r disgyblion sydd o gefndir lleiafrif ethnig, ac mae mwyafrif y disgyblion yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 14%.

Ysgol Y Bynea

Mae Ysgol Gynradd Bynea wedi’i lleol ym mhentref Bynie, ger Llanelli. Mae’r ysgol wedi tyfu’n gyflym dros y pedair blynedd diwethaf ac, ar hyn o bryd, mae 196 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr. Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac ychydig iawn ohonynt sy’n siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Dros y tair blynedd diwethaf, cyfran gyfartalog y disgyblion a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 14%.

 

Share document

Share this